Filtrar por género
- 116 - Pennod 95 - ‘A Natur sy’n canu ei hanthem i mi’: Islwyn a’i ‘Storm’
Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’. Yn ôl Glyn Tegai Hughes, hwn oedd bardd Cymraeg gorau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond er i Islwyn ennill enw fel bardd o bwys yn ystod ei oes trwy gystadlu’n aml mewn eisteddfodau ac ati, nid oes llawer sy’n arbennig am yr holl farddoniaeth eisteddfodol hon. Mae’r bardd hwn yn haeddu lle anrhydeddus yn hanes llenyddiaeth Gymraeg oherwydd un gerdd a gyfansoddodd, ‘Y Storm’. Ond mae’r gerdd honno’n hir iawn – dros 6,000 o linellau! Dim ond ar ôl i Islwyn farw y cyhoeddwyd y bryddest fawr, a chafodd ddylanwad mawr ar genhedlaeth arall o feirdd Cymraeg. Myfyriwn ynghylch rhai dyfyniadau dethol wrth i ni gnoi cil ar natur unigryw y gerdd uchelgeisiol hon. ** ‘And it’s Nature who’s singing its anthem to me’: Islwyn and his ‘Storm’ We discuss William Thomas (1832-1878) in this episode, a poet remembered as ‘Islwyn’. According to Glyn Tegai Hughes, he was the best Welsh-language poet of the nineteenth century. But although Islwyn won a name as a poet of significance during his lifetime by competing often in eisteddfodau and etc., there is not much of worth in all of this eisteddfodic poetry. This poet deserves an honoured place in the history of Welsh literature because of one poem he composed, ‘The Storm. But this poem is very long – over 6,000 lines! It was only after Islwyn died that the great pryddest was published, and it had a big influence on another generation of Welsh poets. We consider a few choice quotes as we mull over the unique nature of this ambitious poem. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - ‘Y Storm’ Gyntaf gan Islwyn, gol. Meurig Walters (1980). - Glyn Tegai Hughes, ‘Islwyn and Y Storm’, in Hywel Teifi Edwards (ed.), A guide to Welsh literature c. 1800-1900 (2000). - Meredydd Evans, ‘Y Storm’ gyntaf (1988). - Alun Llwelyn-Williams, Y Nos, Y Niwl a’r Ynys [:] Agweddau ar y Profiad Rhamantaidd yng Nghymru 1890-1914 (1960).
Thu, 10 Sep 2026 - 34min - 115 - Pennod 94 - Profedigaethau Enoc Huws: Daniel Owen (rhan 2)
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws. Dechreuwn gyda brawddeg agoriadol y nofel – o bosibl y frawddeg enwocaf yn holl hanes ffuglen Gymraeg – ac ystyried arwyddocâd y feirniadaeth gymdeithasol y mae’n gerbyd iddi. Dyma’r nofelydd o’r Wyddgrug ar ei orau, ac yntau’n awdur a oedd yn ddigon dewr ac yn ddigon hyderus i edrych yn feirniadol ar ei gymdeithas ei hun. Mae hefyd yn dychanu diwylliant llenyddol Cymraeg cyfoes a’r traddodiad crefyddol yr oedd yn perthyn iddo. Rhyfeddwn wrth sylwi bod llawer o ddychan y nofel yn ymddangos yn hynod gyfoes, a Richard Wyn Jones yn gweld Susi Trefor fel influencer arwynebol ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw! * The Tribulations of Enoc Huws: Daniel Owen (part 2) We have fun in this episode while discussing Daniel Owen’s satirical masterpiece, The Tribulations of Enoc Huws. We begin with the novel’s opening sentence – possibily the most famous sentence in the entire history of Welsh fiction – and considering the social critique for which it is a vehicle. This is the novelist from Yr Wyddgrug (Mold) at his best, an author who was brave enough and confident enough to look critically at his own society. He also satirizes contemporary Welsh literary culture and the religious tradition to which he himself belonged. We are amazed as we note that much of the novel’s satire appears very contemporary, and Richard Wyn Jones sees Susi Trefor as a superficial influencer on today’s social media! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llyfrau/rhyddiaith-a-nofelau/profedigaethau-enoc-huws - Rydym ni’n deall y bydd Melin Bapur yn ailgyhoeddi Profedigaethau Enoc Huws cyn bo hir.
Thu, 27 Aug 2026 - 27min - 114 - Pennod 93 - ‘Cymreigrwydd ei Gymeriadau’: Daniel Owen (rhan 1)
Wedi ystyried gwrthwynebiad rhai Cymry Ymneilluol i’r nofel mewn ambell bennod ddiweddar, cawn yn y bennod hon gyfle i ddechrau trafod Daniel Owen, nofelydd Cymraeg mwyaf llwyddiannus y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nodwn fod ei waith wedi’i wreiddio yng nghymdeithas ddiwydiannol sir y Fflint a bod Methodistiaeth Galfinaidd yn ddylanwad mawr arno hefyd, er iddo ysgrifennu ffuglen ddychanol sy’n feirniadol iawn o’i enwad ei hun. Lluniodd fersiwn ffuglennol o’i dref enedigol, Yr Wyddrug, yn Y Dreflan, ac edrychwn ar nifer o ddyfyniadau sy’n enghreifftio’i ddychan afieithus a’i allu i gymeriadu’n gryno ac yn effeithiol. Wrth drafod ei nofel boblogaidd, Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel – a dechrau trafod campwaith arall ganddo, Profedigaethau Enoc Huws – nodwn y modd y tynnodd yr awdur ei hun sylw at ‘Gymreigrwydd ei gymeriadau’ gan bwysleisio’r ffaith ei fod yn cynhyrchu nofelau Cymraeg a Chymreig, yn wahanol i’r cyfieithiadau a frithai’r wasg gyfnodol ar y pryd. * ‘The Welshness of his Characters’: Daniel Owen (part 1) Having considered some Welsh Nonconformists’ opposition to the novel in a few recent episodes, we have an opportunity in this episode to start discussing Daniel Owen, the most succesful Welsh-language novelist of the nineteenth century. We note that his work was grounded in Flintshire’s industrial society and that Calvinistic Methodism was another big influence upon him, although he wrote satirical fiction which is very crictical of his own denomination. He created a fictional version of his home town, Mold, in Y Dreflan, and we look at a few quotes which exemplify his vivacious satire and his ability to characterize succinctly and effectively. While discussing his popular novel, Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel – and while beginning to discuss another of his masterpieces, Profedigaethau Enoc Huws – we note that the author himself drew attention to the ‘Welshness of his characters’, emphasizing the fact that he was producing novels which were Welsh in character as well as language, unlike the translations which appeared frequently in the periodical press at the time. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Robert Rhys, Daniel Owen (2000).
Thu, 13 Aug 2026 - 23min - 113 - Pennod 92 - Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg Patagonia
A ninnau wedi rhoi sylw i lenyddiaeth Gymraeg Gogledd America mewn cwpl o benodau cynharach, dyma gyfle i ehangu’r drafodaeth ac ystyried y modd yr ehangodd y ‘diaspora’ Cymraeg wrth i’r Wladfa – neu’r ‘Wladychfa’ – ym Mhatagonia gael ei chreu. Ond dechreuwn trwy bwysleisio’r cysylltiad rhwng y profiadau Cymreig a Chymraeg yng Ngogledd America a hanes cynnar Y Wladfa trwy graffu ar gyfnod Michael D. Jones yn yr Unol Daleithiau. (Ac mae anghytundeb cyfeillgar ond gweddol boeth rhwng y ddau ohonom, wrth i Richard Wyn Jones geisio hawlio’r clod am ‘ddarlith ymfflamychol’ a draddododd Jerry Hunter mewn cynhadledd yng Nghaerdydd yn 2001, sef ‘Cincinnati: Crud Cenedlaetholdeb Cymreig?’). Ond canolbwynt y bennod yw degawdau cyntaf gwasg Gymraeg y Wladfa, wrth i ni ryfeddu at ymdrech i greu cylchgrawn heb wasg argraffu cyn symud ymlaen i ystyried amrywiaeth ddiddorol o gynnwys Y Dravod. * The Beginnings of Patagonia’s Welsh Literature As we’ve given attention to North America’s Welsh-language literature in a couple of earlier episodes, here’s an opportunity to widen the discussion and consider the way in which the Welsh ‘diaspora’ widened as Y Wladfa – or Y Wladychfa – in Patagonia was created. But we begin by emphasizing the connection between Welsh experiences in North America and the early history of Y Wladfa by examining the period Michael D. Jones spent in the United States. (And there’s a friendly but fairly heated disagreement between the two of us, as Richard Wyn Jones tries to take credit for an ‘inflammatory lecture’ which Jerry Hunter delivered in a conference in Cardiff in 2001, namely ‘Cincinnati: the Cradle of Welsh Nationalism?’) But most of the episode focusses on the first decades of the Welsh-language press of Y Wladfa, as we are amazed by an attempt to create a periodical without a printing press before moving on to consider an interesting selection from the contents of Y Dravod. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. Wyn James a Bill Jones (goln.), Michael D. Jones a’i Wladfa Gymreig (2009) - R. Bryn Williams, Rhyddiaith Y Wladfa (1949)
Fri, 24 Jul 2026 - 37min - 112 - Pennod 91 - Cranogwen
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar Sarah Jane Rees (1839-1916), y fenyw amryddawn o Langrannog a fabwysiadodd yr enw Cranogwen. Trafodwn ychydig o’i hanes rhyfeddol, gan gynnwys ei hymwneud â diwydiant morwrol Cymru, a’r ffaith iddi herio a goresgyn rhagfarn yn sawl maes mewn cymdeithas a oedd yn rhywiaethol iawn. Edrychwn ar ddetholiad o’i cherddi, gan ddechrau â’r bryddest ‘Y Fodrwy Briodoasol’ a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, a hithau wedi curo dau o feirdd gwrywaidd enwocaf y cyfnod, Ceiriog ac Islwyn. Ystyriwn ei chyfraniad pwysig fel golygydd Y Frythones a chawn gyfle i grybwyll hanes ei thaith lwyddiannus i’r Unol Daleithiau. Dyma gyfle i ystyried pwysigrwydd Dirwest yng Nghymru’r cyfnod hefyd . . . a chlywed am dueddiadau Piwritanaidd Richard Wyn Jones. * Cranogwen This episode focuses on (1839-1916), the multi-talented woman from Llangrannog who adopted the name Cranogwen. We discuss some of her amazing history, including her work in the Welsh maritime industry, and the fact that she challenged and overcame discrimination in several areas in a society which was extremely sexist. We look at a selection of her poems, beginning with the long free-metre poem ‘The Wedding Ring’, which was victorious in the Aberystwyth National Eisteddfod in 1865, as she beat two of the nation’s most famous male poets, Ceiriog and Islwyn. We consider her important contribution as the editor of Y Frythones and we have an opportunity to mention her successful trip to the United States. Here’s a chance to think about the importance of the Temperance movement in Wales as well . . . and to hear about Richard Wyn Jones’s puritanical tendencies. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Sarah Jane Rees, Caniadau Cranogwen (1870). - Jane Aaron, Pur fel y dur [:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (2013). - Jane Aaron, Cranogwen (2024).
Thu, 09 Jul 2026 - 42min - 111 - Pennod 90 - Aelwyd F’Ewythr Robert
Dyma ni’n parhau i drafod Gwilym Hiraethog yn y bennod hon, gan graffu ar garreg filltir o lyfr a gyhoeddodd yn 1853, Aelwyd F’Ewythr Robert neu Hanes Caban F’Ewythr Tomos. Byddai rhyw wyth trosiad Cymraeg o nofel wrthgaethiwol ddylanwadol Harriet Beecher Stowe, Uncle Tom’s Cabin, yn ymddangos erbyn canol y 1850au, ond cyfrol Gwilym Hiraethog yw’r mwyaf diddorol o safbwynt llenyddoldeb, uchelgais a chreadigrwydd. Yn ogystal â chyfieithu ffuglen Saesneg i’r Gymraeg, aeth y llenor o Lansannan ati i lunio cyd-destun ffuglennol Cymreig a Chymraeg gwreiddiol er mwyn cyflwyno’r stori Americanaidd i ddarllenwyr yng Nghymru. Dyma ffuglen am ffuglen – metaffuglen o’r iawn ryw – sy’n cynnwys sylwebau miniong am y berthnynas anodd rhwng rhai darllenwyr Cymraeg a ffurf y nofel. Rhyfeddwn wrth ystyried y modd y bu i lawer o ymneilltuwyr Cymreig wrthwynebu darllen nofelau a nodi bod Aelwyd F’Ewythr Robert felly wedi helpu naddu troedle ar gyfer y ffurf lenyddol honno yng Nghymru. Ac am y tro cyntaf yn hanes y podlediad hwn, ceisiwn drafod llun yn fanwl! ** Here we continue to discuss Gwilym Hiraethog in this episode, looking in detail at a milestone book which he published in 1853, Aelwyd Fy Ewythr Robert neu Hanes Caban F’Ewythr Tomos (‘Uncle Robert’s Hearth or the Story of Uncle Tom’s Cabin’). Some eight Welsh translations of Harriet Beecher Stowe’s influential antislavery novel, Uncle Tom’s Cabin, would appear by the middle of the 1850s, but Gwilym Hiraethog’s volume is by far the most interesting in terms of literary quality, ambition and creativity. In addition to translating the English fiction to Welsh, the writer from Llansannan created an original Welsh fictional context in order to present the American story to readers in Wales. It’s fiction about fiction – proper metafiction – which contains pointed comments about the difficult relationship between some Welsh readers and the form of the novel. We wonder as we consider the way in which some Welsh Nonconformists opposed reading novels and note that Aelwyd F’Ewythr Robert thus helped carve out a foothold for that literary form in Wales. And for the first time in the history of this podcast, we try to discuss a picture in detail! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Gellir darllen Aelwyd F’Ewythr Robert ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llyfrau/rhyddiaith-a-nofelau/aelwyd-fewythr-robert - Gareth Evans-Jones, Mae’r Beibl o’n tu: ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868) (2022). - Jerry Hunter, ‘The Pilgrim and the Hearth in the Welsh Reception of Bunyan’s The Pilgrim’s Progess’, yn Angelica Duran a Katherine Callowy (goln.), Global Bunyan and Visual Art (2025). - Jerry Hunter, I Ddeffro Ysbryd y Wlad: Robert Everett a’r Ymgyrch yn Erbyn Caethwasanaeth Americanaidd (2007).
Thu, 25 Jun 2026 - 39min - 110 - Pennod 89 - Gwilym Hiraethog
Pe bai’n rhaid dewis un llenor yn unig wrth drafod holl lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jerry Hunter yn dweud y byddai’n dewis Gwilym Hiraethog (1802-1883). Ganed William Rees mewn teulu o amaethwyr cymharol dlawd ym mhlwyf Llansannan, sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond eto byddai’r dyn rhyfeddol hwn yn cyfrannu mewn llawer iawn o wahanol ffyrdd at fywyd llenyddol a deallusol Cymru. Aeth yn weinidog yng Nghapel Lôn Swan, Dinbych, gan ddilyn Robert Everett, ac yn debyg i’r gweinidog hwnnw a ymfudodd i’r UDA, roedd gwrthwynebu caethwasiaeth ymysg yr achosion radicalaidd a goleddid gan Gwilym Hiraethog. Symudodd i Lerpwl wedyn gan fynd yn un o hoelion wyth cymuned Gymraeg y ddinas honno. Roedd yn fardd amryddawn: cyfansoddodd nifer o emynau sy’n cael eu canu hyd heddiw (er mawr siom i Jerry Hunter, gwrthododd Richard Wyn Jones ganu un!), ysgrifennodd rai o gerddi caeth mwyaf poblogaidd ei gyfnod, ac arbrofodd gyda ffurf heriol honno, yr ‘arwrgerdd’. Roedd hefyd yn un o arloeswyr y nofel Gymraeg. Fel sylfaenydd a golygydd Yr Amserau, aeth ymysg cynheiliaid pwysicaf y wasg gyfnodol Gymraeg yn y cyfnod hefyd, a chyhoeddodd lawer o ysgrifau yn y papur hwnnw a gyflwynai wleidyddiaeth Ewropeaidd radicalaidd i ddarllenwyr Cymraeg. * Gwilym Hiraethog If one had to choose only one writer while discussing all of the Welsh-language literature from the nineteenth century, Jerry Hunter says he’d choose Gwilym Hiraethog (1802-1883). William Rees was born into a family of comparatively poor farmers in the partish of Llansannan, Denbighshire. He had very little formal education, yet this amazing man would contribute in very many different ways to the literary and intellectual life of Wales. He became minister of the Swan Lane Chapel in Denbigh, following Robert Everett, and, like that minister who emigrated to the USA, opposing slavery was one of the radical causes embraced by Gwilym Hiraethog. He then moved to Liverpool and became a mainstay of the Welsh community in that city. He was a multi-facted poet: he composed a number of hymns which are still sung today (to Jerry Hunter’s great disappointment, Richard Wyn Jones refused to sing one!), he wrote some of the most popular strict-metre poetry of his period, and he experimented with that challenging form, the epic. He was also one of the pioneers of the Welsh novel. As founder and editor of Yr Amserau [‘The Times’], he was amongst the most important people supporting the Welsh-language periodical press in the period as well, and he published many pieces in that paper which presented radical European politics to Welsh readers. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Thomas Roberts a David Roberts, Cofiant y Parch. W. Rees, D.D. (Gwilym Hiraethog) (1893). - E. G. Millward, Yr Arwrgedd Gymraeg: Ei Thwf a’i Thranc (1998). - Jerry Hunter, I Ddeffro Ysbryd y Wlad: Robert Everett a’r Ymgyrch yn Erbyn Caethwasanaeth Americanaidd (2007).
Thu, 11 Jun 2026 - 34min - 109 - Pennod 88 - ‘Chwaeth bresennol y Bobl’: Ceiriog
Trafodwn John Ceiriog Hughes (1832-1887) yn y bennod hon. Ceiriog o bosib oedd y bardd Cymraeg mwyaf poblogaidd yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth graffu ar y modd yr aeth ati i greu a chyflwyno delweddau ‘derbynol’ o Gymru a’r Cymry, nodwn fod ei waith yn enghraifft dda o’r effaith andwyol a gafodd ‘y Llyfrau Gleision’ ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Dyfynnwn Hywel Teifi Edwards a ddywedodd mai ‘gwas ei gymdeithas’ oedd Ceiriog, ac yntau’n ‘bodloni anghenion ei oes’ yn hytrach na’u herio. Ond rydym ni hefyd yn pwysleisio dawn bardd a lwyddodd i gyfansoddi penillion a fyddai’n ennill statws oesol caneuon gweriniol. Mae’r bennod hon hefyd yn gyfle i ystyried cydberthynas barddoniaeth a cherddoriaeh yng Nghymru yn ystod Oes Fictoria. Ac mae’n dda gorffen trwy ddarllen englyn gan Ceiriog sy’n cyflwyno golwg tra gwahanol ar ei waith! ** ‘The Present Taste of the People’: Ceiriog In this episode we discuss John Ceiriog Hughes (1832-1887). Ceiriog was possibly the most popular Welsh poet of the second half of the nineteenth century. While examining the way in which he strove to create and present ‘acceptable’ images of Wales and the Welsh, we note that his work is a good example of the stultifying effect which the ‘Blue Books’ had on the Welsh literary tradition. We quote Hywel Teifi Edwards who said that Ceiriog was ‘the servant of his society’, as he sought to ‘satisfy the needs of his age’ rather than challenge them. But we also stress the talent of a poet who managed to compose verses which would achieve the ageless status of folk songs. This episode also gives us an opportunity to consider the relationshiop between poetry and music in Wales in the Victorian Age. And it’s nice to be able to finish by reading an englyn by Ceiriog which presents a very different look at his work! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Hywel Teifi Edwards, Ceiriog (1987)
Fri, 29 May 2026 - 26min - 108 - Pennod 87 - ‘Pur fel y Dur’: Y Llyfrau Gleision a Llên Benywod
Dyma ni’n parhau i drafod effaith y ‘Llyfrau Gleision’ ar lenyddiaeth Gymraeg, gan ganolbwynio’n benodol ar lais llenyddol y Gymraes y tro hwn. Mae teitl y bennod hon yn deyrnged i astudiaeth ardderchog Jane Aaron, Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, cyfrol sydd, yng ngeiriau’i hawdur, yn archhwilio’r modd yr ‘ymrithiodd arwres newydd’ ‘o burdan enllib y Sais’. Awn ati i ystyried y gyfrol gyntaf o farddoniaeth Gymraeg gan fenyw a gyhoeddwyd, sef Telyn Egryn gan Elin Evans neu ‘Elen Egryn’. Edrychwn hefyd ar y rhagymadrodd gan Gwilym Hiraethog, testun sydd, ymysg pethau eraill, yn cymharu (diffyg) llenyddiaeth y Gymraes a chynnyrch llenyddol y Saesnes. Cawn gyfle wedyn i grybwyll y cyfnodolyn Y Gymraes: cylchgrawn i ferched Cymru. ** ‘As Pure as Steel’: The Blue Books and Women’s Literature We continue to discuss the effect of the ‘Blue Books’ on Welsh literature, concentrating this time on the Welsh woman’s literary voice. This episode’s title pays tribute to Jane Aaron’s excellent study Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (‘As Pure as Steel: The Welsh woman in Women’s Literature of the Nineteenth Century’), a volume which, in the words of its author, examines the way in wich ‘a new heroine appeared’ ‘from the purgatory of the Englishman’s slander’. We consider the first volume of Welsh poetry published by a woman, namely Telyn Egryn by Elin Evans or ‘Elen Egryn’. We also look at Gwilym Hiraethog’s introduction to the book, a text which, in addition to other things, compares (the lack of) literature by Welsh women with English women’s literary produce. We then get an opportunity to mention the periodical Y Gymraes: cylchgrawn i ferched Cymru (‘The Welshwoman: a journal for women’). Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Jane Aaron, Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1998). - Elen Egryn, Telyn Egryn (1850, adargraffiad Gwasg Honno, 1998). - Gellir gweld y ‘Llyfrau Gleision’ ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/europeana-rise-of-literacy/y-llyfrau-gleision/report-of-the-commissioners-of-inquiry-into-the-state-of-education-in-wales
Thu, 14 May 2026 - 24min - 107 - Pennod 86 - R. J. Derfel a Brad y Llyfrau Gleision (neu ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!)
