Filtrer par genre

Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith

Mimosa Cymru

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

116 - Pennod 95 - ‘A Natur sy’n canu ei hanthem i mi’: Islwyn a’i ‘Storm’
0:00 / 0:00
1x
  • 116 - Pennod 95 - ‘A Natur sy’n canu ei hanthem i mi’: Islwyn a’i ‘Storm’

    Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’. Yn ôl Glyn Tegai Hughes, hwn oedd bardd Cymraeg gorau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond er i Islwyn ennill enw fel bardd o bwys yn ystod ei oes trwy gystadlu’n aml mewn eisteddfodau ac ati, nid oes llawer sy’n arbennig am yr holl farddoniaeth eisteddfodol hon. Mae’r bardd hwn yn haeddu lle anrhydeddus yn hanes llenyddiaeth Gymraeg oherwydd un gerdd a gyfansoddodd, ‘Y Storm’. Ond mae’r gerdd honno’n hir iawn – dros 6,000 o linellau! Dim ond ar ôl i Islwyn farw y cyhoeddwyd y bryddest fawr, a chafodd ddylanwad mawr ar genhedlaeth arall o feirdd Cymraeg. Myfyriwn ynghylch rhai dyfyniadau dethol wrth i ni gnoi cil ar natur unigryw y gerdd uchelgeisiol hon. ** ‘And it’s Nature who’s singing its anthem to me’: Islwyn and his ‘Storm’ We discuss William Thomas (1832-1878) in this episode, a poet remembered as ‘Islwyn’. According to Glyn Tegai Hughes, he was the best Welsh-language poet of the nineteenth century. But although Islwyn won a name as a poet of significance during his lifetime by competing often in eisteddfodau and etc., there is not much of worth in all of this eisteddfodic poetry. This poet deserves an honoured place in the history of Welsh literature because of one poem he composed, ‘The Storm. But this poem is very long – over 6,000 lines! It was only after Islwyn died that the great pryddest was published, and it had a big influence on another generation of Welsh poets. We consider a few choice quotes as we mull over the unique nature of this ambitious poem. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - ‘Y Storm’ Gyntaf gan Islwyn, gol. Meurig Walters (1980). - Glyn Tegai Hughes, ‘Islwyn and Y Storm’, in Hywel Teifi Edwards (ed.), A guide to Welsh literature c. 1800-1900 (2000). - Meredydd Evans, ‘Y Storm’ gyntaf (1988). - Alun Llwelyn-Williams, Y Nos, Y Niwl a’r Ynys [:] Agweddau ar y Profiad Rhamantaidd yng Nghymru 1890-1914 (1960).

    Thu, 10 Sep 2026 - 34min
  • 115 - Pennod 94 - Profedigaethau Enoc Huws: Daniel Owen (rhan 2)

    Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws. Dechreuwn gyda brawddeg agoriadol y nofel – o bosibl y frawddeg enwocaf yn holl hanes ffuglen Gymraeg – ac ystyried arwyddocâd y feirniadaeth gymdeithasol y mae’n gerbyd iddi. Dyma’r nofelydd o’r Wyddgrug ar ei orau, ac yntau’n awdur a oedd yn ddigon dewr ac yn ddigon hyderus i edrych yn feirniadol ar ei gymdeithas ei hun. Mae hefyd yn dychanu diwylliant llenyddol Cymraeg cyfoes a’r traddodiad crefyddol yr oedd yn perthyn iddo. Rhyfeddwn wrth sylwi bod llawer o ddychan y nofel yn ymddangos yn hynod gyfoes, a Richard Wyn Jones yn gweld Susi Trefor fel influencer arwynebol ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw! * The Tribulations of Enoc Huws: Daniel Owen (part 2) We have fun in this episode while discussing Daniel Owen’s satirical masterpiece, The Tribulations of Enoc Huws. We begin with the novel’s opening sentence – possibily the most famous sentence in the entire history of Welsh fiction – and considering the social critique for which it is a vehicle. This is the novelist from Yr Wyddgrug (Mold) at his best, an author who was brave enough and confident enough to look critically at his own society. He also satirizes contemporary Welsh literary culture and the religious tradition to which he himself belonged. We are amazed as we note that much of the novel’s satire appears very contemporary, and Richard Wyn Jones sees Susi Trefor as a superficial influencer on today’s social media! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llyfrau/rhyddiaith-a-nofelau/profedigaethau-enoc-huws - Rydym ni’n deall y bydd Melin Bapur yn ailgyhoeddi Profedigaethau Enoc Huws cyn bo hir.