(neu, a defnyddio teitl arall a awgrymodd Richard Wyn Jones, ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!) Trafodwn yn gyntaf hanes y ‘Llyfrau Gleision’ a gyhoeddwyd y 1847. Teitl Saesneg cywir yr adroddiadau hyn yw The Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales. Dyma’r cyfrolau drwgenwog sy’n pardduo iaith, moesau a diwylliant Cymru. Canolbwyntiwn wedyn ar waith y bardd o gyffiniau Llandderfel Robert Jones neu ‘R. J. Derfel’, a nodi’i fod yn sosialydd Cymraeg arloesol. Ef a fathodd yr ymadrodd Brad y Llyfrau Gleision, a hynny yn y gwaith llenyddol mentrus a gyhoeddodd yn 1854 sy’n dwyn y teitl hwnnw. Mae’n bryddest fydryddol hir – y gellir ei glaw’n ddrama fydryddol hefyd – sy’n dangos Beelzebub a thrigolion eraill Uffern yn cynllwynio i danseilio’r Cymry. Dyma waith swmpus hwyliog sy’n archwilio sarhâd y Llyfrau Gleision mewn modd syfrdanol o greadigol. ** R. J. Derfel and The Treachery of the Blue Books (or, to use another title suggested by Richard Wyn Jones, ‘Explosive Facts about Llandderfel’!) We first discuss the history of the ‘Blue Books’ published in 1847. The correct English title of these reports is The Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales. These are the infamous volumes which denegrate the language, morals and culture of Wales. We then focus on the work of the poet from the Llandderfel region, Robert Jones or ‘R. J. Derfel’, and note that he was a pioneering Welsh socialist. It was he who coined the phrase Brad y Llyfrau Gleision (‘The Treachery of the Blue Books’), doing so in the daring literary work which he published in 1854 which bears that title. It is a long metrical pryddest – which we might term a metrical drama as well – which shows Beelzebub and other denizens of Hell scheming to undermine the Welsh. This is a substantial and lively work which examines the insult of the Blue Books in an amazingly creative way. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Gellir gweld y ‘Llyfrau Gleision’ ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/europeana-rise-of-literacy/y-llyfrau-gleision/report-of-the-commissioners-of-inquiry-into-the-state-of-education-in-wales - Gellir darllen gwaith R. J. Derfel, Brad y Llyfrau Gleision ar wefan LlGC hefyd: https://www.library.wales/discover-learn/digital-exhibitions/europeana-rise-of-literacy/plays-and-interludes/brad-y-llyfrau-gleision - R. J. Derfel, Cwyn y Gweithwyr a Cherddi Eraill (Melin Bapur, 2025).
Thu, 30 Apr 2026 - 37min - 106 - Pwnnod 85 - Rhannu ‘Trysorau Gwerthfawr’: Dechreuadau gwasg gyfnodol Gymraeg America
Dyma’r ail bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn ystod cynhadledd NAASWCH yn Rio Grande, Ohio. Trafodwn hanes cynnar gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol Daleithiau (ac wrth nodi ymlyniadau crefyddol rhai o’r cyfnodolion hyn mae Richard Wyn Jones yn amlygu enwadaeth annisgwyl!). Awn ati wedyn i ganolbwyntio ar y cyfnodolyn Cymraeg Americanaidd cyntaf i lwyddo, Y Cyfaill o’r Hen Wlad, gan edrych ar gynnwys rhai o rifynnau cynnar y cylchgrawn diddorol hwnnw. Cawn yn un o’r testunau hyn awgrym diddorol ynghylch hanfod yr iaith Gymraeg fel cyfrwng sy’n trosglwyddo diwylliant, a gwelwn fod un arall yn enghraifft Americanaidd ryfeddol o hen draddodiad canoloesol Cymraeg. Ac mae Richard Jones yn gorfodi Jerry Hunter i egluro’n fanylach hanes ei ymwneud â’r union faes academaidd hwn. ** Sharing ‘Valuable Treasures’: The Beginnings of the Welsh-language American Periodical Press This is the second episode recorded in front of a live audience during the NAASWCH conference in Rio Grande, Ohio. We discuss the early history of the United States’ Welsh-language periodical press (and while noting the religious affiliations of some of these periodicals, Richard Wyn Jones manifests a surpring sectarianism!). We then go on to focus on the first Welsh-language American periodical to succeed, Y Cyfaill o’r Hen Wlad [‘The Friend from the Old Country’], looking at the content of some of this interesting journal’s early numbers. In one of these texts we find an interesting suggesting relationg to the essence of the Welsh language as a medium for tramsmitting culture and we see that another is an amazing American example of an old medieval Welsh tradition. And Richard Wyn Jones forces Jerry Hunter to explain his dealings with this specific academic field in more detail. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Jerry Hunter, ‘Y Traddodiad Llenyddol Coll’, Taliesin (Gwanwyn, 2003). - ---------------, Pennod 1 (‘The Bards and the Bowie Knife’) yn Sons of Arthur, Children of Lincoln [:] Welsh Writing from the American Civil War (Caerdydd, 2007). - ----------------, ‘Y Gymraeg y tu allan i Gymru: Cipolwg ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Unol Daleithiau, 1838-65’, yn Angharad Naylor, Llion Pryderi Roberts a Dylan Foster Evans (eds.), Beth yw’r Gymraeg? (Caerdydd, 2023): https://www.uwp.co.uk/app/uploads/9781786839503_WEB-1.pdf - Rhiannon Heledd Williams, Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad? [:] Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-1866 (Caerdydd, 2017). Er mwyn dysgu am NAASWCH: https://www.naaswch.wales/saesneg-home
Thu, 16 Apr 2026 - 36min - 105 - Pennod 84 - Yr Hen Bersoniaid Llengar, Ieuan Glan Geirionydd ac Alun
Wrth i ni barhau i ystyried barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nodwn yn gyntaf fod barn ysgolheigion diweddarach yn negyddol iawn amdani ar y cyfan. Cawn gyfle felly i ofyn cwestiwn cyffredinol: ai sothach sentimental a gwaith gorgrefyddol sych yw swmp barddoniaeth y cyfnod? Awn ymlaen i drafod ‘yr hen bersoniaid llengar’, Anglicaniaid a oedd yn hyrwyddo diwylliant Cymraeg yn egnïol (ac yn ceisio gwrthbwyso grym diwylliannol ymneilltuaeth). Canolbwyntiwn ar un ohonynt, John Jenkins (1770-1829) neu ‘Ifor Ceri’, a dau o’r beirdd a gâi nawdd yn ‘llys’ yr ‘Ifor Hael’ hwn. Darllenwn ychydig o waith yr amryddawn Evan Evans (1795-1855) neu ‘Ieuan Glan Geirionydd’, gan ddechrau â’r faled alarus ddramatig, ‘Cyflafan Morfa Rhuddlan’. A ninnau’n diffinio’r ‘delyneg’ wrth fynd heibio, edrychwn ar un o gerddi mwyaf poblogaidd Ieuan Glan Geirnioydd, ‘Ysgoldy Rhad Llanrwst’. Pan awn ati i drafod y bardd John Blackwell (1797-1840) neu ‘Alun’, caiff Jerry Hunter foddhad neilltuol pan sylweddola Richard Wyn Jones ei fod yn gyfarwydd â’r gerdd dan sylw wedi’r cwbl! ** The Literature-loving Old Vicars, Ieuan Glan Geirionydd and Alun As we continue to consider Welsh-language poetry from the nineteenth century, we note first that the opinion of later scholars is generally very negative about it. We thus ask: is most of the period’s poetry sentimental rubbish and dry, overly religious work? We go on to discuss ‘the literature-loving old vicars’, Anglicans who promoted Welsh culture energetically. We focus on one of them, John Jenkins (1770-1829) or ‘Ifor Ceri’, and two poets who received patronage in the ‘court’ of this ‘Ifor Hael’ (Generous Ifor). We read a little of the work of the multi-talented Evan Evans (1795-1855) or ‘Ieuan Glan Geirionydd’, beginning with the dramatic mournful baled, ‘The Massacre of Morfa Rhuddlan’. Defining the ‘lyric’ in passing, we look at one of Ieuan’s most popular poems, ‘The Llanrwst Free School’. When we discuss John Blackwell (1797-1840) or ‘Alun’, Jerry Hunter is especially pleased when Richard Wyn Jones realises that he is familiar with the poem in question after all! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Bedwyr Lewis Jones, Yr Hen Bersoniaid Llengar (Yr Eglwys yng Nghymru, 1963). - John Blackwell (Alun), Cathl i’r Eos a Cherddi Eraill (Melin Bapur, 2025). Dyma’r canueon y cyfeiriwn atynt: Alaw, ‘Baled Morfa Rhuddlan’: https://www.youtube.com/watch?v=L1QmzkJmTJg
Thu, 02 Apr 2026 - 29min - 104 - Pennod 83 - Awdl Eisteddfodol a Phroto-Nofel: Cawrdaf
Trafodwn William Ellis Jones (1795-1848) yn y bennod hon. Ac yntau’n frodor o Abererch, Eifionydd, cymerodd enw’r sant y mae’r eglwys leol wedi’i chysegru iddo – Cawrdaf – yn enw barddol. Gweithiai fel argraffydd ac arlunydd, ond canolbwyntiwn wrth reswm ar ei weithgareddau llenyddol. Cyfansoddai nifer o awdlau ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, gan gynnwys ‘Hiraeth Cymro am ei Wlad’. Er na lwyddodd i ennill gyda hi yn Eisteddfod Wrecsam yn 1820, aeth hi’n awdl boblogaidd iawn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Craffwn ychydig ar yr enghraifft wych hon o awdl eisteddfodol. Rhaid crybwyll Cawrdaf yng nghyd-destun hanes rhyddiaith greadigol Gymraeg hefyd; trafodwn y gyfrol a gyhoeddodd yn 1830, Y Bardd neu’r Meudwy Cymreig, a gofyn a yw’n bosibl mai hi yw’r nofel Gymraeg gyntaf?! ** An Eisteddfodic Awdl and a Proto-Nofel: Cawrdaf In this episode we discuss William Ellis Jones (1795-1848). A native of Abererch in Eifionydd, he took the name of the saint to whom the local church is dedicated – Cawrdaf – as his bardic name. He worked as a printer and an illustrator, but we of course concentrate on his literary activities. He composed a number of awdlau for eisteddfodic competitions, including ‘Hiraeth Cymro am ei Wlad’ (‘A Welshman’s Longing for his Country’). Although he didn’t win with it in the 1820 Wrexham Eisteddfod, it became an extremely popular awdl in the nineteenth century. We take a look at this excellent example of an eisteddfodic awdl. Cawrdaf deserves a place in the history of Welsh creative prose as well; we talk about the book he published in 1830 Y Bardd neu’r Meudwy Cymreig (‘The Poet or ‘the Welsh Hermit’), and ask if it’s possibe that this is the first Welsh novel?! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: Cewch ddarllen Y Bardd neu’r Meudwy Cymreig ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/europeana-rise-of-literacy/llyfrau-teithio/y-bardd-neu-y-meudwy-cymreig-yn-cynwys-teithiau-difyr-ac-addysgiadol-y-bardd-gyda-rhagluniaeth
Thu, 19 Mar 2026 - 31min - 103 - Pennod 82 - Eben Fardd
Canolbwyntiwn ar Ebenezer Thomas (1802-1863) yn y bennod hon. Mae trafod dechrau’i yrfa lenyddol gynnar yn gyfle i ni ystyried diwylliant barddol Cymraeg hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol. Bu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg yn ei fro enedigol, Eifionydd, yn fodd i’r Ebenezer ifanc hogi’i grefft, dod i adnabod beirdd adnabyddus yr ardal megis Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn, ac ennill yr enw ‘Eben Fardd’. Wedyn, mae disgrifio’r modd y daeth yn fardd cenedlaethol o bwys yn dadlennu tipyn ar ddiwylliant eisteddfodol Cymru yn ystod y degawdau cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei sefydlu. Cewch flas ar fwrlwm Eisteddfod Powys yn Y Trallwng, 1824, gan gynnwys agweddau sy’n tystio i afael Prydeindod ac imperilaeth ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Craffwn wedyn ar gampwaith Eben Fardd, sef yr awdl a ddaeth yn fuddugol yn yr eisteddfod honno, ‘Dinistr Jerusalem’, un o awdlau eisteddfodol mwyaf poblogaidd a mwyaf dylanwadol y ganrif. * Eben Fardd: We concentrate on Ebenezer Thomas (1802-1863) in this episode. Discussing his early literary career provides an opportunity for us to consider the Welsh bardic culture of the first half of the nineteenth century in general. A network of Welsh societies in his native region, Eifionydd, provided a way for the young Ebenezer to sharpen his craft, get to known famous poets in the region including Robert ap Gwilym Ddu and Dewi Wyn, and earn the name ‘Eben Fardd’. Then, describing the manner in which he became a national poet of significance reveals much about the eisteddfodic culture of Wales during the decades before the National Eisteddfod was founded. You’ll get a taste of the excitement of the Powys Eisteddfod yn Welshpool in 1824, including aspects which show the hold of Britishness and imperialism on Welsh culture of the period. Then we examine Eben Fardd’s masterpiece, ‘The Destruction of Jerusalem’, the victorious awdl in that eisteddfod, one of the most popular and most influential eisteddfodic awdlau of the century. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. G. Millward, Eben Fardd (Gwasg Pantycelyn, 1988). - Ebenezer Thomas, Eben Fardd (Dalen Newydd, 2014). - Eben Fardd, Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill (Melin Bapur, 2024).
Thu, 05 Mar 2026 - 33min - 102 - Pennod 81 - ‘Gwybodaeth yn amlhau’: Y Wasg Gyfnodol Gymraeg ar ddechrau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’
A ninnau wedi cyrraedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuwn drafod rhai o’r trawsffurfiadau a effeithiai ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Diwydiannu, tŵf y boblogaeth, datblygiadau technolegol, balchder yn yr ymerodraeth Brydeinig – byddai’r holl ffactorau hyn yn cyflyru llenyddiaeth Gymraeg wrth i’r ganrif fynd rhagddi. Ond canolbwyntiwn yn y bennod hon ar un peth sydd o’r pwys mwyaf i’r rhai sydd am ddeall hanes llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef tŵf y wasg gyfnodol Gymraeg. (Ie, diffiniwn y gair ‘cyfnodolyn’ wrth fynd heibio hefyd.) Piciwn yn ôl i’r ddeunawfed ganrif er mwyn nodi rhai o’r arbrofion cynnar, ond manylwn wedyn ar y cyfnodolion a ymddangosodd yn ystod degawdau cyntaf y ganrif newydd. Craffwn ar y modd yr oedd golygyddion rhai o’r cylchgronau enwadol cyntaf yn cyflwyno’u cyhoeddiadau i’w darllenwyr a nodwn wrth fynd heibio fod gafael Prydeindod ac imperialaeth yn dyn arnynt er gwaethaf eu daliadau crefyddol honedig radicalaidd. * ‘Knowledge Increasing’: The Welsh-language Periodical Press at the Start of the Nineteenth Century As we’ve reached the nineteenth century, we begin discussing some of the transformations which effected Welsh-language culture in the period. Industrialization, growth of the population, technological developments, pride in the British empire – all of these factors would condition Welsh-language literature as the century progressed. But we focus on one thing which is of extremely great interest to those seeking to understand the history of Welsh literature in the nineteenth century, namely the growth of the Welsh-language periodical press. (Yes, we define the word ‘periodical’ in passing as well.) We pop back to the eighteenth century in order to note some of the early experiments, but we go into some detail regarding the periodicals which appeared during the first decades of the new century. We examine the way in which the editors of some of the first denominational journals presented their publications to their readers and we note in passing that Britishness and imperialism had a tight hold on them despite their supposedly radical religious stances. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Huw Walters, Y Wasg Gyfnodol Gymreig, 1735-1900/The Welsh Periodical Press, 1735-1900 (1987). Cewch ddarllen llawer iawn o’r cyfnodolion hyn ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru/You can read many of these periodicals on the National Library of Wales’s website: https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/ https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/
Thu, 19 Feb 2026 - 30min - 101 - Pennod 80 - Ann Griffiths (1776-1805)
Tan yn ddiweddar, Ann Griffiths oedd yr unig fardd benywaidd a welid mewn canonau llenyddol Cymraeg. Nid yw’n syndod felly i Richard Wyn Jones ddweud ei fod yn lled gyfarwydd â hi wrth i ni ddechrau trafod yr emynyddes enwog yn y bennod hon. Ond mae Richard yn dysgu’n fuan fod agweddau syfrdanol ar hanes y brydyddes ryfeddol hon nad oedd yn gwybod amdanynt – gan gynnwys hanes ei henw! Trafodwn gyd-destun cyfansoddi barddoniaeth ysbrydol Ann a holi a yw’n bosibl awgymru’i bod yn ‘gyfrinydd’? Rydym ni’n ystyried y wedd ‘nwydus’ ar ei gwaith y mae rhai darllenwyr wedi’i synhwyro hefyd. Ac wrth olrhain hanes cyfansoddi, trosglwyddo a chyhoeddi’i gwaith hi, mae Jerry yn gofyn cwestiwn pryfoclyd: a yw’n iawn i bobl ganu, darllen ac astudio emynau Ann Griffiths heddiw gan ei bod hi wedi dweud nad oedd am i neb ‘eu cael nhw’ ar ôl iddi farw? * Until recently, Ann Griffiths was the only female poet seen in Welsh literary canons. It is therefore no surprise that he’s fairly familiar with her as we begin to discuss the famous hymnist in this episode. But Richard soon learns that there are surprising things about the history of this amazing poet which he didn’t know previously – including the history of her name! We discuss the context in which Ann’s spiritual poetry was composed and ask if it’s possible to suggest that she was a ‘mystic’? We also consider the ‘passionate’ aspect which some readers have senses in her work. And while tracing the history of the composition, transmission and publishing of Ann’s work, Jerry asks a provocative question: is it right for people to sing, read and study the hymns of Ann Griffiths today seeing as she herself said that she didn’t want anybody ‘to have them’ after her death? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. Wyn James, Gwefan Ann Griffiths (Prifysgol Caerdydd): https://www.anngriffiths.cardiff.ac.uk/cynnwys.html
Fri, 06 Feb 2026 - 28min - 100 - Pennod 79 - Bardd Rhyddid ac Arch-ffugiwr: Iolo Morganwg
Edrychwn yn y bennod hon ar un o gymeriadau mwyaf enigmatig y traddodiad llenyddol Cymraeg (ac efallai un o gymeriadau mwyaf enigmatig hanes Cymru yn gyffredinol), sef Edward Williams neu Iolo Morganwg (1747-1826). Ystyriwn ei radicaliaeth wleidyddol gan ei chysylltu â rhai o’i gerddi gwreiddiol. Talwn deyrnged i’w gyfraniadau diwylliannol a’i allu ysgolheigiaidd. Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni oedi a thrafod ei ffugiadau hefyd. Mae llu o gwestiynau gwefreiddiol yn codi. Ai siop Iolo oedd siop fasnach deg gyntaf Cymru? Pam aeth ati i ffugio cymaint o bethau? I ba raddau yr oedd yn ffigiwr cwbl unigryw ac i ba raddau y gellir ei gysylltu â mudiad Rhamantaidd ehangach? Trafodwn ei ymwneud â Chymdeithas y Gwyneddigion hefyd a chawn gyfle i sôn ychydig am un o’i gydnabod, Morgan John Rhys. ** Bard of Liberty and Arch-Forger: Iolo Morganwg In this episode we look at one of the most enigmatic characters of the Welsh literary tradtion (and perhaps one of the most enigmatic characters of all of Welsh history), Edward Williams or Iolo Morganwg (1747-1826). We consider his political radicalism and connect it to some of his original poems. We pay tribute to his cultural contributions and his scholarly ability. But, of course, we have to linger over his forgeries as well. A host of tantalizing questions emerges. Was Iolo’s shop the first fair trade shop in Wales? Why did he devote himself to forging so many things? To what extent was he a completely unigue figure and to what extent can we connect him to a broader Romantic movement? We also discuss his connection with the Gwyneddigion Society and we take an opportunity to mention one of his associates, Morgan John Rhys. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - G. J. Williams, Iolo Morganwg (1956). - Ceri Lewis, Iolo Morganwg (1995). - Geraint Jenkins, A rattleskull genius: the many faces of Iolo Morganwg (2005). - Mary-Ann Constantine, The truth against the world: Iolo Morganwg and Romantic forgery (2007). - Marin Löffler, The literary and historical legacy of Iolo Morganwg, 1826-1926 (2007). - Geraint Jenkins, Bard of Liberty: the political radicalism of Iolo Morganwg (2012). - Prys Morgan, ‘From a Death to a View: The Hunt for the Welsh Past in the Romantic Period’, yn Eric Hobsbawn a Terence Ranger (goln.), The Invention of Tradition (1983).
Thu, 22 Jan 2026 - 32min - 99 - Pennod 78 - Jac Glan-y-Gors
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod John Jones (1766-1821), cymeriad amryddawn a adwaenir yn well heddiw fel Jac Glan-y-Gors. Yn wreiddiol o Gerrigydrudion, sir Ddinbych, treuliodd Jac y rhan fwyaf o’i oes yn Llundain. Aeth yn rheolwr ac efallai’n berchennog ar sawl tafarn yn y ddinas ac roedd yn chwarae rhan amlwg mewn dwy o gymdeithasau Cymreig Llundain – y Gwyneddigion a’r Cymreigyddion. Roedd Jac Glan-y-Gors yn fardd dychanol penigamp a defnyddiodd ei ddawn i ymosod ar ragrith o wahanol fathau. Mae ‘Cerdd Dic Siôn Dafydd’ yn dychanu’r Cymry hynny sy’n cefnu ar yr iaith Gymraeg ac yn cogio’u bod yn Saeson; mae’r ffaith bod yr ymadrodd yn cael ei ddefnyddio hyd heddiw yn tystio i lwyddiant dychan Jac. Ac yntau’n coleddu gwerthoedd radicalaidd oes y chwyldro, cyhoeddodd Jac bamffledi Cymraeg sy’n cynnwys syniadau Tom Paine, Seren Tan Gwmwl a Toriad y Dydd ac mae’n debyg iddo gael ei erlid gan yr awdurdodau o’r herwydd. *** In this episode we have fun discussing John Jones (1766-1821), a multi-faceted character who is better known today as Jac Glan-y-Gors. Originally from Cerrigydrudion, Denbighshire, Jac spent most of his life in London. He became the manager and perhaps the owner of several pubs in the city and he played a big part in two of London’s Welsh societies – the Gwyneddigion and the Cymreigyddion. Jac Glan-y-Gors was a masterful satirical poet and he used his talent to attack various kinds of hypocrisy. His poem on ‘Dic Siôn Dafydd’ satirizes those Welsh people who turn their backs on the Welsh language and pretend that they’re English; the fact that the phrase Dic Siôn Dafydd is still used in Welsh today to describe such a Welshman testifies as to the success of Jac’s satire. Embracing the radical values of the age of revolution, Jac published Welsh-language pamphlets which contain the ideas of Tom Paine, Seren Tan Gwmwl and Toriad y Dydd, and it’s likely that he was persecuted by the authorities because of it. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. G. Millward, Cerddi Jac Glan-y-Gors (2003). - Gellir darllen Seren Tan Gwmwl a Toriad y Dydd ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://viewer.library.wales/4789818#?xywh=-3760%2C-966%2C9796%2C5459 https://viewer.library.wales/4789875#?xywh=-3895%2C-985%2C10285%2C5732
Thu, 08 Jan 2026 - 27min - 98 - Pennod 77 - Marged Dafydd (c.1700-c.1785)
Cawn gyfle yn y bennod hon i ystyried dwy wedd ar yrfa lenyddol Marged Dafydd. Yn enedigol o’r Coetgae-du ym mhlwyf Trawsfynydd, cafodd fywyd hir a chysegrodd lawer iawn o’i hamser i ddiogelu ac astudio barddoniaeth Gymraeg. Creodd nifer o lawysgrifau swmpus sy’n dangos ôl meddwl ysgolheigiaidd, a diolch iddi hi mae rhai cerddi Cymraeg gan ferched eraill wedi goroesi. Roedd hefyd yn fardd yn ei hawl ei hun. Gan fod tystiolaeth bod ei mam a’i modryb yn barddoni hefyd, gellid dweud ei bod yn perthyn i linach o feirdd benywaidd. Roedd hefyd yn perthyn i rwydweithiau ehangach o feirdd, ac roedd yn cael ei chydnabod fel cryn awdurdod ac fel athrawes farddol. Trafodwn rychwant o’i cherddi, gan gynnwys englyn hwyliog sy’n talu teyrnged i grythor a cherdd grefyddol ddwys sy’n dangos ei bod yn Gristion o argyhoeddiad ac yn realydd a allai grisialu hanfod y natur ddynol. *** Marged Dafydd (c.1700-c.1785) In this episode we consider two aspects of Marged Dafydd’s literary career. From Y Coetgae-du, Trawsfynydd, she lived a long life and devoted a great amount of her time to preserving and studying Welsh poetry. She created a number of substantial manuscripts which display the workings of a scholarly mind, and it is thanks to her that some Welsh poems by women have survived. She was also a poet in her in own right. As there is evidence that her mother and her aunt composed verse as well, one could say that she belonged to a lineage of female poets. Marged Dafydd also took part in wider networks of poets, and she was recognized as somewhat of an authority and as a bardic teacher. We discuss a range of her poems, included a lively englyn to a crowther and a serious religious poem which shows that she was a Christian of conviction and a realist when it came to crystalizing the essence of human nature. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Cathryn Charnell-White (gol), Beirdd Ceridwen: Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (2005). - Katie Gramich a Catherine Brennan (goln.), Welsh Women’s Poetry 1460-2001 (2003).
Thu, 18 Dec 2025 - 35min - 97 - Pennod 76 - Angharad James
Mae crybwyll y cysylltiadau rhwng Angharad James a Marged Dafydd yn fodd i ni ystyried y ffaith mai dim ond yn ystod y degawdau diwethaf y mae’r byd academaidd Cymraeg wedi dechrau rhoi’r sylw dyledus i farddoniaeth Gymraeg gan ferched. Canolbwyntiwn wedyn ar waith Angharad James (1677- 1749), Cymraes amryddawn o Ddyffryn Nantlle a enillodd enw iddi’i hun fel telynores, bardd a chopïydd llawysgrifau. Cawn ein swyno gan y cynhesrwydd a’r diffuantrwydd sy’n nodweddu’i barddoniaeth hi, ac wrth ddarllen cerdd sy’n gofyn i gyfeilles ymweld â hi awgrymwn ei bod yn apelio’n fwy atom na chywydd ar yr un thema gan ei chyfoeswr enwog, Goronwy Owen. Ar ôl bwrw golwg ar gerdd hwyliog am briodas craffwn yn fanwl ar y farwnad deimladwy a gyfansoddodd yn sgil marwolaeth ei mab. Ond beth am ddirgelwch ‘Llyfr Coch Angharad James’? *** Mentioning the connections between Angharad James and Marged Dafydd allows us to consider the fact that it is only during the past decades that Welsh academia has started giving women’s poetry the attention it deserves. We concentrate then on the work of Angharad James (1677- 1749), a multitalented Welsh woman from the Nantlle Valley who earned a reputation as a harpist, a poet and a manuscript copyist. We are charmed by the warmth and sincerity which characterizes her poetry, and while reading a poem asking a female friend to come and stay with her we suggest that it appeals to us more than a cywydd on a similar theme by her famous contemporary, Goronwy Owen. After glancing at a lively poem about marriage, we examine the emotional elegy which she composed following the death of her son. But what about the mystery of ‘The Red Book of Angharad James’? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Cathryn Charnell-White (gol), Beirdd Ceridwen: Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (2005). - Katie Gramich a Catherine Brennan (goln.), Welsh Women’s Poetry 1460-2001 (2003). - Pennod 27 Yr Hen Iaith [Gwerful Mechain]. - Pennod 38 Yr Hen Iaith [Alis ferch Gruffudd].
Thu, 04 Dec 2025 - 30min - 96 - Pennod 75 - ‘Bro coedydd, gelltydd gwylltion’: Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg America
Bydd dilynwyr Yr Hen Iaith yn gyfarwydd iawn â’r modd y mae Richard Wyn Jones yn agor pob pennod trwy sôn am ‘hogyn o Ohio’ sy’n dysgu ‘hogyn o sir Fôn’ am hanes llenyddiaeth ei iaith ei hun. Dyma bennod a recordiwyd yn Ohio, a hynny o flaen cynulleidfa fyw fel rhan o gynhadledd NAASWCH eleni. Gan ein bod ni wedi gorffen y bennod ddiwethaf trwy sôn am ddiwedd oes Goronwy Owen yn Virginia, ailgydiwn yn y stori honno a thrafod yr unig gerdd a gyfansoddwyd gan y bardd enwog o Fôn yn America sydd wedi goroesi. Ond yn gyntaf rydym ni’n trafod y testunau Cymraeg cynharaf a ysgrifennwyd yn America – gan ddechrau â barddoniaeth gan forwyr o Gymru a gyfansoddwyd yn y Caribî. Dyma gyfle i ddysgu ffaith ysgubol: cyhoeddwyd llyfr Cymraeg yng Ngolgedd America dros hanner canrif cyn genedigaeth y wlad newydd honno, yr Unol Daleithiau. Nodwn hefyd nad ffaith yw’r chwedl boblogaidd am y Tywysog Madog, gan wybod yn iawn y bydd y datganiad yn siom i rai pobl. *** ‘A Country of forests and wild hills’: The Beginnings of Welsh-language American Literature Followers of Yr Hen Iaith will be very familiar with the way Richard Wyn Jones opens each episode by saying that ‘a lad from Ohio’ is teaching ‘a lad from Anglesey’ about the literature of his own Language. Here’s an episode that was recorded in Ohio, in front of a live audience as part of this year’s NAAWCH conference. Since we finished the previous episode by talking about Goronwy Owen in Virginia, we pick up that story again and discuss the only poem which the famous poet from Anglesey composed in America which has survived. But first we discuss the earliest Welsh-language texts written in America – beginning with poetry by sailors from Wales composed in the Caribbean. Here’s an opportunity to learn an astounding fact: a Welsh-language book was published in North America more than half a century before the birth of that new Country, the United States! We also note that the popular legend about Prince Madog is not true, acknowledging that this ‘myth-busting’ will be a disappointment to some people. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Er mwyn dysgu am NAASWCH: https://www.naaswch.wales/saesneg-home - Ellis Pugh, Annerich i’r Cymry (Philadelphia, 1721): https://www.library.wales/discover-learn/digital-exhibitions/europeana-rise-of-literacy/expatriate-literature/annerch-ir-cymry-iw-galw-oddiwrth-y-llawer-o-bethau-at-yr-un-peth-angenrheidiol-er-mwyn-cadwedigaeth-eu-heneidiau . - Jerry Hunter, ‘Y Gymraeg y tu allan i Gymru: Cipolwg ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Unol Daleithiau, 1838-65’, yn Angharad Naylor, Llion Pryderi Roberts a Dylan Foster Evans (goln.), Beth yw’r Gymraeg? (Caerdydd, 2023): https://www.uwp.co.uk/app/uploads/9781786839503_WEB-1.pdf . - Gwyn Alf Williams, Madoc: The Making of a Myth (Rhydychen, 1987) - Pennod 4: ‘Yr Indiaid Cymreig: Y Cyfaill o’r Hen Wlad a Llên y Madogwys’ yn Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd [:] Cyd-destunoli’r Genhadaeth Gymreig i’r Tsalagi (Caerdydd, 2012). - Jerry Hunter, ‘Myth and Historiography: One Hundred and Sixty Years of Madog and the Madogwys’, yn Kristin A. Cook a Robert Lawson-Peebels (goln.), Writing the Americas, 1480-1826 (rhifyn arbennig: Yearbook of English Studies, 2016).
Thu, 20 Nov 2025 - 29min - 95 - Pennod 74 - Hiraeth am Fôn: Goronwy Owen
Caiff Richard Wyn Jones ragor o hanes llenyddol ei fro enedigol yn y bennod hon wrth i ni drafod Goronwy Owen, bardd enwocaf Ynys Môn. Awgrymwn fod delfrydau llenyddol cylch y Morrisiaid i’w gweld ar eu mwyaf eglur ym marddoniaeth ‘Goronwy Ddu’, gan fod ei feistrolaeth ar y mesurau caeth wedi gwireddu i raddaeth health yr awydd i ailafael yn safonau’r beirdd Cymraeg canoloesol. Ac wrth esbonio’r estheteg sy’n gyrru llawer iawn o’i waith, cynigiwn ddiffiniad o ‘Awgwstaniaeth’ (gyda golwg ar y llyfr a gyhoeddwyd gan Saunders Lewis yn 1924). Gwrthgyferbynnwn y cerddi cain a gyfansoddwyd ganddo sy’n mynegi’i hiraeth am Ynys Môn â’r ffaith na ddychwelodd i Gymru ar ôl iddo ymadael, gan yn gyntaf ddilyn gyrfa eglwysig yn Lloegr a diweddu’i oes yn America fel perchennog planhigyfa dybaco a phedwar o gaethweision. Trafodwn hefyd y dylanwad a gâi ei farddoniaeth ar fudiad eisteddfodol y ganrif ddilynol. ** Hiraeth for Anglesey: Goronwy Owen Richard Wyn Jones receives more of his native region’s literary history in this episode as we discuss, Goronwy Owen, Anglesey’s most famous poet. We suggest that the literary ideals of the Morris circle are seen most clearly in the poetry of ‘Dark-haired Goronwy’, for his mastery of the strict metres realized to a great extent the desire to bring back the stands of the medieval Welsh bards. And as we explain the aesthetics driving much of his work, we offer a definition of ‘Augustanism’ (with an eye to the book which Saunders Lewis published in 1924). We contrast the finely-crafted poems expressing his hiraeth or longing for Anglesey with the fact that he never returned to Wales after leaving, first to follow a career in the Church in England and ending his life in America as the owner of a tobacco plantation and four slaves. We also discuss the influence which his poetry would have on the eisteddfod movement of the following century. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Saunders Lewis, A School of Welsh Augustans (Wrecsam, 1924) - Branwen Jarvis, Goronwy Owen [:] Writers of Wales (Caerdydd, 1986) - Alan Llwyd, Goronwy Ddiafael, Goronwy Ddu [:] Cofiant Goronwy Owen 1723-1769 (Llandybïe, 1997).
Thu, 06 Nov 2025 - 35min - 94 - Pennod 73 - Morrisiaid Môn
Ac yntau’n hogyn o sir Fôn, mae Richard Wyn Jones yn ebychu ar ddechrau’r bennod hon na chlywodd ‘un sill’ am y brodyr llengar hyn o’r Ynys pan oedd yn yr ysgol. Dyma gyfle felly i unioni’r cam wrth i ni drafod y pedwar brawd o Bentrerianell, Llanfihangel Tre’r Beirdd. Yn ogystal â Lewis, Richard, William a Siôn Morris, nodwn fod cylch ehangach y Morrisiaid yn cynnwys cymeriadau fel Evan Evans (Ieuan Fardd) a Goronwy Owen. Pwysleisiwn fod gan y Morrisiaid rychwant eang iawn o ddiddordebau, gan gynnwys y gwyddonol yn ogystal â’r llenyddol. Ac yn ogystal ag astudio hen lenyddiaeth eu gwlad, roedd rhai ohonynt yn ysgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth wreiddiol. Edrychwn yn benodol ar gwpl o gerddi Lewis Morris wrth i ni drafod y modd yr aeth ati i ailwampio agweddau ar yr hen draddodiad barddol Cymraeg a gwneud cyfoeth yr hen oesau yn berthnasol mewn oes newydd. Cawn gyfle i ystyried ychydig o’i ryddiaith hefyd, sy’n fodd i werthfawrogi ymhellach ei hiwmor dychanol miniog. Rhaid picio draw i Lundain hefyd wrth egluro bod rhai o’r Morisiaid yn ei chanol hi pan sefydlodd y gymdeithas Gymreig ddylanwadol honno, y Cymmrodorion. ** The Morris Brothers of Anglesey Seeing as he’s from Anglesey, Richard Wyn Jones exclaims at the start of this episode that he didn’t hear so much as ‘a single syllable’ about these literary-minded Brothers from the Island when he was in school. This is an opportunity to correct that lack, as we discuss the four brothers from Pentrerianell, in the parish of Llanfihangel Tre’r Beirdd. In addition to Lewis, Richard, William and Siôn Morris, we note that the wider circle of the Morrises included characters like Evan Evans (Ieuan Fardd) and Goronwy Owen. We emphasize that the Morris brothers had a wide range of interests, including the scientific as well as the literary. And in addition to studying the old literature of their country, some of them wrote original prose and poetry. We look specifically at a few poems by Lewis Morris as we discuss how he went at it to rework aspects of the old Welsh bardic tradition and make the wealth of the old ages relevant in a new age. We also get an opportunity to consider a little of his prose, which helps us appreciate his sharp satirical humour even more. We also have to pop over to London as we explain that some of the Morris brothers were in the thick of it when that influential society, the Cymmrodorion, was founded. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Saunders Lewis, A School of Welsh Augustans (Wrecsam, 1924) - Alun R. Jones, Dawn Dweud: Lewis Morris (Caerdydd, 2004) - John H. Davies (gol.), The letters of Lewis, Richard, William, and John Morris, of Anglesey (Morrisiaid Môn), 1728-1765, dwy gyfrol (Aberystwyth, 1907-09)
Thu, 23 Oct 2025 - 31min - 93 - Pennod 72 - Y Ffŵl a’r Pregethwr: Yr Anterliwt (rhan 4)
Yn bell o fod yn unffurf, roedd llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif yn faes ymrafael. Rydym ni’n archwilio’r canfyddiad hwnnw yn y bennod hon wrth gloi ein trafodaeth estynedig ar yr anterliwt a’i chyd-destun(au). A ninnau wedi ystyried ymosodiadau’r diwygwyr crefyddol ar y diwylliant traddodiadol hwn mewn pennod gynharach, dyma gyfle i weld yr anterliwtwyr yn taro’n ôl. Craffwn ar ddwy anterliwt sy’n llwyfannu’r ymrafael crefyddol ac ideolegol hwn, Protestant a Neilltuwr gan Huw Jones o Langwm a Ffrewyll y Methodistiaid gan William Roberts, Llannor. Gwelwn ffyliaid y dramâu hyn yn lladd ar y Methodistiaid yn y modd mwyaf anllad a thrafodwn y ddeuoliaeth ddiddorol sy’n nodweddu’r testunau hyn. Ond wrth nodi bod yr anterliwtiau hyn yn hyrwyddo ideoleg eglwyswyr ceidwadol, sylwn hefyd fod rhai oddi mewn i’r gymuned honno yn poeni am natur y traddodiad. ** The Fool and the Preacher: The Anterliwt (part 4) Far from being uniform, Welsh-language literature of the eighteenth century was a contested field. We examine that realization in this episode as we conclude our extended discussion of the anterliwt and its context(s). As we have considered the attacks by religious reformers on this traditional culture in an earlier episode, here’s an opportunity to see the composers of anterliwtiau strike back. We look at two anterliwtiau which stage this religious and ideological struggle, Protestant a Neilltuwr [Protestant (or ‘Anglican’) and Nonconformist] by Huw Jones of Llangwm and Ffrewyll y Methodistiaid [‘The Methodists’ Whip’] by William Roberts, Llannor. We see the fools of these plays belittling the Methodists in the bawdiest of ways and we discuss the interesting dualism which characterises these texts. But as we note that these anterliwtiau promote the ideology of conservative Anglicans, we also observe that some within that community worried about the nature of the tradition. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - A. Cynfael Lake (gol), Huw Jones o Langwm (Caernarfon: Gwasg Pantycleyn, 2009). - A Cynfael Lake (gol.), Ffrewyll y Methodistiaid William Roberts (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1998) - Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, yn Branwen Jarvis (gol.), A guide to Welsh literature c.1700-1800 (Caerdydd: Gwasg Prifsygol Cymru, 2000). - Jerry Hunter, Llywodraeth y Ffŵl: Gwylmabsant, Anterliwt a Chymundeb y Testun, llyfr sydd yn y wasg ar hyn o bryd (Gwasg Prifysgol Cymru). - Jerry Hunter, Safana (Talybont: Y Lolfa, 2021).
Thu, 09 Oct 2025 - 26min - 92 - Pennod 71 - Ffŵl heb Ffiniau: Yr Anterliwt (rhan 3)
Cewch gyfle yn y bennod hon i gyfarfod â Gwagsaw, Syr Caswir, Ffowcyn Gnuchlyd a rhai o ffyliaid eraill yr anterliwtiau. Wrth graffu ar rôl y ffŵl, nodwn fod ganddo nifer o swyddogaethau mewn anterliwt draddodiadol. Yn gyntaf, mae’n agor y chwarae â’i gastiau doniol a’i eiriau dychanol er mwyn ceisio denu cynulleidfa. Awn ati’n fwy athronyddol i awgrymu y gellid gweld gwaith y ffŵl ar ddechrau anterliwt yn nhermau troi torf afreolus gwylmabsant, marchnad neu ffair yn gynulleidfa sy’n fodlon aros yn eu hunfan a gwylio drama am ddwy neu dair awr. Ond os yw’n gorfodi trefn weithiau, mae’r ffŵl yn chwalu trefn hefyd, gan droi byd y cybydd â’i ben i waered. Wrth ystyried Hanes y Capten Ffactor gan Huw Jones o Langwm, sylwn fod y ffŵl Gwagsaw yn chwalu ffiniau’i stori a’i anterliwt ei hun, a gwelwn hon fel enghraifft o’r modd y gallai’r anterliwtwyr weithio’n greadigol oddi mewn i ffiniau’r traddodiad. * A Fool without Bounds: The Anterliwt (part 3) In this episode you’ll get an opportunity to meet Gwagsaw [‘Frivolous One’], Syr Caswir [‘Sir Harsh Truth’], Ffowcyn Gnuchlyd [‘Fucking Foulke’] and other fools from the anterliwtiau. As we examine the role of the fool, we note that he has many functions in a traditional anterliwt. First of all, he begins the play with his funny capers and his satirical words in order to attract an audience. We go on in a more philosophical vein and suggest that one could view the fool’s job at the start of an anterliwt in terms of turning the unruly crowd at a gwylmabsant, market or fair into an audience willing to stay put and watch a play for two or three hours. But if he compels order at times, the fool also destroys order, turning the miser’s world upside down. While considered ‘The History of Captain Ffactor’ by Huw Jones of Llangwm, we observe how the fool Gwagsaw destroys the boundaries of his own story and his own play, and we see this as an example of how the anterliwt-composers could work creatively within the boundaries of tradition. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - G.G. Evans, ‘Yr Anterliwt Gymraeg’, Llên Cymru, cyf. 1, rhifyn 2 (Gorffennaf 1950). - G. G. Evans, ‘Yr Anterliwt Gymraeg [:] II’, Llên Cymru Cyfrol II (Gorffennaf 1953). - Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, yn Branwen Jarvis (gol.), A guide to Welsh literature c.1700-1800 (Caerdydd: Gwasg Prifsygol Cymru, 2000). - Jerry Hunter, Llywodraeth y Ffŵl: Gwylmabsant, Anterliwt a Chymundeb y Testun, llyfr sydd yn y wasg ar hyn o bryd (Gwasg Prifysgol Cymru).