    Thu, 27 Aug 2026 - 27min
  • 114 - Pennod 93 - ‘Cymreigrwydd ei Gymeriadau’: Daniel Owen (rhan 1)

    Wedi ystyried gwrthwynebiad rhai Cymry Ymneilluol i’r nofel mewn ambell bennod ddiweddar, cawn yn y bennod hon gyfle i ddechrau trafod Daniel Owen, nofelydd Cymraeg mwyaf llwyddiannus y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nodwn fod ei waith wedi’i wreiddio yng nghymdeithas ddiwydiannol sir y Fflint a bod Methodistiaeth Galfinaidd yn ddylanwad mawr arno hefyd, er iddo ysgrifennu ffuglen ddychanol sy’n feirniadol iawn o’i enwad ei hun. Lluniodd fersiwn ffuglennol o’i dref enedigol, Yr Wyddrug, yn Y Dreflan, ac edrychwn ar nifer o ddyfyniadau sy’n enghreifftio’i ddychan afieithus a’i allu i gymeriadu’n gryno ac yn effeithiol. Wrth drafod ei nofel boblogaidd, Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel – a dechrau trafod campwaith arall ganddo, Profedigaethau Enoc Huws – nodwn y modd y tynnodd yr awdur ei hun sylw at ‘Gymreigrwydd ei gymeriadau’ gan bwysleisio’r ffaith ei fod yn cynhyrchu nofelau Cymraeg a Chymreig, yn wahanol i’r cyfieithiadau a frithai’r wasg gyfnodol ar y pryd. * ‘The Welshness of his Characters’: Daniel Owen (part 1) Having considered some Welsh Nonconformists’ opposition to the novel in a few recent episodes, we have an opportunity in this episode to start discussing Daniel Owen, the most succesful Welsh-language novelist of the nineteenth century. We note that his work was grounded in Flintshire’s industrial society and that Calvinistic Methodism was another big influence upon him, although he wrote satirical fiction which is very crictical of his own denomination. He created a fictional version of his home town, Mold, in Y Dreflan, and we look at a few quotes which exemplify his vivacious satire and his ability to characterize succinctly and effectively. While discussing his popular novel, Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel – and while beginning to discuss another of his masterpieces, Profedigaethau Enoc Huws – we note that the author himself drew attention to the ‘Welshness of his characters’, emphasizing the fact that he was producing novels which were Welsh in character as well as language, unlike the translations which appeared frequently in the periodical press at the time. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Robert Rhys, Daniel Owen (2000).

    Thu, 13 Aug 2026 - 23min
  • 113 - Pennod 92 - Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg Patagonia