Thu, 25 Sep 2025 - 31min - 91 - Pennod 70 - ‘Dynion dawnus yn dilyn chw’ryddiaeth’: Yr Anterliwt (rhan 2)
Canolbwyntiwn yn y bennod hon ar yr actorion a oedd yn perfformio mewn anterliwtiau, gan graffu ar nifer o destunau llenyddol sy’n taflu goleuni ar eu gwaith a’u hunaniaeth. Yn debyg i gwmni drama heddiw, roedd cwmni anterliwt yn y ddeunawfed ganrif yn teithio o le i le ac yn llwyfannu perfformiadau mewn nifer o wahanol gymunedau. Dengys y dystiolaeth mai ‘llanciau’ oedd yr actorion hyn, dynion ifainc a gefnodd ar eu swyddi arferol dros dro er mwyn ‘canlyn anterliwt’. Awgrymwn fod yr anterliwt yn faes ffrwythlon i’r sawl sydd am astudio seiliau materol diwylliant Cymraeg y cyfnod. Awgrymwn ei fod yn faes ffrwythlon ar gyfer dadansoddiadau anthropolegol hefyd. * ‘Talented men following a play’: The Anterliwt (part 2) We concentrate in this episode on the actors who performed in anterliwtiau, examining a number of different literary texts which throw light on their work and their identity. Like a theatre company today, an anterliwt company in the eighteenth century travelled from place to place and staged performances in different communities. The evidence shows that these actors were ‘lads’, young men who left their normal jobs temporarily in order to ‘follow an anterliwt’. We suggest that the anterliwt is a fruitful field for those who want to study the material foundations of Welsh culture in the period. We also suggest that it’s a fruitful field for anthropological interpretations. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Jerry Hunter, ‘Gwerth Oferedd’, Taliesin 50 (Gaeaf 2011). - G.G. Evans, ‘Yr Anterliwt Gymraeg’, Llên Cymru, cyf. 1, rhifyn 2 (Gorffennaf 1950). - G. G. Evans, ‘Yr Anterliwt Gymraeg [:] II’, Llên Cymru Cyfrol II (Gorffennaf 1953). - Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, yn Branwen Jarvis (gol.), A guide to Welsh literature c.1700-1800 (Caerdydd: Gwasg Prifsygol Cymru, 2000).
Thu, 11 Sep 2025 - 26min - 90 - Pennod 69 - Maswedd a Moeswers: Yr Anterliwt ( rhan 1)
Dyma’r gyntaf mewn cyfres o benodau sy’n archwilio gwahanol agweddau ar draddodiad yr anterliwt. Mae Jerry Hunter newydd orffen ysgrifennu llyfr am y pwnc ac “yn llosgi am y stwff `ma”, chwedl ei gyd-gyflwynydd, ac erbyn diwedd y bennod hon mae Richard Wyn Jones yntau’n “ysgwyd ei gynffon” gyda chyffro. Awn ati i ddiffinio’r anterliwt yn fras, gan egluro’i bod hi’n ddrama fydryddol gyda cherddoriaeth, canu, dawnsio a chwffio slap-stic yn greiddiol i berfformiadau a oedd yn debygol o barhau am ddwy neu dair awr. Pwysleisiwn fod agweddau traddodiadol iawn ar y testunau anterliwt niferus sydd wedi goroesi yn ogystal â’r straeon gwreiddiol a ddewiswyd gan y beirdd a’u lluniodd. Gan ystyried yr hiwmor masweddus sy’n ganolog i’r rhan fwyaf ohonynt, cyfeiriwn at ymosodiadau’r diwygwyr crefyddol ar yr anterliwt a’r wylmabsant a oedd yn gyd-destun ar gyfer y fath sioe. * * Dirty Jokes and Moral Lessons: The Anterliwt (part 1) This is the first in a series of episodes which examine various aspects of the anterliwt tradition. Jerry Hunter has just finished writing a book about the subject and “is on fire to discuss this stuff”, as his co-presented says, and by the end of this episode Richard Wyn Jones is “shaking his tail” with excitement as well. We provide a basic definition of the anterliwt, explaining that it was a metrical play with music, singing, dancing and slap-stick fighting central to performances which likely lasted for two or three hours. We stress that the numerous anterliwt texts which have survived are characterized by very traditional aspects as well as the original stories chosen by the poets who fashioned them. While considering the bawdy humour which is central to most of them, we refer to the attacks of the religious reformers on the anterliwt and the gwylmabsant festival which provided a context for this kind of show. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. G. Evans, ‘Er Mwyniant i’r Cwmpeini Mwynion’ [:] Sylwadau ar yr Anterliwtiau’, Taliesin 51 (1985), 31-43. - G. G. Evans, Elis y Cowper (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 1995) - A. Cynfael Lake, Huw Jones o Langwm (Caernarfon: Gwasg Pantycleyn, 2009). - Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, yn Branwen Jarvis (gol.), A guide to Welsh literature c.1700-1800 (Caerdydd: Gwasg Prifsygol Cymru, 2000), 210-55. - Anterliwtiau Huw Jones o Langwm, wedi’u golygu gan A. Cynfael Lake, ar wefan Prifysgol Abertawe: baledihuwjones.swan.ac.uk.
Thu, 28 Aug 2025 - 28min - 89 - Pennod 68 - Baledi’r Ddeunawfed Ganrif
Cewch gyflwyniad yn y bennod hon i faledi’r ddeunawfed ganrif, un o ffurfiau llenyddol Cymraeg mwyaf poblogaidd y cyfnod. Yn wir, o ystyried y nifer uchel ohonynt sydd wedi goroesi, mae’n bosib dadlau mai’r faled oedd ffurf fwyaf poblogaidd y ddeunawfed ganrif. Ar ôl ymgodymu ychydig â’r diffiniad, awgrymwn mai’r cysylltiad rhwng y math hwn o gerdd a’r wasg argraffu yw’r ffordd orau o ddiffinio’r faled. Cerddi i’w canu oedd y baledi hyn, ffaith sy’n codi cwestiynau diddorol am y berthynas rhwng y cyfrwng llafar a phrint. Wrth ystyried cyfansoddiad gan Als Williams, nodwn fod baledwragedd yn ogystal â baledwyr, a bod merched wedi hawlio lle yn y diwydiant cyhoeddi newydd hwn. Edrychwn ar ddwy faled gan Huw Jones o Langwm hefyd, y naill am ddaeargryn Lisbon (1755) a’r llall am ei helyntion ei hun. Cewch glywed ychydig o hanes Richard Wyn Jones yn astudio Jôb yn yr ysgol Sul pan oedd yn hogyn ifanc hefyd. *** The Ballads of the Eighteenth Century In this episode you’ll get an introduction to the ballads of the eighteenth century, one of the most popular Welsh-language literary forms of the period. Indeed, considering the high number of them which have survived, it’s possible to argue that the ballad was the most popular form of the eighteenth century. After wrestling a little with the definition, we suggest that the connection between this kind of poem and the printing press is the best way to define the ballad. These ballads were poems to be sung, a fact which raises interesting questions about the relationship between the oral medium and print. While considering a composition by Als Williams, we note that that there are ballads by women who claimed a place in this new publishing industry. We also look at two ballads by Huw Jones of Llangwm, one about the 1755 Lisbon earthquake and the other about his own problems. You’ll also hear a little about Richard Wyn Jones studying the Book of Job in Sunday school when he was a young lad. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. G. Millward (gol.), Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1991). - Cathryn Charnell-White (gol.), Beirdd Ceridwen [:] Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (Llandybïe, 2005). - Siwan Roser, Y Ferch ym Myd y Faled [:] Delweddau o’r Ferch ym Maledi’r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 2005). Baledi Huw Jones o Langwm, wedi’u golygu gan A. Cynfael Lake, ar wefan Prifysgol Abertawe: baledihuwjones.swan.ac.uk.
Thu, 14 Aug 2025 - 28min - 88 - Pennod 67 - Ochr Arall y Geiniog
Mae’r penodau diwethaf wedi canolbwyntio ar y Diwygiad Methodistiaidd a’r hyn a enillwyd yn sgil y trawsffurfiad crefyddol, cymdeithasol a llenyddol hwnnw, gan edrych yn benodol ar waith William Williams, Pantycelyn. Edrychwn yn y bennod hon ar yr hyn a gollwyd wrth i Ymneilltuaeth Gymreig wthio rhai agweddau traddodiadol ar ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru i’r cysgodion. Awgrymwn y dylid ystyried llwyddiant yr emyn Methodistaidd ochr yn ochr â hen fathau o ganu crefyddol Cymraeg a nychodd oherwydd y llwyddiant hwnnw, gan gynnwys y canu plygain a’r halsing. I’r perwyl hwnnw, darllenwn ychydig o garol Nadolig hir gan Edward Samuel, bardd o Benmorfa, sir Gaernarfon, a fu farw yn 1748. Caiff yr wylmabsant sylw gennym wedyn, sef math o ŵyl gymunedol leol a oedd yn gyd-destun ar gyfer pob math o arferion gwerin a pherfformiadau diwylliannol, traddodiad yr aeth pregethwyr ymneilltuol ati’n egnïol i’w ladd. * * * The Other Side of the Coin Recent episodes have concentrated on the Methodist Revival and the things which Wales won because of that religious, cultural and literary transformation, looking specifically at the work of the William Williams, Pantycelyn. In this episode we look at that which was lost as Welsh Nonconformism pushed some traditional features of the culture and literature of Wales into the shadows. We suggest that the success of the Methodist hymn should be considered side by side with old types of Welsh religious song which languished because of that success, including the plygain song and the halsing. To that end, we read some of a long Christmas carol by Edward Samuel, a poet from Penmorfa, Caernarfonshire, who died in 1748. The gwylmabsant comes under consideration then, a type of local community festival which was the context for all kinds of folk customs and cultural performances, a tradition which nonconformist preachers attempted energetically to kill. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Geraint Jenkins, Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar 1530-1760 (Caerdydd, 1983). - E. G. (gol.), Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1991).
Thu, 31 Jul 2025 - 28min - 87 - Pennod 66 - Bardd Diofal?: Williams Pantycelyn (rhan 3)
Rydym ni’n gorffen trafod yr emynydd mawr yn y bennod hon trwy ofyn cwestiwn a fydd o bosib yn annisgwyl i’r rhan fwyaf o’n dilynwyr, sef a oedd Pantycelyn yn fardd diofal? Dyfynnwn nifer o ysgolheigion o’r ugeinfed ganrif sy’n awgrymu hyn, gan gynnwys Saunders Lewis a ddywedodd nad oedd William Williams yn parchu geiriau o gwbl. Ac wrth ystyried perthynas y bardd â’r iaith Gymraeg awn ni i drafod ei berthynas â’r traddodiad barddol Cymraeg gan bwysleisio y byddai’n well ei gweld ar un olwg fel diffyg perthynas. Nodwn wrth fynd heibio bod barddoniaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif yn amrywiol iawn a bod llawer o wahanol feirdd wrthi yn y cyfnod yn defnyddio’r hen fesurau caeth, er bod Pantycelyn wedi anwybyddu’r gynghanedd yn gyfan gwbl. A yw’n bosib felly dweud mai ef oedd y bardd modern cyntaf yng Nghymru? * A Careless Poet?: Williams Pantycelyn (3) We finish discussing the great hymnist in this episode by asking a question which might come as a surprise to most of our listeners, namely, was Pantycelyn a careless poet? We quote a number of twentieth-century scholars we suggest that, including Saunders Lewis who said that William Williams did not respect words at all. And while considering the poet’s relationship with the Welsh language we discuss his relationship with the Welsh poetic tradition, emphasizing that it is perhaps best to see it as the lack of a relationship. We note in passing that Welsh poetry of the eighteenth century is characterized by a great deal of variety and that many different poets in the period were using the old traditional metres, although Pantycelyn ignored cynghanedd completely. Is it thus possible to say that he was the first modern poet in Wales? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927 [adargraffiad 1991]).
Thu, 17 Jul 2025 - 26min - 86 - Pennod 65 - ‘Pererin Wyf’: Williams Pantycelyn (rhan 2)
Ymdreiddiwn ychydig yn ddyfnach i emynau Pantycelyn yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar un thema. Ar ôl trafod yr emyn poblogaidd sy’n dechrau ‘Pererin wyf mewn anial dir’, nodwn nad dyna oedd yr unig dro na’r tro cyntaf i Williams ddechrau cyfansoddiad gyda’r ddau air hyn. Ar ôl dangos y modd y bu iddo ailgylchu elfennau o’i waith ei hun trwy gydol ei yrfa lenyddol faith, awn ati i ystyried ystyr ac arwyddocâd y ‘pererin’ – fel thema, fel delwedd ac fel persona – yn ngwaith yr emynydd Methodistaidd mawr. Mae hyn yn ein harwain i drafod dylanwad John Bunyan a’i lyfr Taith y Pererin ar waith Pantycelyn ac ar emynyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol. Ac bu’n rhaid crybwyll barn Saunders Lewis am Williams ac am Bunyan wrth fynd heibio hefyd! ** ‘I am a Pilgrim’: Williams Pantycelyn (part 2) We dive a little deeper into Pantycelyn’s hymns in this episode, concentrating on one theme. After discussing the popular hymn beginning ‘Pererin wyf mewn anial dir’ (‘I am a pilgrim in a desert’), we note that that was neither the only time nor the first time that Williams begun a composition with these two words. After demonstrating the fact that he recycled elements of his own work throughout his long literary career, we get down to considering the meaning ans significance of the ‘pilgrim’ – as a theme, as an image and as a persona – in the work of the great Methodist hymnist. This leads us to discuss the influence of John Bunyan and his book Pilgrim’s Progress upon Pantycelyn’s work and upon Welsh hymnology in general. And we had to mention Saunders Lewis’ views on Williams and Bunyan in passing as well! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Derec Llwyd Morgan, Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (1991). - Kathryn Jenkins, ‘Y Llenor o Bantycelyn’, Efrydiau Athronyddol , IV (1992). - Glyn Tegai Hughes, Williams Pantycelyn [Writers of Wales], (1983).
Thu, 03 Jul 2025 - 26min - 85 - Pennod 64 - ‘Williams biau’r Emyn’: Williams Pantycelyn (rhan 1)
Yn y bennod hon, dechreuwn drafod prifardd y mudiad Methodistaidd Cymraeg, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Er ein bod ni’n crybwyll ychydig o hanes ei fywyd (gan gynnwys ei dröedigaeth), oedwn i bwysleisio arwyddocâd ei waith llenyddol a chydsynio â’r rhai sy’n gweld emynau cynnar Pantycelyn fel dechrau pennod newydd yn hanes barddoniaeth Gymraeg. Dyma fath cwbl newydd o ganu mawl! Craffwn ar un o’i emynau poblogaidd, gan sylwi ar y naws bersonol a’r iaith hygyrch ac awgrymu bod rhywbeth beiddgar yn y modd y defnyddiodd themâu a delweddaeth yr hen ganu serch i drafod cariad at Dduw. Trafodwn y persona a glywir yn llefaru yn y cyfansoddiad ac rydym yn canfod cyfuniad diddorol o’r personol-breifat a’r cymunedol-gyhoeddus yn y gwaith. Awgrymwn fod cyhoeddiadau Pantycelyn yn fodd i werthfawrogi twf y wasg argraffu Gymraeg ac ystyriwn seiliau materol ei yrfa lenyddol. ** ‘The Hymn Belongs to Williams’ In this episode we begin discussing the Welsh Methodist movement’s chief poet, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Although we summarize some of the history of his life (including his conversion), we take more time in stressing the significance of his literary work as we agree with those we see Pantycelyn’s early hymns as the start of new chapter in the history of Welsh-language poetry. Here is a completely new kind of praise poetry! We examine one of his popular hymns, taking note of the personal tone and accessible language and suggesting that there is something daring in the way in which he used themes and imagery from the old love poetry in order to treat love of God. We discuss the persona heard speaking in the composition and we perceive an interesting combination of the personal-private and the communal-public in the work. We suggest that Pantycelyn’s publications provide a way of appreciating the growth of the Welsh printing press and we consider the material foundations of his literary career. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Derec Llwyd Morgan, Williams Pantycelyn (1983).