    A ninnau wedi rhoi sylw i lenyddiaeth Gymraeg Gogledd America mewn cwpl o benodau cynharach, dyma gyfle i ehangu’r drafodaeth ac ystyried y modd yr ehangodd y ‘diaspora’ Cymraeg wrth i’r Wladfa – neu’r ‘Wladychfa’ – ym Mhatagonia gael ei chreu. Ond dechreuwn trwy bwysleisio’r cysylltiad rhwng y profiadau Cymreig a Chymraeg yng Ngogledd America a hanes cynnar Y Wladfa trwy graffu ar gyfnod Michael D. Jones yn yr Unol Daleithiau. (Ac mae anghytundeb cyfeillgar ond gweddol boeth rhwng y ddau ohonom, wrth i Richard Wyn Jones geisio hawlio’r clod am ‘ddarlith ymfflamychol’ a draddododd Jerry Hunter mewn cynhadledd yng Nghaerdydd yn 2001, sef ‘Cincinnati: Crud Cenedlaetholdeb Cymreig?’). Ond canolbwynt y bennod yw degawdau cyntaf gwasg Gymraeg y Wladfa, wrth i ni ryfeddu at ymdrech i greu cylchgrawn heb wasg argraffu cyn symud ymlaen i ystyried amrywiaeth ddiddorol o gynnwys Y Dravod. * The Beginnings of Patagonia’s Welsh Literature As we’ve given attention to North America’s Welsh-language literature in a couple of earlier episodes, here’s an opportunity to widen the discussion and consider the way in which the Welsh ‘diaspora’ widened as Y Wladfa – or Y Wladychfa – in Patagonia was created. But we begin by emphasizing the connection between Welsh experiences in North America and the early history of Y Wladfa by examining the period Michael D. Jones spent in the United States. (And there’s a friendly but fairly heated disagreement between the two of us, as Richard Wyn Jones tries to take credit for an ‘inflammatory lecture’ which Jerry Hunter delivered in a conference in Cardiff in 2001, namely ‘Cincinnati: the Cradle of Welsh Nationalism?’) But most of the episode focusses on the first decades of the Welsh-language press of Y Wladfa, as we are amazed by an attempt to create a periodical without a printing press before moving on to consider an interesting selection from the contents of Y Dravod. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. Wyn James a Bill Jones (goln.), Michael D. Jones a’i Wladfa Gymreig (2009) - R. Bryn Williams, Rhyddiaith Y Wladfa (1949)

    Fri, 24 Jul 2026 - 37min
  • 112 - Pennod 91 - Cranogwen

    Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar Sarah Jane Rees (1839-1916), y fenyw amryddawn o Langrannog a fabwysiadodd yr enw Cranogwen. Trafodwn ychydig o’i hanes rhyfeddol, gan gynnwys ei hymwneud â diwydiant morwrol Cymru, a’r ffaith iddi herio a goresgyn rhagfarn yn sawl maes mewn cymdeithas a oedd yn rhywiaethol iawn. Edrychwn ar ddetholiad o’i cherddi, gan ddechrau â’r bryddest ‘Y Fodrwy Briodoasol’ a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, a hithau wedi curo dau o feirdd gwrywaidd enwocaf y cyfnod, Ceiriog ac Islwyn. Ystyriwn ei chyfraniad pwysig fel golygydd Y Frythones a chawn gyfle i grybwyll hanes ei thaith lwyddiannus i’r Unol Daleithiau. Dyma gyfle i ystyried pwysigrwydd Dirwest yng Nghymru’r cyfnod hefyd . . . a chlywed am dueddiadau Piwritanaidd Richard Wyn Jones. * Cranogwen This episode focuses on (1839-1916), the multi-talented woman from Llangrannog who adopted the name Cranogwen. We discuss some of her amazing history, including her work in the Welsh maritime industry, and the fact that she challenged and overcame discrimination in several areas in a society which was extremely sexist. We look at a selection of her poems, beginning with the long free-metre poem ‘The Wedding Ring’, which was victorious in the Aberystwyth National Eisteddfod in 1865, as she beat two of the nation’s most famous male poets, Ceiriog and Islwyn. We consider her important contribution as the editor of Y Frythones and we have an opportunity to mention her successful trip to the United States. Here’s a chance to think about the importance of the Temperance movement in Wales as well . . . and to hear about Richard Wyn Jones’s puritanical tendencies. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Sarah Jane Rees, Caniadau Cranogwen (1870). - Jane Aaron, Pur fel y dur [:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (2013). - Jane Aaron, Cranogwen (2024).

    Thu, 09 Jul 2026 - 42min
Afficher plus d'épisodes