Thu, 19 Jun 2025 - 31min - 84 - Pennod 63 - Dechrau Cyfnod Newydd: Y Diwygiad Methodistaidd
Croeso i gyfres 3 Yr Hen Iaith! Agorwn y gyfres newydd hon trwy drafod dechreuadau’r Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, mudiad a fyddai’n cael effaith anferthol ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Nodwn fod y mudiad crefyddol wedi dod i Gymru ar yr union adeg ag yr oedd yn troi’n fudiad trawsatlantig, gydag un o’r arweinwyr Seisnig, George Whiftield, yn cael ei gofio gan rai fel ‘tad ysbrydol America’ (er ei fod yn ddyn drwg iawn ym marn Jerry Hunter!). Yn arwyddocaol iawn o safbwynt llenyddiaeth, roedd gwedd lythrennog iawn ar Fethodistiaeth Gymreig gynnar; er nad aeth yr un ohonynt i brifysgol, roedd yr arweinwyr cynnar – Hywel (neu Howell) Harris, Daniel Rowland a William Williams Pantycelyn – wedi derbyn addysg safonol iawn. Gwyddom lawer am Howell Harris gan ei fod yn ysgrifennu cymaint – mae agos at 300 o’i ddyddiaduron a llawer o’i lythyrau personol wedi goroesi hefyd. Un o gefnogwyr Cymreig cynnar y diwygiad oedd Griffith Jones, Llandowror – dyn a wnaeth lawer i hyrwyddo llythrennedd trwy sefydlu’i rwydwaith o ysgolion. Wrth drafod trefniadau ymarferol y Methodistiaid cynnar – y seiat a’r sasiwn – awgrymwn fod y rhwydweithiau crefyddol hyn hefyd yn creu cymuned o ddarllenwyr a ‘derbynwyr llenyddiaeth’. The Beginning of a New Period: The Methodist Revival Welcome to series 3 of Yr Hen Iaith! We open this new series by discussion the beginnings of the Methodist Revival in Wales, a movement which would have an immense effect on the Welsh-language literary tradition. We note that the religious movement came to Wales at the exact time when it was beginning a transatlantic movement, with on of its English leaders, George Whitfield, being remembered by some as ‘America’s spiritual father’ (although he was a very bad man in Jerry Hunter’s opinion!). Extremely significant in the context of, there was an extremely literate aspect to early Welsh Methodism; although none of them went to university, the early leaders – Hywel (or Howell) Harris, Daniel Rowland and William Williams Pantycelyn – all received a very solid education. We know a lot about Howell Harris because he wrote so much – nearly 300 of his diaries have survived as well as many of his personal letters. One of the revival’s early Welsh supporters was Griffith Jones, Llandowror – a man who did much to promote literacy with the establishment of his network of schools. While discussing the practical organization of the early Mahdiists – the ‘seiat’ and the ‘sasiwn’ – we suggest that these religious Networks also created a community of readers and ‘receivers of literature’. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Geraint H. Jenkins, Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar 1530-1760 (1983). - Derec Llwyd Morgan, Y Diwygiad Mawr (1981). - Jerry Hunter, Safana
Thu, 12 Jun 2025 - 31min - 83 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Branwen ferch Llŷr
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod ‘Ail Gainc y Mabinogi’, sef y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’. Rydym ni’n ystyried nifer o agweddau ar y stori gyffrous hon, gan ofyn cwestiynau diddorol am ei pherthynas â’r gymdeithas ganoloesol yr oedd yn perthyn iddi. Nodwn ei bod yn ei hanfod yn stori am briodas frenhinol, ac awgrymwn ei bod yn bosib ei darllen fel testun radicalaidd sy’n mynd i’r afael â’r wedd honno ar gymdeithas mewn modd beirniadol. Craffwn hefyd ar ymdriniaeth y chwedl â rhyfel a heddwch, gan nodi arwyddocâd y rhyfel apocalyptaidd sy’n lladd y rhan fwyaf o boblogaeth Iwerddon a’r rhan fwyaf o’r fyddin fawr sy’n croesi’r môr i achub Branwen. ** Branwen daughter of Llŷr We have a great time in this episode while discussing ‘The Second Branch of the Mabinogi’, namely the tale of ‘Branwen daughter of Llŷr’. We consider a number of things about this exciting story, asking interesting questions about its relationship with the medieval society to which it belonged. We note that it is in essence a story about a royal marriage, and we suggest that it’s possible to read it as a radical text which addresses this aspect of society in a critical fashion. We also examine the tale’s treatment of war and peace, noting the significance of the apocalyptical war which kills most of the population of Ireland and most of the great army which crossed the sea to save Branwen. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Dyma bennod yng nghyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n trafod y chwedl: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-5-chwedl-branwen - Hefyd, mae penodau am weddill ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ ac un sy’n trafod ‘y chwedlau brodorol’ yn gyffredinol: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-3-y-chwedlau-brodorol https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-4-chwedl-pwyll-pendefig-dyfed https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-6-manawydan-a-seiliau-cymdeithas https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-7-trafferthion-teuluol-math - Deunydd astudio CBAC, wedi’i baratoi gan yr Athro Sioned Davies: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/index.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/23cymeriadau3.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/14themau4.html
Thu, 01 May 2025 - 23min - 82 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Gwyn Rhydderch
Mae’r bennod nesaf yn canolbwyntio ar y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’ (neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’). Rydym ni’n paratoi ar gyfer y drafodaeth honno yn y bennod hon trwy edrych ar y llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys copi cyflawn o’r chwedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch. Crëwyd y llawysgrif hon tua’r flwyddyn 1350 gan nifer o fynaich a oedd yn cydweithio ym mynachdy Ystrad Fflur yng Ngheredigion, a hynny, mae’n debyg, ar gyfer dyn o’r enw Rhydderch ab Ieuan Llwyd. Pwysleisiwn fod creu llawysgrif yn broses lafurus iawn a gymerai lawer o amser ac adnoddau a bod llawysgrif yn beth hynod werthfawr o’r herwydd. Roedd gwneuthurwyr llawysgrifau canoloesol felly’n dewis cynnwys eu ‘llyfrau’ yn ofalus iawn. Nodwn fod ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ ymysg y ‘chwedlau brodorol’ a geir yn Llyfr Gwyn Rhydderch, gan ystyried hefyd y ffaith bod rhychwant eang o wahanol destunau wedi’u cynnwys yn y llawysgrif hefyd. ** The next episode focusses on the tale ‘Branwen daughter of Llŷr’ (or ‘The Second Branch of the Mabinogi’). We prepare for that discussion in this episode by looking at the earliest manuscript which contains a complete copy of the tale, namely the White Book of Rhydderch. This manuscript was created about the year 1350 by a number of monks working together in the monastery of Strata Florida in Ceredigion, most likely for a man named Rhydderch ab Ieuan Llwyd. We stress the fact that creating a manuscript was a very laborious process which took a lot of time and resources and that a manuscript was and is an extremely valuable thing because of that. The makers of medieval manuscripts thus chose the contents of their ‘books’ very carefully. We note that ‘The Four Branches of the Mabinogi’ are among the ‘native tales’ found in the White Book of Rhydderch, while also considering the fact that a wide selection of different texts is also included in the manuscript. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Cewch weld copi digidol o’r holl lawysgrif ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-gwyn-rhydderch - Cewch glywed rhagor am greu llawysgrifau Cymraeg canoloesol yn y bennod hon yng nghyfres 1 Yr Hen Iaith: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-2-y-llawysgrif-gymraeg-gyntaf-sydd-wedi-goroesi
Thu, 01 May 2025 - 09min - 81 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Trafferth mewn Tafarn
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod cywydd hunan-ddychanol enwog Dafydd ap Gwilym. Dyma gerdd storïol ddoniol sy’n disgrifio ymdrech aflwyddiannus i gyfarfod â merch yn hwyr yn y nos, ac wrth adrodd y stori hon mae Dafydd yn dychanu’r union bersona barddol sy’n ganolog i gymaint o’i gywyddau. Ond nodwn fod themâu difrifol yma hefyd, er gwaethaf yr holl hwyl; mae’n bosibl dadlau bod y cywydd hwn yn cyferbynnu cariad cnawdol a chariad ysbrydol a’i fod hefyd yn gyfansoddiad sy’n amlygu tensiynau rhwng y Cymry a’r Saeson. ** ‘Trouble at an Inn’ We have fun in this episode while discussing Dafydd ap Gwilym’s famous self-satirical cywydd. This is a narrative poem which describes an unsuccessful attempt to meet a woman late at night, and by reciting this story Dafydd is satirizing the very bardic persona which is central to so many of his cywyddau. But we note that there are serious themes here as well, despite all of the fun; it’s possible to argue that this cywydd contrasts bodily love with spiritual love and that it is a composition which expresses tensions between the Welsh Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster: http://resource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/04-trafferth-mewn-tafarn.html - Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3
Thu, 24 Apr 2025 - 34min - 80 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Mis Mai a Mis Tachwedd
‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn arwyddo dechrau haf – tymor sy’n caniatáu iddo gyfarfod â’i gariad(on). Craffwn ar y modd y mae Dafydd yn personoli mis Mai ac awgrymu’i fod yn defnyddio rhai o nodweddion y canu mawl, gan wneud yr elfennau traddodiadol hyn yn rhan o’i gyfansoddiad gwreiddiol ef. ** ‘May and November’ In this episode we discuss one of Dafydd ap Gwilym’s nature poems, namely the famous cywydd which contrasts the month of May with the ‘dark angry’ month. While considering two connected themes which are central to Dafydd’s work, love and nature, we note that the poem welcomes May as it signifies the beginning of summer – the season which allows him to meet his lover(s). We examine the way in which Dafydd personifies the month of May and suggest that he uses some aspects of praise poetry, making these traditional elements part of his original composition. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster Evans: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/03-mis-mai-a-mis-tachwedd.html - Nodiadau dosbarth CBAC: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2010-11/welsh/irf10-00/cdag/3%20%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd/2%20Arddull%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd/Nodiadau%20dosbarth%20-%20Arddull%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd.docx - Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3
Thu, 24 Apr 2025 - 26min - 79 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Yr Wylan
Edrychwn yn y bennod hon ar un o gywyddau llatai Dafydd ap Gwilym gan egluro ystyr y gair hwnnw – ‘llatai’ – a thrafod patrwm arferol cywyddau o’r fath. Dyma fath o gerdd sy’n cyfuno dwy hoff thema Dafydd, cariad a natur, gan roi rhwydd hynt i ddychymyg bardd wrth iddo bersonoli’r wylan a’i gwenieithu. Gwerthfawrogwn ddisgrifiadau hudolus Dafydd o’r aderyn a cheisiwn ddyfalu pa dref gastellog y cyfeirir ati. Nodwn fod hen thema gyfarwydd arall yn ymddangos yn y gerdd hon, sef honiad Dafydd ei fod yn glaf oherwydd cariad. ** ‘The Seagull’ In this episode we look at one of Dafydd ap Gwilym’s cywyddau llatai and explain the meaning of that word – ‘llatai’ – and discuss the usual pattern followed by these kinds of cywyddau. This is a kind of poem which combines two of Dafydd’s favourite themes, love and nature, giving the poet’s imagination free rein as he personifies the seagull and flatters it. We appreciate Dafydd’s charming descriptions of the bird and try to guess which fortified town is referred to in the poem. We note that another old familiar theme appears in this work, namely Dafydd’s claim that he is sick because of love. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster Evans: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/02-yr-wylan.html - Sangiadau a brawddegau’r cywydd: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/support-files/uned3/yr-wylan/Yr%20Wylan%20-%20brawddegau%20sangiadau.docx - Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3
Thu, 24 Apr 2025 - 24min - 78 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Marwnad Owain ab Urien
Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau go iawn dyn go iawn yn cael eu coffáu yma. Yn ogystal â’i allu milwrol, mae’r bardd yn canmol haelioni Owain. Ac wrth graffu ar y geiriau sy’n agor ac yn cloi’r gerdd, pwysleisiwn ei bod hi’n perthyn i gyd-destun cwbl Gristnogol a bod y farwnad hon yn cyfuno mawl gyda gweddi. ** ‘Elegy for Owain son of Urien’ In this episode we look at another of Taliesin’s poems. The praise tradition including paying tribute to dead leaders, and that’s what we have in this powerful poem. We note that this elegy for Owain refers to the victory celebrated in another of Taliesin’s poems, ‘The Battle of Argoed Llwyfain’; there is a sense that the real feats of a real man are being commemorated here. In addition to his military ability, the bard praises Owain’s generosity. And while considering the words which open and close the poem, we stress that it belongs to an entirely Christian context and that this elegy combines praise with prayer. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC wedi’u paratoi gan yr Athro Marged Haycock: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned02/03-marwnad-owain.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/hengerdd/Taliesin/2%20Marwnad%20Owain%20ab%20Urien/MARWNAD%20OWAIN%20AB%20URIEN%20Nodiadau%20geiriau.docx
Thu, 17 Apr 2025 - 17min - 77 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Gwaith Argoed Llwyfain
Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd yn fuddugoliaeth i’r Brythoniaid ac mae’r bardd yn canmol eu harweinwyr, Urien a’i fab, Owain. Trafodwn y wedd ddramatig ar y gerdd wrth i’r bardd ail-greu sgwrs cyn y frwydr rhwng Owain a Fflamddwyn, arweinydd yr Eingl Sacsoniaid. Nodwn fod y gerdd waedlyd hon hefyd yn hoelio sylw ar swyddogaeth y bardd ei hun. ** ‘The Battle of Argoed Llwyfain’ This episode discusses one of the poems attributed to the bard Taliesin. The word ‘gwaith’ means ‘battle’, and although we don’t know where exactly Argoed Llwyfain was, it’s certain that the location was in the Old North and that this battle took place sometime towards the end of the sixth century. It was a victory for the Brittonic Celts and the bard praises their leaders, Urien and his son, Owain. We discuss the poem’s dramatic nature, as the bard recreates the discussion before the battle between Owain and Fflamddwyn, the leader of the Angl-Saxons. We note that this bloody poem also draws attention to the function of the poem himself. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC wedi’u paratoi gan yr Athro Marged Haycock: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned02/02-gwaith-argoed-llwyfain.html http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/hengerdd/Taliesin/1%20Argoed%20Llwyfain/GWAITH%20ARGOED%20LLWYFAIN%20Nodiadau%20geiriau.docx
Thu, 17 Apr 2025 - 19min - 76 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Taliesin
Dyma ni’n cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o gerddi Taliesin, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy edrych ar Lyfr Taliesin ei hun, un o’r trysorau a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Crëwyd y llawysgrif ryfeddol hon yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae’n cynnwys casgliad o gerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin a oedd yn canu mawl i arweinwyr ei gymdeithas yn yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif. Mae’n ddiddorol meddwl am y cerddi hyn yn teithio trwy amser o’r cyfnod hynafol hwnnw i’r Oesau Canol wrth iddynt deithio o’r Hen Ogledd i Gymru. A digwyddodd rhywbeth arall yn ystod y daith honno hefyd: oherwydd ei statws fel un o’r cynfeirdd sy’n sefyll ar ddechrau hanes y traddodiad barddol Cymraeg, aeth Taliesin yn gymeriad chwedlonol. Felly yn ogystal â’r canu mawl hanesyddol, mae Llyfr Taliesin yn cynnwys nifer o gerddi a gysylltir â’r Taliesin chwedlonol, cymeriad gyda phwerau goruwchnaturiol sy’n ymgnawdoliad o hud a grym barddoniaeth Gymraeg. ** The Book of Taliesin Here we introduce the episodes which discuss two of Taliesin’s poems, and we do that by looking at the Book of Taliesin itself, one of the treasures kept in the National Library of Wales. This amazing manuscript was created during the first half of the fourteenth century, but it includes a collection of poems which are attributed to Taliesin, the bard who sang praise to the leaders of his society in the Old North in the sixth century. It’s interesting to think about these poems travelling through time from that ancient period to the Middle Ages as they travelled from the Old North to Wales. And something else happened during that journey as well: because of his status as one of the earliest poets standing at the beginning of the Welsh bardic tradition, Taliesin became a legendary character. Thus, in addition to the historical praise poetry, the Book of Taliesin contains a number of poems connected to the legendary Taliesin, a character with supernatural powers who is an incarnation of Welsh poetry’s magic and might. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Mae’n bosibl gweld y llawysgrif ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-taliesin
Thu, 17 Apr 2025 - 05min - 75 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Canu Aneirin, Awdl 24
Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf, disgrifir marwolaeth mewn brwydr yma fel ‘bwydo brain’. Dyma farddoniaeth sy’n ein cymell i weld yr olygfa drist, gan gynnwys y gwaed sy’n gwlychu arfwisg y milwr marw hwn. Pwysleisiwn fod un o’r llinellau hyn – ‘Beirdd byd barnant ŵr [neu ‘wŷr’] o galon’ – yn hoelio sylw ar swyddogaeth gymdeithasol y bardd. * Here we discuss an elegy to another of the Gododdin’s dead warriors, Buddfan fab Bleiddfan. We note that ‘arwr’ (‘hero’) is the first word, summarizing effectively the picture we get in the following lines. We also note that the last word, ‘dihafarch’ (‘brave’) encapsulates this elegy’s main message. Like the first awdl, death in battle is described here as ‘feeding crows’. This is poetry which urges us to see the sad scene, including the blood soaking this dead soldier’s armour. We stress that one of these lines – ‘Beirdd byd barnant ŵr [‘wŷr’] o galon’ – focusses attention on the poet’s social function. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC – golygiad a nodiadau gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/03-awdl-xxiv-aneirin.html
Thu, 10 Apr 2025 - 13min - 74 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Canu Aneirin, Awdl 1
Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, ac roedd yn ifanc iawn pan fu farw. * We discuss the first of the Gododdin’s awdlau in this episode, namely an elegy for Ywain, a warrior described as ‘Marro’s only son’. We note that the style is very sparse yet also extremely powerful; here is a poet who does a lot with a few words. We learn a number of things about Ywain: he was a brave soldier, he died in the battle, and he was very young when he died. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC – golygiad a nodiadau gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/02-awdl-i-aneirin.html
Thu, 10 Apr 2025 - 15min - 73 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Aneirin
Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi, tybed a oes cysylltiad rhwng y cyd-destun gwleidyddol hwnnw a chynnwys y llawysgrif?! Trafodwn Y Gododdin a gofyn cwestiwn cymhleth am daith yr hen farddoniaeth hon o’r ‘Hen Ogledd’ i’r Gymru ganoloesol. Edrychwn hefyd ar nodiadau diddorol yn y llawysgrif sy’n awgrymu sut oedd rhai beirdd diweddarach yn ystyried pwysigrwydd a gwerth Llyfr Aneirin. * The Book of Aneirin This episode prefaces the episodes which discuss two of Canu Aneirin’s awdlau. Here we are in the National Library of Wales, looking at the Book of Aneirin itself! This manuscript was written between about 1250 and 1300. As it’s likely that it was written during the final years of ‘the independent Wales, we wonder if there’s a connection between that political context and the contents of the manuscript?! We discuss the Gododdin and ask a complicated question about the journey of this old poetry from the ‘Old North’ to medieval Wales. We also look at interesting notes in the manuscript which suggest how some later poets viewed the importance and value of the Book of Aneirin. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Gellir gweld copi digidol o Lyfr Aneirin ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-aneirin - Adnoddau CBAC – ‘Cyflwyno’r Gododdin’ gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/01-cyflwynor-gododdin.html
Thu, 10 Apr 2025 - 10min - 72 - Yr Hen Iaith (Lefel A): Y Gŵr sydd ar y Gorwel gan Gerallt Lloyd Owen
Canolbwyntia’r bennod hon ar gywydd Gerallt Lloyd Owen, ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’. Yn ogystal â chraffu ar grefft y bardd, rydym ni’n egluro’r cyd-destun gwleidyddol ac ystyried pam yr aeth Gerallt Lloyd Owen ati i drafod Saunders Lewis yn y modd hwn. Nodwn arwyddocâd y gair ‘gorwel’ ei hun ac awgrymwn fod y gerdd fodern hon yn amlygu rhai agweddau hynafol ar y traddodiad barddol Cymraeg. * This episode focusses on Gerallt Lloyd Owen's poem, 'Y Gŵr sydd ar y Gorwel'. As well as scrutinising the poet's craft, we explain the political context and consider why Gerallt Lloyd Owen approached Saunders Lewis in this way. We note the significance of the word 'horizon' itself and suggest that this modern poem highlights some ancient aspects of the Welsh bardic tradition. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://resources.hwb.gov.wales/VTC/2008-09/welsh/irf08-153/y_cerddi/y_gwr_sydd_ar_y_gorwel.doc - Jerry Hunter, ‘Y Gŵr Sydd Ar y Gorwel: Cywydd Brud Cyfoes’, Barn 409 (1997).
Thu, 03 Apr 2025 - 20min - 71 - Yr Hen Iaith (Lefel A): Sul y Mamau yn Greenham, 1984 gan Menna Elfyn
Trafodwn ‘Sul y Mamau yn Greenham, 1984’ gan Menna Elfen yn y bennod hon. Mae Jerry Hunter yn craffu ar strwythur ac arddull y gerdd, gan nodi’r modd y mae’r bardd yn manteisio ar hyblygrwydd y mesur rhydd. Trafoda’r delweddau sy’n ganolog iddi hefyd. Esbonia Richard Wyn Jones y cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol, gan egluro rhan ganolog benywod Cymreig yn y protestiadau a geid ger safle milwrol Comin Greenham. * We discuss Menna Elfen's 'Mother's Day at Greenham, 1984' in this episode. Jerry Hunter scrutinizes the structure and style of the poem, noting how the poet takes advantage of the flexibility of free measure. She also discusses the images that are central to her. Richard Wyn Jones explains the historical and political context, explaining the central role of Welsh women in the protests that took place near the Greenham Common military site. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2014-15/WJEC-14-15_12/Sul%20y%20Mamau%20yn%20Greenham_1984.docx
Thu, 03 Apr 2025 - 18min - 70 - Yr Hen Iaith (Lefel A): Gwenllian gan Myrddin ap Dafydd
Ystyriwn y cywydd ‘Gwenllian’ gan Myrddin ap Dafydd yn y bennod hon, gan egluro’r ddau gyd-destun hanesyddol perthnasol – diwedd llinach tywysogion Cymru yn 1282 a hanes ymgyrch yn y 1990au i greu cofeb i ferch Llywelyn ap Gruffudd, Gwenllian. Awgrymwn fod y gerdd hon yn gofeb hynod drawiadol yn ei hawl ei hun. Wrth bwysleisio bod Myrddin ap Dafydd wedi dewis mesur caeth traddodiadol, y cywydd, nodwn ei fod yn defnyddio’r mesur hwnnw mewn modd gwreiddiol. Craffwn ar arwyddocâd yr enwau lleoedd sy’n angori’r gofeb farddonol hon mewn rhan benodol o Gymru. Rhaid cyfaddef hefyd ein bod wedi’n llorio gan y tristwch sy’n hydreiddio’r gerdd bwerus hon. * We consider the poem 'Gwenllian' by Myrddin ap Dafydd in this episode, explaining the two relevant historical contexts – the end of the dynasty of the princes of Wales in 1282 and the history of a campaign in the 1990s to create a memorial to Llywelyn ap Gruffudd's daughter, Gwenllian. We suggest that this poem is a remarkably impressive memorial in its own right. In emphasising that Myrddin ap Dafydd chose a traditional strict measure, the cywydd, we note that he used that measure in an original way. We will examine the significance of the place names that anchor this poetic memorial in a particular part of Wales. It must also be admitted that we are overwhelmed by the sadness that permeates this powerful poem. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2014-15/WJEC-14-15_12/Gwenllian.docx
Thu, 03 Apr 2025 - 22min - 69 - Yr Hen Iaith (Lefel A): Aneirin gan Iwan Llwyd
Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr. Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn â swyddogaeth y bardd Cymraeg trwy’r oesau. Eglurwn y cyd-destun hanesyddol a’r berthynas rhwng y math o newyddion a welid ar y teledu pan oedd Iwan Llwyd yn ifanc a chynnwys y gerdd hon. * In this episode we look at the poem 'Aneirin' by Iwan Llwyd, scrutinizing the way in which he compares – or assimilates – the poet's job with the journalist's. We also discuss the way in which the poem assimilates wars from different historical periods and note that Iwan Llwyd has very definite ideas about the function of the Welsh poet through the ages. We explain the historical context and the relationship between the type of news seen on television when Iwan Llwyd was young and the content of this poem. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://hwb.gov.wales/api/storage/31be5bb4-0430-4ab1-aa03-86e4b41d8e6d/Nodiadau%20Iwan%20Llwyd.pdf?preview=true
Thu, 03 Apr 2025 - 17min - 68 - Yr Hen Iaith (Lefel A): Un Nos Ola Leuad
Trafodwn Un Nos Ola Leuad yn y bennod hon. A ninnau yn ffilmio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cewch weld llyfr nodiadau Caradog Prichard ei hun gydag un o’i gynlluniau gwreiddiol ar gyfer y nofel a drafft o bennod. Rydym ni’n ystyried arddull y gwaith rhyfeddol hwn a’r modd y mae’n symud rhwng cywair tafodieithol a chywair ffurfiol. Archwiliwn nifer o agweddau ar y nofel, gan gynnwys ei hymdriniaeth â salwch meddwl, tlodi, crefydd a chreulondeb. Nodwn hefyd wrth fynd heibio fod y gwaith arloesol hwn wedi cael effaith sylweddol ar artistiaid Cymraeg eraill. * We discuss Un Nos Ola Leuad in this episode while filming at the National Library of Wales, with Caradog Prichard's own notebook with one of his original plans for the novel and a draft of a chapter in front of us. We consider the style of this remarkable work and the way it moves between dialectal and formal tones. We explore many aspects of the novel, including its treatment of mental illness, poverty, religion and cruelty. We also note in passing that this innovative work has had a significant impact on other Welsh artists. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau astudio CBAC wedi’u paratoi gan Bleddyn Owen Huws: https://resources-legacy.wjec.co.uk/pages/ResourceSingle.aspx?rIid=389 - Y gân ‘Un Nos Ola Leuad’ gan Endaf Emlyn: https://www.youtube.com/watch?v=-2_MCXtL2uI
Sun, 23 Mar 2025 - 32min - 67 - Yr Hen Iaith (Lefel A) - Martha, Jac, a Sianco
Trafodwn Martha, Jac a Sianco yn y bennod hon, gan graffu ar y modd y mae’r nofel yn darlunio ochr dywyll bywyd gwledig. Dadleuwn fod hyd yn oed yr agweddau mwyaf ysgytwol ar y nofel yn adlewyrchu realiti a bod y gwaith dewr hwn yn mynd yn groes i ffrwd o lenyddiaeth Gymraeg sy’n dyrchafu, rhamantu a delfrydu bywyd yr amaethwr. Rhyfeddwn at grefft Caryl Lewis wrth i ni graffu ar y cymeriadu a’r strwythur. Er bod cymaint o realiti caled yn y nofel, nodwn fod elfennau sy’n mynd yn groes i realaeth hefyd wrth i’r darllenydd brofi agweddau swreal neu hudol. Awgrymwn fod naws gothig hefyd a’i bod yn bosibl gweld cysgod ‘Mami’ fel fersiwn gwyrdroëdig o’r ‘Fam Gymreig’ ystrydebol. * We discuss Martha, Jac a Sianco in this episode, scrutinizing how the novel depicts the dark side of rural life. We find that even the most shocking aspects of the novel reflect reality and that this courageous work goes against a stream of Welsh literature that elevates, romanticises and idealises the life of the farmer. We praise Caryl Lewis's craft as we scrutinize the character and structure. While there is so much hard reality in the novel, we note that there are also elements that conflict with realism as the reader experiences surreal or magical aspects. We suggest that there is also a gothic feel to it and that it is possible to see the shadow of 'Mami' as an inverted version of the stereotypical 'Welsh Mam'. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Deunydd perthnasol: - Nodiadau astudio CBAC wedi’u paratoi gan Bleddyn Owen Huws: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/Help%20Llaw/Martha%20Jac%20Sianco.pdf
Sun, 23 Mar 2025 - 24min - 66 - Yr Hen Iaith (Lefel A): Podlediad ar gyfer Disgyblion Lefel A Cymraeg
Dyma gyfres arbennig o’r podlediad poblogaidd, Yr Hen Iaith – un sydd wedi’i chreu ar gyfer pobl sy’n astudio Cymraeg Lefel A. Mae pob pennod yn y gyfres yn ymwneud ag agwedd ar y maes llafur. Cewch wrando ar ddau hen ffrind yn trafod llenyddiaeth Gymraeg, y naill yn arbenigwr yn y maes a’r llall yn awyddus i ddysgu mwy, a’r ddau’n cael llawer o hwyl wrth graffu ar rai o drysorau llenyddol pwysicaf Cymru. Bydd penodau sy’n canolbwyntio ar y nofelau Un Nos Ola Leuad a Martha, Jac a Sianco yn cael eu rhyddhau yn ystod y dyddiau nesaf (gan fod yr arholiadau perthnasol yn dechrau’n fuan). Byddwn ni’n rhyddhau’r penodau eraill yn fuan wedyn, gan gynnwys rhai sy’n canolbwyntio ar y pynciau hyn: Canu Aneirin, Canu Taliesin, cywyddau Dafydd ap Gwilym, a detholiad o gerddi modern. Mwynhewch! * Yr Hen Iaith (Lefel A): Our series for Welsh A Level Students This is a special series of Yr Hen Iaith - one that has been created specifically for people studying Welsh A Level. Each episode in the series relates to an aspect of the syllabus. You can listen to two old friends discussing Welsh literature, one an expert in the field and the other eager to learn more, and both having a lot of fun while scrutinizing some of Wales' most important literary treasures. Episodes focussing on the novels Un Nos Ola Leuad and Martha, Jac a Sianco will be released in the coming days (as the relevant exams start soon). We will release the other episodes shortly afterwards, including some that focus on these subjects: Canu Aneirin, Canu Taliesin, the poems of Dafydd ap Gwilym, and a selection of modern poems. Enjoy!
Fri, 21 Mar 2025 - 02min - 65 - Hynt Yr Hen Iaith: neges ar gyfer ein dilynwyr
Fel y gwyddoch os ydych chi wedi bod yn dilyn Yr Hen Iaith, y bennod ddiwethaf oedd pennod olaf Cyfres 2. Bydd ychydig o seibiant cyn i ni ddechrau Cyfres 3, ond ni fydd tîm Yr Hen Iaith yn segur! Yn wir, rydym ni wedi dechrau recordio cyfres arbennig ar gyfer disgyblion lefel A. Mae’r gyfres fer hon yn canolbwyntio ar destunau sydd ar y sylabws lefel A Cymraeg, ond mae’n debyg iawn y byddwch chi, ein dilynwyr presennol, yn eu mwynhau hefyd. (Yn wir, mae wedi bod yn fodd i ni lenwi ambell fwlch a adwyd gennym yng Nghyfres 1). Dechreuir rhyddhau’r gyfres arbennig hon yn syth, felly os ydych chi’n nabod rhywun sy’n astudio Cymraeg lefel A neu os ydych chi’n nabod athrawes neu athro lefel A Cymraeg, gadewch iddynt wybod. Ac ar ôl i ni orffen rhyddhau’r Hen Iaith (Lefel A), ac ar ôl i ni gael cyfle i ddal ein hanadl, bydd yr hen Hen Iaith arferol yn dychwelyd gyda Chyfres 3. Diolch am eich cefnogaeth! * Yr Hen Iaith's podcast feed - a message for subscribers As you know if you have been following Yr Hen Iaith, the last episode was the final episode of Series 2. There will be a little break before we start Series 3, but the Yr Hen Iaith team will not be idle! In fact, we have started recording a special series for A-level pupils. This short series focuses on subjects that are on the Welsh A-level syllabus, but it is very likely that you, our current followers, will enjoy them too. (Indeed, it has allowed us to fill a few gaps that we mentioned in Series 1). The release of this special series will start immediately, so if you know someone who is studying A-level Welsh or if you know a teacher or A-level Welsh teacher, let them know. And after we've finished releasing Yr Hen Iaith (Lefel A), and after we've had a chance to catch our breath, the regular Yr Hen Iaith will return with Series 3. Thank you for your support!
Fri, 21 Mar 2025 - 02min - 64 - Pennod 62 - Hanesyddiaeth a Hunaniaeth: Drych y Prif Oesoedd
Gyda’r bennod hon rydym yn dirwyn ail gyfres Yr Hen Iaith i ben, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy drafod llyfr hynod ddylanwadol a gyhoeddwyd gan Theophilus Evans yn y flwyddyn 1740. Cyhoeddwyd Drych y Prif Oesoedd gyntaf yn 1716 ond aeth yr awdur ati i ehangu’r gwaith yn sylweddol a’i ailgyhoeddi 24 o flynyddoedd yn ddiweddarach, a dyma’r fersiwn sy’n cael ei ystyried yn glasur. Ystyr y gair ‘prif’ yn y teitl yw ‘cynharaf’; dyma lyfr sy’n trafod hanes cynnar y Cymry – neu’r Hen Frytaniaid – ac mae’n adrodd yr hanes hwnnw mewn dull storïol cyffrous. O ran hanes rhyddiaith Gymraeg, mae’n anodd meddwl am lyfr unigol pwysicaf a gyhoeddwyd rhwng dechrau’r 18fed ganrif a datblygiad y nofel Gymraeg dros ganrif yn ddiweddarach. Mae hefyd yn hynod bwysig o safbwynt hunaniaeth Gymreig; dyma lyfr sy’n defnyddio hanes i ddweud wrth y Cymry pwy ydynt. Noder: Ni fydd Yr Hen Iaith yn cysgu! Daw neges yn fuan iawn am gyfres arbennig a ddarlledir rhwng diwedd y gyfres hon a dechrau cyfres 3. *** Historiography and Identity: Drych y Prif Oesoedd With this episode we bring the second series of Yr Hen Iaith to an end, and we do that by discussing an incredibly influential book which Theophilus Evans published in 1740. Drych y Prif Oesoedd [The Mirror of the Earliest Centuries] was first published in 1716, but the author worked to expand the work considerably and republish it 24 years later, and this is the version which is considered to be a classic. The word prif in the title means ‘earliest’; this is a book which treats the early history of the Welsh – or the Ancient Britons – and it relates that history in an exciting narrative style. When considering Welsh-language prose, it’s difficult to think of a more important book published between the start of the 18th century and the development of the Welsh novel more than a century later. It is also extremely important in the context of Welsh identity; this is a book which uses history to tell the Welsh who they are. Note: Yr Hen Iaith won’t be sleeping! A message will soon be released about a special series which will be broadcast between the end of this series and the start of series 3. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - David Thomas (gol.), Theophilus Evans, Drych y Prif Oesoedd (1740 [adargraffiad, 1960]). - Dafydd Glyn Jones, Agoriad yr Oes: erthyglau ar lên, hanes a gwleidyddiaeth Cymru (2001).
Thu, 20 Mar 2025 - 26min - 63 - Pennod 61 - Taliesin yng Ngwlad Angau: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 2)
Edrychwn yn y bennod hon ar y modd y mae Ellis Wynne yn trafod y traddodiad barddol Cymraeg yn Gweledigaethau’r Bardd Cwsg. Mae gan enw prif gymeriad y gwaith wreiddiau llenyddol hynafol, a gwelwn fod agweddau eraill ar y llyfr rhyfeddol hwn sy’n dychanu’r hen draddodiad hwnnw. Pam bod Ellis Wynne yn cysylltu barddoniaeth Gymraeg â phechod? A sut mae’n gwneud hynny? A pham poeni cymaint am yr canu mawl, a’r traddodiad hwnnw’n gwegian os nad yn prysur chwalu ar y pryd? Ystyriwn hefyd ymdrech Ellis Wynne i ladd arch-fardd bytholwyrdd y traddodiad, Taliesin, ac awgrymu mai Taliesin sy’n chwerthin yn olaf er gwaethaf hyn oll. * * * Taliesin in the Land of Death: The Visions of the Sleepiong Bard (2) In this episode we look at how Ellis Wynne discusses the Welsh bardic tradition in The Visions of the Sleeping Bard. The enw of the work’s main character has ancient literary roots, and we see that other aspects of this amazing book satirize that tradition. Why does Ellis Wynne connect Welsh poetry with sin? And how does he do that? And why worry so much about the praise poetry, seeing as that tradition was on its knees if not completely disappearing at the time? We also consider Ellis Wynne’s attempt at killing the tradition’s evergreen arch-bard, Taliesin, and suggest that it’s Taliesin who laughs last despite of this. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Patrick J. Donovan a Gwyn Thomas (goln.) Gweledigaethau y Bardd Cwsg: y rhan Gyntaf (1998). - Gwyn Thomas, Y Bardd Cwsg a’i gefndir (1971). - Gwyn Thomas, Ellis Wynne (1984).
Wed, 12 Mar 2025 - 32min - 62 - Pennod 60 - ‘Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 1)
Dyma ni’n dathlu recordio trigeinfed bennod y podlediad trwy drafod un o glasuron Cymraeg y cyfnod modern cynnar, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, llyfr a gyhoeddwyd gan Ellis Wynne yn 1703. Er bod y gwaith rhyfeddol hwn ar un wedd yn drosiad o lyfrau Saesneg a oedd yn eu tro yn gyfieithiadau o destun Sbaeneg, mae’n gyfansoddiad gwreiddiol iawn gan i’r awdur fynd ati i Gymreigio’i ddeunydd yn drylwyr o ran cynnwys a chyd-destun yn ogystal â’r iaith. Eglwyswr a brenhinwr rhonc oedd Ellis Wynne, ond esgorodd ei geidwadaeth wleidyddiaeth a chrefyddol ar greadigaeth artistig a ymestynnodd ffiniau rhyddiaith Gymraeg gyda’i arddull fyrlymus a’i ddelweddau cofiadwy. Ac er bod y llyfr yn y pendraw yn waith moesol sy’n trafod pechod, mae’n gwneud hynny mewn modd sy’n rhyfeddol o ffraeth a doniol. * * * ‘On one fair afternoon during a warm long golden summer’: The Visions of the Sleeping Bard (1) Here we celebrate the podcast’s sixtieth episode by discussing one of the Welsh classics of the early modern period, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (‘The Visions of the Sleeping Bard’), a book published by Ellis Wynne in 1703. Although this amazing work is in a kind of adaptation of English books which were in turn translations of a Spanish text, it’s a very original creation, seeing as the author made his material Welsh in content and context as well as language. Ellis Wynne was an ardent Anglican and a royalist, but his religious and political conservatism generated an artistic creation which extended the boundaries of Welsh prose with its vivacious style and memorable imagery. And although this book is in the end a moral work discussing sin, it does that in a way which is incredibly witty and funny. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Patrick J. Donovan a Gwyn Thomas (goln.) Gweledigaethau y Bardd Cwsg: y rhan Gyntaf (1998). - Gwyn Thomas, Y Bardd Cwsg a’i gefndir (1971). - Gwyn Thomas, Ellis Wynne (1984).
Thu, 27 Feb 2025 - 35min - 61 - Pennod 59 - Mae’r Ysgrifbin yn Rymusach na’r Cleddyf: Ysgrifennu ac Ideoleg ar ôl y Rhyfeloedd
Edrychwn yn y bennod hon ar lendyddiaeth Gymraeg ar ddwy ochr y rhwyg ideolegol ar ôl i’r rhyfeloedd rhwng y Senedd a’r Brenin ddod i ben. Cewch glywed Rolant Fychan yn cyfaddef na lwyddodd gyda’i ‘gleddyf coch’ i ladd bygythiadau radicalaidd i’r drefn yn ystod y rhyfeloedd, ac yntau’n ceisio gwneud fel awdur yr hyn y methodd ei wneud fel milwr. Ceir cipolwg hefyd ar ddrama Gymraeg sy’n dathlu adferiad yr hen drefn a ddaeth gydag adferiad y frenhiniaeth yn 1660, a’r bobl bellach yn rhydd o’r cyfreithiau Piwritanaidd a oedd wedi gwahardd y fath berfformiadau ac yn cael mwynhau canu a dawnsio eto. Ystyriwn hefyd waith llenyddol y genhedlaeth nesaf o Biwritaniaid, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg o lyfr Saesneg hynod ddylanwadol. * * * The Pen is Mightier than the Sword: Writing and Ideology after the Wars In this episode we look at Welsh literature on both sides of the ideological divide after the wars between Parliament and King came to an end. You’ll hear Rowland Vaughan admitting that he didn’t succeed in killing radical threats to order with his ‘red sword’ during the wars, as he attempted to do as an author that which he failed to do as a soldier. There’s also a look at a Welsh play which celebrates the return of the old order which came with the Restoration of the monarchy in 1660, people now free of the puritanical laws which had banned such performances and able to enjoy singing and dancing again. We also consider literary work by the next generation of Puritans, including a Welsh translations of an extremely influential English book. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Jerry Hunter, ‘The Red Sword, the Sickle and the Author’s Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 36 (2018)
Wed, 12 Feb 2025 - 31min - 60 - Pennodau 58 - ‘Rhyfedd, Rhyfedd, Rhyfedd’: Morgan Llwyd rhan 3
Yn y bennod hon ystyriwn dau lyfr a gyhoeddwyd gan Morgan Llwyd yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan ddechrau â Gwyddor Uchod, cerdd hir sy’n trafod y sêr a’r planedau, gan gyfuno gwyddoniaeth a chyfriniaeth Gristnogol. Rydym ni’n diffinio ‘cyfriniaeth’ hefyd wrth fynd heibio a nodi’i bod yn ffenomen a geir mewn gwahanol grefyddau ar draws y byd. Edrychwn hefyd ar Gair o’r Gair neu Sôn am Sŵn, llyfr sy’n fyfyrdod ynghylch y gwahaniaeth rhwng ieithoedd bydol a gair Duw, er ei fod hefyd yn dyrchafu gwerth ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg ac yn addasu dyfyniad allweddol hen broffwydoliaeth Gymraeg boblogaidd wrth wneud hynny. Nodwn hefyd gysylltiad annisgwyl rhwng Morgan Llwyd a Bob Marley a darganfod o bosibl fod gwedd ysbrydol ar Richard Wyn Jones na wyddai’i gyfaill Jerry Hunter amdani! * ‘Wonder, Wonder, Wonder’: Morgan Llwyd (3) In this episode we consider two books which were published by Morgan Llwyd during his last years, beginning with Gwyddor Uchod (‘The Science Above’), a long poem which discusses the stars and the planets, combining science and Christian mysticism. We define ‘mysticism’ as well along the way and note that it is a phenomenon found in various religions all over the world. We also look at Gair o’r Gair neu Sôn am Sŵn (‘A Word from the Word or Talk about Sound’), a book containing a meditation on the difference between wordly languages and the word of God, although it also elevates the value of writing in the Welsh language and adapts a quote from a popular old Welsh prophecy in doing so. We also note that there’s an unexpected connection between Morgan Llwyd and Bob Marley and possibly discover a spiritual side of Richard Wyn Jones which his friend Jerry Hunter never knew about! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (1984). - Jerry Hunter, ‘Perygl Geiriau, Oferedd Print: Cyd-destunoli Pryderon Llenyddol Morgan Llwyd’ yn Ysgrifau Beirniadol XXXV [:] Gweddnewidiadau (a gyhoeddir yn Chwefror 2025).
Wed, 29 Jan 2025 - 31min - 59 - Pennod 57 - Tri Aderyn a Dau Fyd: Morgan Llwyd rhan 2
A Richard Wyn Jones bellach ymysg ffans Morgan Llwyd ers y bennod ddiwethaf, dyma gyfle i drafod campwaith y cyfrinydd o awdur, ‘Llyfr y Tri Aderyn.’ Eglurwn yn gyntaf nad dyna yw teitl go iawn y llyfr hwn, a bod Morgan Llwyd ei hun wedi’i ddisgrifio fel ‘dirgelwch i rai i’w ddeall ac i eraill i’w watwar’; ac yntau’n Biwritan a oedd yn wahanol iawn i’r rhan fwyaf o’i gyd-Gymry, gwyddai’n iawn y byddai llawer yn ‘gwatwar’ y syniadau crefyddol newydd yr oedd yn eu cyflwyno iddynt. Eglurwn hefyd mai ‘dirgelwch’ yw ffordd yr awdur o ddweud mai alegori yw’r gwaith, gyda phob un o’r tri aderyn yn cynrychioli tri safbwynt; cawn yma fersiynau alegorïaidd o’r Eglwyswr ceidwadol, y Piwritan a grym bydol y Wladwriaeth. A dyma stori sy’n digwydd mewn dau fyd sy’n gorgyffwrdd, gydag adar Arch Noa yn symud o’r cyd-destun Beiblaidd hynafol hwnnw i’r byd cyfoes a gwlad a oedd wedi’i hysgwyd gan ryfeloedd cartref gwaedlyd yn ddiweddar. Dyma gyfle hefyd i glywed am ddarn o ryddiaith a disgrifiwyd gan Saunders Lewis fel un ‘o’r darnau dwysaf o hunangofiant yn ein llenyddiaeth Gymraeg’. A pham bod Jerry Hunter mor hoff o’r Gigfan, cymeriad drwg y stori?! * Three Birds and Two Worlds: Morgan Llwyd rhan 2 Seeing as Richard Wyn Jones joined the Morgan Llwyd fan club in the last episode, here’s an opportunity to discuss the masterpiece of that mystic of an author, ‘The Book of the Three Birds’. We explain first of all that that is not the book’s real title, and that Morgan Llwyd himself described it as ‘a mystery for some to understand and for others to scorn’; himself a Puritan who was very different from his fellow Welsh people, he knew well that many people would ‘scorn’ the religious ideas he was presenting to them. We also explain that ‘mystery’ is the author’s way of saying that this work is an allegory, with each one of the three birds representing three points of view; here we have allegorical versions of the conservative Anglican, the Puritan and the secular power of the Commonwealth. And this story takes place in two overlapping worlds, as the birds of Noah’s Arch move from that ancient biblical setting to the contemporary world and a country recently shaken by bloody civil wars. You’ll also be able to hear about a piece of prose described by Saunders Lewis as one ‘of the most profound pieces of autobiography in our Welsh-language literature’. And why is Jerry Hunter so fond of the Raven, the story’s baddy?! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Further Reading: - Thomas Richard, A History of the Puritan Movement in Wales from the Institution of the Church at Llanfaches in 1639 to the Expiry of the Propogation Act in 1653 (1920). - Saunders Lewis, Meistri’r Canrifoedd (1982). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (1984). - M. Wynn Thomas (gol.), Llyfr y Tri Aderyn [:] Morgan Llwyd (1988). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd [:] Ei Gyfeillion, Ei Gyfoeswyr A’i Gyfnod (1991). - Jerry Hunter, ‘Perygl Geiriau, Oferedd Print: Cyd-destunoli Pryderon Llenyddol Morgan Llwyd’ yn Ysgrifau Beirniadol XXXV [:] Gweddnewidiadau (a gyhoeddir yn Chwefror 2025).
Thu, 16 Jan 2025 - 27min - 58 - Pennod 56 - ‘O Bobl Cymru! Atoch chi y mae fy llais!’: Morgan Llwyd rhan 1
‘Dwi rŵan yn dallt y ffys’ yw geiriau Richard Wyn Jones ar ôl cael cyflwyniad i ryddiaith Morgan Llwyd yn y bennod hon. Ac yntau’n Biwritan a geisiai gyflwyno math o Brotestaniaeth a oedd yn fygythiol o estron i’r rhan fwyaf o’i gyd-Gymry, manteisiai Morgan Llwyd ar ei brofiad fel pregethwr a’i ddoniau llenyddol syfrdanol i gyrraedd calonnau a meddyliau darllenwyr Cymraeg. Trafodwn y cymysgedd o syniadau crefyddol a ddylanwadodd ar ei waith. Ond yn bennaf, rhyfeddwn at rym rhyddiaith Morgan Llwyd ac angerdd y llais awdurol sy’n ein cyfarch mewn dau o’i destunau cyhoeddedig cynharach, Llythyr i’r Cymry Cariadus a Gwaedd yng Nghymru yn Wyneb Pob Cydwybod. Ceir yma hefyd deyrnged i olygydd modern cyntaf Morgan Llwyd, yr A. S. Rhyddfrydol, Tom Ellis. * ‘Oh People of Wales! It is to you that me voice calls!’: Morgan Llwyd (1) ‘Now I understand the fuss’ are Richard Wyn Jones’ words after getting an introduction to the prose of Morgan Llwyd in this episode. A Puritan attempting to introduce a kind of Protestantism which was threateningly foreign to most of his fellow Welsh people, Morgan Llwyd utilized his experience as a preacher and his stunning literary skills to reach the hearts and minds of Welsh readers. We discuss the mixture of religious ideas influencing his work. But for the most part, we marvel at the power of Morgan Llwyd’s prose and the passion of the authorial voice which addresses us in two of his earliest published texts, A Letter to the Loving Welsh and A Shout in Wales in the Face of Every Conscience. Here also is a tribute to Morgan Llwyd’s first modern editor, the Liberal M.P., Tom Ellis. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Thomas E. Ellis (gol.), Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd: dwy gyfrol (1899 a 1908). - Thomas Richard, A History of the Puritan Movement in Wales from the Institution of the Church at Llanfaches in 1639 to the Expiry of the Propogation Act in 1653 (1920). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (1984). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd [:] Ei Gyfeillion, Ei Gyfoeswyr A’i Gyfnod (1991). - R. M. Jones, Cyfriniaeth Gymraeg (1994). - Goronwy Wyn Owen, Rhwng Calfin a Böhme [:] Golwg ar Syniadaeth Morgan Llwyd (2001). - Jerry Hunter, ‘Perygl Geiriau, Oferedd Print: Cyd-destunoli Pryderon Llenyddol Morgan Llwyd’ yn Ysgrifau Beirniadol XXXV [:] Gweddnewidiadau (a gyhoeddir yn 2025).
Wed, 08 Jan 2025 - 40min - 57 - Pennod 55 - Barddoniaeth y Brenhinwyr
Edrychwn yn y bennod hon ar ddetholiad o gerddi a gyfansoddwyd gan frenhinwyr yn ystod ‘rhyfeloedd cartref’ yr ail ganrif ar bymtheg. Gwelwn fod beirdd wedi addasu hen ddulliau a themâu er mwyn trafod datblygiadau cyfoes a oedd yn ysgwyd eu byd nhw. Yn ddiddorol ddigon, mae’n bosibl awgrymu bod ceidwadaeth wleidyddol a chrefyddol wedi esgor ar arloesi celfyddydol hynod egnïol. Nodwn fod ffrydiau traddodiadol o ganu serch wedi’u haddasu hyd yn oed, wrth i ferch ganu am filwr seneddol a geisiodd ei denu pan oedd ei chariad i ffwrdd yn ymladd ym myddin y brenin. Ac mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys cerdd sy’n dychmygu anfon cath ar daith ar draws sir Feirionnydd gyda neges i filwyr dan warchae yng nghastell Harlech. * In this episode we look at a selection of poems composed by royalists during the ‘civil wars’ of the seventeenth century. We see that poets adapted old methods and themes in order to treat current developments which were shaking their world. Interestingly enough, It’s possible to suggest that political and religious conservatism generated incredibly energetic artistic innovation. We note that even traditional modes of love poetry were adapted, as a woman sings about a parliamentarian soldier who tried to seduce her while her lover was away fighting in the king’s army. And the highpoints include a poem which imagines sending a cat on a journey across Merionethshire with a message for besieged soldiers in Harlech castle. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Hen Gerddi Gwleidyddol 1558-1660 (1901). [Golygydd di-enw ar ran Cymdeithas Llên Cymru]. - Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu’r Ail Ganrif ar Bymtheg (1993). - Jerry Hunter, ‘The Red Sword, the Sickle, and the Author’s Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 36 (2018).
Fri, 20 Dec 2024 - 31min - 56 - Pennod 54 - ‘Y ddaear a grynodd’: cyflwyniad i lenyddiaeth Gymraeg y ‘Rhyfeloedd Cartref’
Mae llawer o lenyddiaeth Gymraeg wedi goroesi sy’n gysylltiedig â’r ‘Rhyfeloedd Cartref’ rhwng y Senedd a’r Brenin Charles I. Nodwn yn y bennod hon fod awdur Cymraeg enwocaf y cyfnod, Morgan Llwyd, yn Biwritan a gefnogai’r Senedd, gan ddyfynnu cerdd ganddo sy’n disgrifio’r rhyfela fel daeargryn yn ysgwyd ei fyd. Eto, roedd y rhan fwyaf o Gymry’r ail ganrif ar bymtheg ar ochr y brenin, a thrafodwn y modd y dioddefodd un bardd Cymraeg oherwydd ei ymlyniad gwleidyddol a chrefyddol. Ond er bod llawer o destunau Cymraeg sy’n tystio i ymwneud y Cymry â’r gwrthdaro a’r trais, edrychwn hefyd ar enghraifft sy’n ein hatgoffa nad ar chwarae bach y mae cymryd llenyddiaeth fel ffynhonnell hanesyddol ddibynadwy. * Episode 54 - ‘The earth shook: an introduction to the Welsh literature of the ‘Civil Wars’ There is a great amount of Welsh-language literature surviving which is related to the ‘Civil Wars’ between Parliament and King Charles I. We note in this episode that the most famous Welsh author of the period, Morgan Llwyd, was a Puritan who supported the Senate, and we quote from a poem by him which describes the warfare as an earthquake shaking his world. However, most seventeenth-century Welsh people supported the king, and we discuss how one Welsh poet suffered because of his political and religious loyalties. And although there are many texts which testify to the connections between Welsh people and the conflict and violence, we also look at one example which reminds us that it is not lightly that one takes literature as a reliable historical source. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Hen Gerddi Gwleidyddol 1558-1660 (1901). [Golygydd di-enw ar ran Cymdeithas Llên Cymru] - Jerry Hunter, ‘The Red Sword, the Sickle and the Author’s Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 36 (2018).
Fri, 06 Dec 2024 - 31min - 55 - Pennod 53 - Pechod yn Llanymddyfri: Y Ficer Prichard
Trafodwn yn y bennod hon y modd yr aeth Rhys Prichard (c.1579-1644), ficer Llanymddyfri, ati i ddefnyddio barddoniaeth rydd seml i ledaenu gwersi crefyddol. Yn ogystal ag ystyried ei agenda gyffredinol, craffwn ar un gerdd sy’n dangos ei fod yn poeni’n fawr am y bywyd pechadurus a welai yn ei blwyf ei hun ac sy’n darlunio Llanymddyfri fel rhyw Sodom a Gamora. Dim ond ar ôl iddo farw y cyhoeddwyd ei waith, a hynny yng nghasgliad Cannwyll y Cymry. Byddai’r gwaith yn cael ei adargraffu’n gyson, gan sicrhau bod ‘y Ficer Prichard’ ymysg beirdd Cymraeg mwyaf adnabyddus y cyfnod cyn 1800. Ond i’n tyb ni, y peth mwyaf diddorol am y bardd hwn yw’r modd y cafodd Rhys Prichard ei wneud yn rhan o olyniaeth lenyddol y Piwritaniaid Cymraeg; o edrych o’r newydd am y dystiolaeth am fywyd a’i ddaliadau’i hun, casglwn ei fod ar y pegwn arall i’r Piwritaniaid a ymladdai yn erbyn y brenin mewn gwirionedd. Dyma felly enghraifft drawiadol o lenyddiaeth wedi’i chymryd allan o’i chyd-destun gwreiddiol a’i defnyddio at ddibenion hollol wahanol. ** Sin in Llandovery: The Vicar Prichard In this episode we discuss the way Rhys Prichard (c.1579-1644), vicar of Llandovery, used simple free-metre poetry to spread religious lessons. In addition to considering his general agenda, we look in detail at one poem which shows that he was very worried by the sinful life he saw in his own parish, and which depicts Llandovery as a kind of Sodom a Gomorrah. It was only after his death that his work was published as a collection under the title Cannwyll y Cymry [‘the Candle of the Welsh’]. The work would be reprinted repeatedly, ensuring that ‘the Vicar Prichard’ was among the most popular Welsh poets of the period before 1800. However, in our opinion the most interesting thing about this poet is way in which Rhys Prichard was made part of the Welsh Puritan lineage; looking anew at evidence about his life and his own beliefs, we conclude that he was actually diametrically opposed to the Puritans who fought against the king. We thus have here a striking example of literature taken out of its original political and religious context and used for completely different ends. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Siwan Non Richard, Y Ficer Prichard (1994). - Nesta Lloyd, ‘Late Free-Meter Poetry’ yn R. Geraint Gruffydd (gol.), A guide to Welsh Literature c.1530-1700 (1997 ).
Thu, 21 Nov 2024 - 32min - 54 - Pennod 52 - ‘Cyfaill ac Anwylddyn’: Beibl Bach 1630
Er mwyn deall datblygiad llenyddiaeth Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg, rhaid trafod y Beibl eto. Yn dilyn cyhoeddi Beibl William Morgan yn 1588, cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig yn 1620. ‘Beiblau pulpud’ oedd y cyfrolau hyn, llyfrau mawr a ddefnyddid yn yr eglwys ond a oedd yn rhy ddrud i’r rhan fwyaf o’r Cymry eu prynu. Ond cyhoeddwyd un tra gwahanol yn 1630, y ‘Beibl Bach’, un a oedd dipyn yn llai o ran maint ac felly’n rhatach. Wrth drafod ei arwyddocâd yn y bennod hon, craffwn ar ragymadrodd y Beibl Bach, ysgrif hynod ddiddorol sy’n annog y darllenydd i adael i’r beibl hwn fyw yn tŷ ag ef ‘fel cyfaill’ ac ‘fel anwylddyn.’ O safbwynt hanes crefydd yng Nghymru, dyma garreg filltir a fyddai’n hybu Piwritaniaeth yn y pen-draw. Ac o safbwynt hanes llenyddiaeth Gymraeg, byddai’r cyhoeddiad hwn yn hybu llythrennedd yn sylweddol. ** ‘Friend and Dear Person’: The Little Bible of 1630 In order to understand to development of Welsh literature in the seventeenth century, we have to discuss the Bible again. Following the publication of William Morgan’s Bible in 1588, a revised version was published in 1620. These were ‘pulpit bibles’, big books used in the church which were too expensive for most Welsh people to buy. But a very different one was published in 1630, the Beibl Bach or ‘Little Bible’, one which was quite a bit smaller in size and thus cheaper. While discussing its significance in this episode, we examine the Beibl Bach’s introduction, an extremely intersting piece of writing which urges the reader to let this bible live in the house with him ‘like a friend’ and ‘like a dear person.’ From the point of view of Welsh religious history, this was a milestone which would encourage Puritanism eventually. And from the point of view of Welsh literary history, this publication would encourage literacy considerably. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - J. Gwynfor Jones, Crefydd a Chymdeithas [:] Astudiaethau ar Hanes y Ffydd Brotestannaidd yng Nghymru c.1559-1750 (2007), a phennod VII yn enwedig. - am ymdriniaeth ffuglennol â dylanwad y Beibl Bach, gw. y bennod ‘1630’ yn Jerry Hunter, Y Fro Dywyll (2014). - gw. hefyd yr Ysgrifau cydymaith sy’n cael eu cyhoeddi yn adran ‘Culture’ y papur arlein Nation.Cymru.
Thu, 07 Nov 2024 - 34min - 53 - Pennod 51 - ‘Hoff Rediad ei Phriodi’: Cyngor Mam a Galar Gŵr
Ar ôl nodi bod llwyth o ganu caeth Cymraeg o’r cyfnod ac enwi rhai o feirdd pwysig nad oes gennym amser i’w trafod, canolbwyntiwn ar ddwy gerdd gaeth o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg sy’n cynnig mewnwelediad i fywyd un teulu uchelwrol – Dafydd Llwyd a’i wraig Catrin Owen o’r Henblas, Llangristiolus, Môn. Edrychwn yn gyntaf ar gywydd a gyfansoddwyd Dafydd pan fu farw Catrin yn 1602, cerdd sy’n mynegi galar y gŵr mewn modd personol a chofiadwy. Trafodwn wedyn gyfres o englynion a gyfansoddasai Catrin pan aeth eu mab nhw, Siôn i astudio yn Rhydychen. Mae’r gerdd hon yn cyflwyno cyngor y fam i’w mab, ac mae naws y cyngor yn rhyfeddol o debyg i’r hyn y gellid disgwyl i rieni ddweud wrth eu plant heddiw! Ar ganol ei gwrs gradd yn Rhydychen oedd Siôn pan fu farw’i fam, ac felly mae’r ddwy gerdd gyda’i gilydd yn gyfle i ni weld y tu mewn i fywyd – a marwolaeth – y teulu hwn ac ystyried y modd yr oedd barddoniaeth yn gyfrwng iddynt fynegi’u teimladau. ** ‘The Beloved Path of Being Married to Her’: A Mother’s Counsel and a Husband’s Grief After First noting that there is a great amoung of Welsh strict-metre poetry from the period and naming some of the important bards whom we don’t have time to discuss, we concentrate on two poems from early in the seventeenth century which offer insight into the life of one family of uchelwyr – Dafydd Llwyd and his wife Catrin Owen from yr Henblas, Llangristiolus, Anglesey. We look First at a cywydd composed by Dafydd when Catrin died in 1602, a poem which expresses the husband’s grief in a personol and memorable manner. Then we discuss a series of englynion which Catrin had composed when their son, Siôn, went to study at Oxford. This poem presents the mother’s counsel to her son, and the nature of this counsel is amazingly similar to what one might expect parents to say to their children today! Siôn was in the middle of his course of study in Oxford when his mother died, and so these two poems together offer an opportunity for us to see inside the life – and death – of this family and consider the way in which poetry offered them a medium for expressing their feelings. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu’r Ail Ganrif ar Bymtheg (199). - gw. hefyd yr Ysgrifau cydymaith sy’n cael eu cyhoeddi yn adran ‘Culture’ y papur arlein Nation.Cymru
Thu, 24 Oct 2024 - 36min - 52 - Pennod 50 - Bardd Mewn Dau Fyd:Richard Hughes, Cefnllanfair
A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn. Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines ei hun, ond yn ogystal â threulio amser yn y llys yn Llundain roedd hefyd yn ymweld yn gyson â’i hen fro, fel y tystia’i farddoniaeth. Yn wir, mae’i waith yn rhyfeddol o amrywiol, yn cynnwys cerddi rhydd a cherddi caeth o ran mesur, ac, o ran themâu, yn cynnwys: cerddi serch cwrtais a cherddi sy’n trafod rhyw mewn modd masweddus iawn; cerddi am fywyd yn Llundain a cherddi am Ben Llŷn (gan gynnwys englyn sionc i gwch Ynys Enlli); cerddi sy’n talu teyrnged i unigolion a cherddi sy’n dychanu pobl eraill. Ac, ie, roedd trafod barddoniaeth Richard Hughes yn fodd i Richard Wyn Jones ddysgu hen air Cymraeg am dŷ bach – cachdy! ** A Poet in Two Worlds: Richard Hughes of Cefnllanfair As we record our 50th episode, we celebrate the milestone by discussing one of the most interesting poets of the early modern period, Richard Hughes of Cefnllanfair in Llŷn. We note that he was one of several Welsh poets who spent a great deal of time in London in the age of Elizabeth I. Richard Hughes was a footman who served the queen herself, but in addition to spending time in the court in London he also visited his old home frequently, as his poetry demonstrates. Indeed, his work is wonderfully varied, including poetry in both free and strict metres and, as far as themes are concenred, including: courtly love poetry and poems which treat sex in an extremely bawdy manner; poems about life in London and ones about Pen Llŷn (including a lively englyn to the Bardsey Island boat); poems which pay tribute to individuals and ones which satirize other people. And, yes, discussing the poetry of Richard Hughes enabled Richard Wyn Jones to learn an old Welsh word for toilet – cachdy (shit-house)! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Jerry Hunter, ‘“Ond Mater Merch”: Cywydd Llatai Troseddol Tomos Prys’, Llên Cymru 46 (2023) - Nesta Lloyd (gol.), Ffwtman Hoff: Cerddi Richard Hughes Cefnllanfair (1998). gw. hefyd yr erthygl berthnasol a fydd yn ymddangos yn adran ‘Culture’ Nation.Cymru erbyn diwedd yr wythnos.
Thu, 10 Oct 2024 - 36min - 51 - Pennod 49 - Cariad, Protest ac Ideoleg Mesur: Y Canu Rhydd
Dechreuwn yn y bennod hon drwy ystyried rhywbeth y mae llawer ohonom yng Nghymru’n ei gymryd yn ganiataol, sef y gwahaniaeth rhwng canu caeth Cymraeg a chanu rhydd. Awgrymwn fod agweddau cymdeithasol ac ideolegol ar y gwahaniaeth mydryddol sylfaenol hwn. Canolbwyntiwn ar farddoniaeth rydd a gyfansoddwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ganrif nesaf ac mae trafod dau fath o fesur rhydd yn fodd i ni ystyried cwestiynau mawr yn ymwneud â’r berthynas (a’r gwahaniaeth) rhwng yr hen a’r newydd ac y ‘brodorol’ a’r ‘estron’. Nodwn fod lleisiau barddol benywaidd yn ymddangos yn y corff newydd hwn o farddoniaeth ac edrychwn yn fanwl ar gerdd angerddol sy’n protestio’n erbyn dadgoedwigo cymoedd y De (ac sy’n rhoi’r bai am y dinistr ecolegol hwn ar ‘y Saeson’). *** Episode 49 Love, Protest and the Ideology of Meter: the Free-Meter Poetry We begin in this episode by considering something many of us in Wales take for granted, namely the difference between Welsh-language strict-meter poetry and free-meter poetry. We suggested that there are social and ideological dimensions to this fundamental metrical difference. We concentrate on free-meter poetry composed during the sixteenth century and early in the following century and discussing the two kinds of free-meter verse provides an opportunity to consider big questions concerning the relationship (and difference) between the old and the new and the ‘native’ and the ‘foreign’. We note that female voices appear in this new body of poetry and we look at a poem which protests passionately against the deforestation of the valleys of South Wales (and which puts the blame on ‘the English’ for this ecological destruction). Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Brinley Rees, Dulliau’r Canu Rhydd 1500-1650 (1952). - Cennard Davies, ‘Early Free-Meter Poetry’ a Nesta Lloyd, ‘Late Free-Meter Poetry’ yn R. Geraint Gruffydd (gol.), A guide to Welsh literature c.1530-1700 (1997). - Christine James, ‘Coed Glyn Cynon’, yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Cwm Cynon (1997).
Thu, 26 Sep 2024 - 45min - 50 - Pennod Arbennig: Ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg . . . yn America!
Dyma bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn siop lyfrau Storyville, Pontypridd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024. Ac yntau newydd orffen ei ddarllen, roedd Richard Wyn Jones am drafod llyfr diweddaraf ei gyd-gyflwynydd, Dros Gyfiawnder a Rhyddid. Mae’n gyfrol sy’n darlunio hanes cymuned Gymraeg benodol yn ystod Rhyfel Cartref America, gan ganolbwyntio mewn dull storïol ar y dynion yn y fyddin ond gan ystyried hefyd eu perthynas â’u cymuned gartref yn Wisconsin. Mae’r stori’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng geiriau Cymraeg gwreiddiol y Cymry Americanaidd hyn, ac yn ôl Richard Wyn Jones, ‘mae’n syfrdanol’ ei bod hi’n bosib cyflwyno cymaint o’r hanes cyffrous hwn yn y modd hwn. A nifer o brif gymeriadau’r stori wedi’u geni yn yr Unol Daleithiau a’u magu’n siarad Cymraeg fel eu mamiaith, mae hefyd yn bennod ddiddorol yn hanes cymdeithasol yr Hen Iaith. Ac fel y noda Richard Wyn Jones, mae’r modd y maen nhw’n ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg yn cysylltu’r deunydd hwn â llawer o lenyddiaeth Gymraeg o’r Oesau Canol a drafodwyd yng nghyfres gyntaf y podlediad hwn. ** Prynwch 'Dros Gyfiawnder a Rhyddid' ** https://www.ylolfa.com/products/9781800993815/dros-gyfiawnder-a-rhyddid-y-cambrian-guards-caethwasiaeth-a-rhyfel-cartref-america Storyville Books Pontypridd: https://www.storyvillebooks.co.uk/ Special Episode: Writing about war in Welsh . . . in America! This is an episode which was recorded before a live audience in Storyville Books, Pontypridd during the 2024 National Eisteddfod. As he had just finished reading it, Richard Wyn Jones wanted to discuss his co-presenter’s latest book, Dros Gyfiawnder a Rhyddid [‘For Justice and Freedom’]. It’s a volume which relates the history of a particular Welsh community during the American Civil War, concentrating in narrative fashion on the men in the army while also considering their relationship with their home community in Wisconsin. This story is told through the original Welsh words of these Welsh Americans, and according to Richard Wyn Jones, ‘it’s amazing’ that it’s possible to present so much of this exiting history in this manner. As a number of the story’s main characters were born in the United States and raised speaking Welsh as their first language, it’s also an interesting chapter in the social history of the Old Language. And as Richard Wyn Jones notes, the way in which they write about war in Welsh connects this material to a great deal of medieval Welsh literature which was discussed in the first series of this podcast. ** Buy 'Dros Gyfiawnder a Rhyddid ** https://www.ylolfa.com/products/9781800993815/dros-gyfiawnder-a-rhyddid-y-cambrian-guards-caethwasiaeth-a-rhyfel-cartref-america Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Jerry Hunter, Dros Gyfiawnder a Rhyddid [:] Y Cambrian Guards, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America (Y Lolfa, 2024).
Thu, 12 Sep 2024 - 37min - 49 - Pennod 48 - Coblyn o Ddadl: Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal
Yr ymryson a gynhelid rhwng Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal yn y 1580au yw’r ddadl farddol hwyaf yn holl hanes yr iaith Gymraeg. Mae’n cynnwys 53 o gywyddau a thros 4,000 o linellau, a marwolaeth yr hen fardd Wiliam Cynwal yw’r unig beth a ddaeth â’r ymrafael i ben. Trafodwn yr ymryson rhyfeddol hwn yn y bennod hon, gan egluro’r dechrau cyn craffu ar hanfod y ddadl. Roedd Edmwnd Prys wedi derbyn ei addysg yng Nghaergrawnt a Wiliam Cynwal yn fardd traddodiadol a raddiodd mewn eisteddfod, a gwelwn fod dau fath o ddysg yn ymrafael, y naill yn newydd a’r llall yn hen. Mae’n bosib ei gweld fel dadl ynghylch dyfodol barddoniaeth Gymraeg. Ond, er gwaethaf y pynciau esoterig a’r themâu diwylliannol sy’n gwau trwy’r cerddi ymryson hyn, mae’r ddau yn ymosod yn bersonol ar adegau hefyd, wrth i Edmwnd Prys alw Wiliam Cynwal yn hen a’r bardd yntau’n ensynio bod Prys yn dew. One Heck of an Argument: The Bardic Debate between Edmwnd Prys and Wiliam Cynwal The ymryson held between Edmwnd Prys and Wiliam Cynwal in the 1580s is the longest bardic debate in the entire history of the Welsh language. It contains 53 poems in the strict-metre cywydd form and more than 4,000 lines, and it was only the death of the old bard Wiliam Cynwl which brought the contention to an end. We discuss this amazing ymryson in this episode, explaining its origin before examining the essence of the argument. Edmwnd Prys received his education in Cambridge while Wiliam Cynwal was a traditional bard who graduated in an eisteddfod, and we see that two kind of learning are contending, one new and the other old. It’s possible to see this as a struggle over the future of Welsh poetry. Yet despite the esoteric subjects and cultural themes woven through these debate poems, the two also engage in personal insults at times, with Edmwnd Prys calling Wiliam Cynwal old and the bard suggesting that Prys is fat. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Gruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (1986) - Gw. hefyd yr ysgrif berthnasol yn Nation.Cymru
Thu, 29 Aug 2024 - 37min - 48 - Pennod 47 - 'Swydd y Beirdd sydd heb Urddas’: Beirdd, Dyneiddwyr a Karl Marx
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y ffactorau a oedd yn tanseilio’r gyfundrefn farddol Gymraeg yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Trafodwn dair her yn benodol, gan ddechrau gyda’r ffaith bod pwll nawdd yn crebachu gan ei gwneud yn anos i fardd ennill bywoliaeth trwy ganu mawl. Ystyriwn her syniadau ac agweddau’r dyneiddwyr hefyd a’r ymrafael rhwng dau fath o ddysg yn y cyfnod. Ac yn olaf, crybwyllwn y modd yr oedd technoleg newydd y wasg argraffu yn cynnig her o fath arall. Clywir hanesyn am uchelwr a ddangosodd ddirmyg i fardd mawl mewn modd cofiadwy a cheir cyfle i wyntyllu dadansoddiad Marcsaidd o’r newidiadau hyn yn hynt hanes ein diwylliant llenyddol. * ‘The Job of the Bards is without Dignity’: Bards, Humanists and Karl Marx This episode concentrates on the factors which were undermining the Welsh bardic order during the second half of the sixteenth century. We discuss three challenges specifically, beginning with the fact that the pool of patronage was shrinking and making it more difficult for a bard to earn a living by composing praise poetry. We also consider the challenge posed by the ideas and attitudes of the humanists and the struggle between two kinds of learning in the period. Finally, we note the way in which the new technology of the printing press was presenting a different kind of challenge. You’ll hear an anecdote about an uchelwr who showed his contempt for a praise poet in a memorable manner and there is ample opportunity to explore a Marxist analysis of these changes in the course of our literature’s history. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - R. Brinley Jones, The Old British Tongue: The Vernacular in Wales 1540-1600 (1970) - Branwen Jarvis, 'Llythyr Siôn Dafydd Rhys at y Beirdd', Llên Cymru 12 ac hefyd yn y gyfrol Llinynnau (1999) - Jerry Hunter, ‘Cyfrinachau ar Dafod Leferydd: Ideoleg Technoleg yn yr Unfed Ganrif ar Bymtheg’ yn Angharad Price (gol.), Chwileniwm [:] Llenyddiaeth a Thechnoleg (2002)
Thu, 15 Aug 2024 - 35min - 47 - Pennod 46 - Llenyddiaeth Gymraeg yr Eidal a Gwasg Anghyfreithlon yng Nghymru
Gan ein bod ni wedi edrych ar y berthynas rhwng dyneiddiaeth, Protestaniaeth a’r iaith Gymraeg yn ddiweddar, dyma gyfle i ystyried ochr arall ceiniog y Diwygiad. Trafodwn ychydig o lenyddiaeth Gymraeg Gatholig yr unfed ganrif ar bymtheg yn y bennod, gan ganolbwyntio ar ddau gyfaill rhyfeddol, Morris Clynnog a Gruffudd Robert. Bu’n rhaid i’r ddau ddyn yma o ogledd-orllewin Cymru ffoi i’r cyfandir oherwydd eu crefydd pan ddaeth y frenhines Brotestannaidd Elizabeth I i’r orsedd. Cyhoeddi llyfrau Cymraeg ym Milan, cwffio rhwng y Cymry a’r Saeson yn y Coleg Seisnig yn Rhufain, cynhyrchu llyfr Cymraeg Catholig ar wasg anghyfreithlon mewn ogof yng Nghymru – roedd yr alltudion Cymreig hyn yn gysylltiedig â rhai o’r penodau mwyaf anhygoel yn hanes yr iaith Gymraeg. ** Italy’s Welsh-language Literature and an Illegal Printing Press in Wales As we’ve been looking recently at the relationship between humanism, Protestantism and the Welsh language, here’s an opportunity to look at the other side of the Reformation’s coin. In this episode we discuss some of the Welsh-language Catholic literature of the sixteenth century, concentrating on two extraordinary friends, Morris Clynnog and Gruffudd Robert. These two men from north-west Wales had to flee to the continent because of there religion when the Protestant queen Elizabeth I came to the throne. Publishing Welsh books in Milan, fighting between the Welsh and the English in Rome’s English College, producing a Welsh-language Catholic book on an illegal printing press in a cave in Wales – these Welsh exiles were connected with some of the most amazing chapters in the history of the Welsh language. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Geraint Bowen, Welsh Recusant Writings (1999) - Angharad Price, Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal (2005) - Angharad Price, ‘Y Cymry yn yr Eidal’ yn Gororion (2023)
Thu, 01 Aug 2024 - 42min - 46 - Pennod 45 - ‘Cymraeg iawn i’r Cymry i gyd’: Beibl 1588
Yn y bennod hon trafodwn gamp ryfeddol William Morgan, Beibl Cymraeg 1588. Bid a fo am ei harwyddocâd crefyddol amlwg, canolbwyntiwn ar arwyddocâd y garreg filltir hon o safbwynt hanes yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth. Un o’r pethau sy’n gwneud y Gymraeg yn iaith mor anhygoel o gyfoethog yw’r amrywiaeth o gyweiriau sydd ar gael i awduron, a Bebil 1588 yn anad dim a sicrhaodd fod ganddi gywair llenyddol aruchel arhosol. Mae’r undod ieithyddol hwn wedi profi’n hynod bwysig o safbwynt hunaniaeth Gymreig hefyd. Cawn gyfle hefyd i nodi ymateb rhai Cymry cyfoes, gan gynnwys cywydd mawl gan y bardd Rhys Cain sy’n tynnu sylw mewn modd cofiadwy at gamp ieithyddol William Morgan. * * ‘Proper Welsh for all of the Welsh People’: The 1588 Bible In this chapter we discuss William Morgan’s amazing achievement, the 1588 Welsh Bible. Not ignoring its obvious religious significance, we concentrate on the significance of this milestone from the point of view of the history of the Welsh language and its literature. One of the things which makes Welsh such an incredibly rich language is the variety of registers available to authors writing in Welsh, and it was the 1588 Bible above all else which ensured that it has an enduring elevated literary register. This linguistic unity has proven to be extremely important in the context of Welsh identity as well. We all get a chance to note the reactions of some contemporary Welsh people, include a poem of praise by the bard Rhys Cain which draws attention in a memorable fashion to William Morgan’s linguistic feat. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Prys Morgan, Beibl i Gymru (1988).
Thu, 18 Jul 2024 - 35min - 45 - Pennod 44 - Yr Hen a’r Newydd, Y Gwir a’r Gau: Rhagymadrodd Richard Davies
‘Dwi wir wedi fy llorio gan hyn’ yw un o’r pethau a ddywed Richard Wyn Jones ar ôl clywed am ragymadrodd syfrdanol yr Esgob Richard Davies i Destament Newydd 1567. Dyma ysgrif lenyddol fywiog sy’n hynod ddiddorol – ac yn hynod arwyddocoal – o safbwynt hunaniaeth Gymreig y cyfnod. Mae hefyd yn ddarn o bropanda Brotestannaidd sy’n troi’r gwirionedd y tu chwith allan gan ddarlunio’r Hen Frytaniaid fel rhyw fath o broto-Brotestaniaid a honni mai dychwelyd eu hen ffydd iddynt yn hytrach na’u cyflwyno i ffydd newydd yr oedd y Diwygiad Protestannaidd. Ond mae hefyd yn cyflwyno cnewyllyn o wirionedd o fath arall wrth drafod yr hen ryfeloedd rhwng Cymru a Lloegr ac mae’n rhyfeddol gweld Richard Davies yn trafod coron Loegr mewn modd negyddol gan ei fod yn gwasanaethu’r goron honno fel esgor yn Eglwys Loegr! * The Old and the New, The True and the False: Richard Davies’ Introduction ‘I am really floored by this’ is one of the things which Richard Wyn Jones says after hearing about Bishop Richard Davies’ amazing introduction to the Welsh New Testament published in 1567. Here is a lively literary piece which is incredibly interesting – and incredibly significant – in terms of Welsh identity in the period. It’s also a piece of Protestant propaganda which turns the truth inside out by portraying the Ancient Britons as some kind of proto-Protestants and claiming that the Protestant Reformation was returning their old faith to the Welsh rather than presenting them with a new one. But it also presents a kernel of truth of some kind while discussing the old wars between Wales and England, and it’s extraordinary to see Richard Davies discussing the English crown in such a negative manner, considering the fact that he was serving that crown as a bishop in the Church of England! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Prys Morgan, Beibl i Gymru (1988). - Glanmor Williams, ‘Richard Davies, Bishop of St. Davids, 1561-81’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1948, 147-169.
Thu, 04 Jul 2024 - 29min - 44 - Pennod 43 - Testament Newydd 1567
Yn y bennod hon, dechreuwn hoelio sylw ar bwnc sydd o’r pwys mwyaf i hanes yr Hen Iaith a’i llenyddiaeth – cyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg. Dechreuwn y tro hwn gyda’r Testament Newydd a gyhoeddwyd yn 1567, gan egluro bod rhaid deall y cyd-destun gwleidyddol yn ogystal â’r cyd-destun crefyddol er mwyn deall y garreg filltir hon o ddatblygiad. Er bod rhai’n hoffi gweld y Beibl Cymraeg fel ‘iawndal’ Elizabeth I am yr hyn a wnaeth ei thad, Harri VIII, i’r Gymraeg gyda’r ‘Deddfau Uno’, dadleuwn i’r gwrthwyneb ac awgrymu bod y ddau ddatblygiad yn deillio o’r un cymhelliad gwleidyddol i ganol grym a sicrhau unffurfiaeth trwy’r deyrnas. Mae’n ddiddorol nodi felly mai unffurfiaeth wleidyddol a chrefyddol a nid unffurfiaeth ieithyddol a oedd yn bwysig i Elizabeth. Trafodwn gyfraniad yr Esgob Richard Davies a chodi pwnc a gaiff sylw yn y bennod nesaf hefyd – y ffug-hanesyddiaeth a alwodd Saunders Lewis yn ‘bropaganda’r Eglwys Brotestannaidd’. * In this episode we begin focusing on a subject which is of the greatest importance to the history of the Old Language and its literature – publishing the Bible in Welsh. We begin this time with the Welsh translation of the New Testament published in 1567, explaining that one needs to understand the political context as well as the religious context in order to understand this milestone development. Although some like to see the Welsh Bible as ‘compensation’ given by Elizabeth for that which her father, Henry VIII, did to the Welsh language with the ‘Acts of Union’, we argue the opposite and suggest that both developments stemmed from the same political desire to centralize power and ensure uniformity in the realm. It’s interesting to note that political and religious uniformity were important to Elizabeth, not linguistic uniformity. We discuss the contribution of Bishop Richard Davies and raise a topic which will also get attention in the next episode – the pseudo-history which Saunders Lewis called ‘The Protestant Church’s propaganda’. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Prys Morgan, Beibl i Gymru (1988). - Glanmor Williams, ‘Richard Davies, Bishop of St. Davids, 1561-81’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1948, 147-169.
Thu, 20 Jun 2024 - 31min - 43 - Pennod 42 - Bromance William Salesbury a Gruffudd Hiraethog
Gwelwyd yn y bennod ddiwethaf fod y dyneiddiwr William Salesbury yn talu teyrned i’r bardd Gruffudd Hiraethog yn ei ragymadrodd i’r llyfr Oll Synnwyr Pen Cymro. Edrychwn ar ochr arall y geiniog yn y bennod hon, a hynny wrth i ni ddarllen cywydd o fawl a gyfansoddodd Gruffudd Hiraethog i’r dyneiddiwr. Er ein bod ni weithiau yn gweld y beirdd Cymraeg proffesiynol a’r dyneiddwyr fel dwy garfan o Gymry llengar a oedd yn cystadlu ynghylchs dyfodol yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth, mae’r berthynas gyfeillgar ac adeiladol rhwng y ddau hyn yn cynnig golwg eithaf gwahanol. Gwelwn y bardd yn addasu hen gofensiynau’r canu mawl er mwyn canmol yr addysg a gafodd y dyneiddiwr yn Rhydychen, gan gynnig enghraifft wych o’r modd y mae’r hen a’r newydd yn ymgymysgu yn llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg. * * * The Bromance of William Salesbury and Gruffudd Hiraethog In the last episode it was seen that the humanist William Salesbury pays tribute to the bard Gruffudd Hiraethog in his introduction to the book Oll Synnwyr Pen Cymro. We look at the other side of the coin in this episode, and we do that by reading a praise poem which Gruffudd Hiraethog composed for the humanist. Although we sometimes see the professional Welsh poets and the humanists as two factions competing over the future of the Welsh language and its literature, the friendly and productive relationship between these two offers a very different view. We see the bard adapting the old Welsh panegyric conventions in order to praise the education which the humanist got in Oxford, providing an excellent example of the way in which the old and the new combines in Welsh literature of the sixteenth century. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - D. J. Bowen, Gruffudd Hiraethog a’i Oes (1958). - D. J. Bowen (gol.), Gwaith Gruffudd Hiraethog (1990).
Thu, 06 Jun 2024 - 21min - 42 - Pennod 41 - Maniffesto William Salesbury
Trafodwn destun hynod gyffrous yn y bennod hon, sef rhagymadrodd William Salesbury i lyfr a gyhoeddwyd yn 1547, Oll Synnwyr Pen. Awgrymwn y gellid gweld y rhagymadrodd hwn fel maniffesto dyneiddiol Cymraeg, galwad sy’n cyflwyno agenda er mwyn diogelu a mireinio’r iaith. Defnyddiodd William Salesbury yr addysg a gafodd yn Rydychen a’i allu fel awdur i ddeffro darllenwyr a’u gwneud yn ymwybodol o’r angen: roedd yn rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn iaith dysg, yn iaith y gallai drafod unrhyw agwedd ar gymdeithas a meddwl, yn gyfrwng a allai drosglwyddo unrhyw fath o wybodaeth. * * * We discuss an incredibly exciting text in this episode, namely William Salesbury’s introduction to a book published in 1547, Oll Synnwyr Pen. We suggest that this introduction can be seen as a Welsh humanist manifesto, a call which presents an agenda for safeguarding and perfecting the language. William Salesbury used his Oxford education and his skill as an author to wake up readers and make them aware of the need: they had to ensure that Welsh would be a language of learning, a language which could discuss any aspect of society and thought, a medium capable of transmitting any kind of knowledge. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - R. Brinley Jones, William Salesbury (1994). - Gw. hefyd yr ysgrif berthnasol yn Nation.Cymru
Thu, 23 May 2024 - 52min - 41 - Pennod 40 - Dyneiddiaeth Gymreig
Mae’r bennod hon yn cyflwyno pwnc a fydd yn ganolog i’r penodau nesaf hefyd, sef dyneiddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg. Gan fod gwrthryfel Glyndŵr wedi methu, nid oedd gan Gymru brifysgolion yn y cyfnod ac felly bu’n rhaid i’r Cymry breintieidig a oedd â digon o foddion i gael addysg prifysgol fentro y tu hwnt i ffiniau’u gwlad enedigol. Eglurwn ystyr y termau ‘dyneiddiaeth’ a’r ‘Dadeni Dysg’ (a nodi nad oedd neb yn eu defnyddio yn y cyfnod dan sylw!). Er bod llawer o ddyneiddwyr ar draws Ewrop yn canolbwyntio ar ‘aileni’ cyfoeth yr hen ieithoedd clasurol (Lladin a Groeg), esgorodd dyneiddiaeth ar duedd ieithyddol arall – un sydd o’r pwys mwyaf o safbwynt hanes y Gymraeg, sef awydd i fireinio’r Hen Iaith a sicrhau’i bod hi’n gyfrwng sy’n addas er mwyn trafod a throsglwyddo dysg o bob math. * * * Welsh Humanism This episode presents a subject which will be central to the next episodes as well – sixteenth-century humanism. Because Glyndŵr’s rebellion failed, Wales did not have its own universities at the time, and so the privileged Welshmen with enough resources to attain a university education had to travel beyond the borders of their native country. We explain the terms ‘humanism’ and the ‘Renaissance’ (and note that nobody used the Welsh equivalents of them in the period we’re discussing!). Although many humanists across Europe concentrated on ‘the rebirth’ of the wealth of classical languages (Latin and Greek), humanism gave rise to another linguistic tendency – one which is of the greatest importance from the point of view of the history of Welsh, namely a desire to perfect the Old Language and ensure that it is a medium fit for discussing and transmitting learning of every kind. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Branwen Jarvis, ‘Welsh Humanist Learning’ in R. Geraint Gruffydd (gol.), A guide to Welsh literature c.1530-1700 (1976) Gw. hefyd y gyfres o erthyglau cydymaith a gyhoeddir ar gyfer ‘Yr Hen Iaith’ yn Nation.Cymru (See also the series of companion articles published for ‘Yr Hen Iaith’ in Nation.Cymru).
Thu, 09 May 2024 - 30min - 40 - Pennod 39 - Y Gymraeg a Byd Newydd Print
Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6) Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth. Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, ac eglurwn y teitl-nad-yw’n deitl a roddir arno, sef Yn y Llyfr Hwn. Syr John Prys a oedd yn gyfrol am gynhyrchu’r gyfrol Gymraeg arloesol hon, ond nodwn ei fod yn gymeriad a oedd wedi helpu chwalu rhai o adnoddau llenyddol Cymru yn ogystal â bod yn gyfrifol am wthio’r iaith Gymraeg dros drothwy byd print. * * * The Welsh Language and the New World of Print This episode focuses on that all-important technological development, the printing press. Given that discussing the history of Welsh literature is this podcast’s aim, we should see the arrival of this medium as an incredibly transformative milestone as far as creating and disseminating literature is concerned. The first Welsh book was printed in 1546, and we explain the title-which-is-not-a-tile normally used in referring to it, Yn y Llyfr Hwn (‘In This Book’). Sir John Price was responsible for producing this landmark Welsh volume, but we note that he was a character who helped destroy some of Wales’ literary resources in addition to being responsible for pushing the Welsh language across the threshold of the world of print. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Graham C. G. Thomas, ‘From Manuscript to Print – II. Print’, yn R. Geraint Gruffydd (gol.), A Guide to Welsh Literature 1530-1700 (1997). - R. Geraint Gruffydd, ‘Yny lhyvyr hwnn (1546): the earliest Welsh printed book, Bulletin of the Board of Celtic Studies, 23.1 (Mai, 1969).
Thu, 25 Apr 2024 - 37min - 39 - Pennod 38 - Alis Wen
Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5) Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n debyg iawn mai ei thad, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan oedd ei hathro barddol, a gwelwn fod ei pherthynas ungryw â’i thad yn bwnc dan sylw yn rhai o’i cherddi. Dyma lais barddol benywaidd prin sy’n amlygu teimladau gonest Cymraes am gariad, priodas a diswyliadau cymdeithasol. Er bod cymdeithas Cymru’r cyfnod yn ormesol o batrïarchaidd, gwelwn Alis yn protestio ac yn dymuno dilyn ei chalon yn hytrach nag ufuddhau i’r disgwyliadau hynny. Yn ogystal â mynegi’i barn a’i theimladau mewn modd di-flewyn-ar-dafod, mae’n gwneud hynny mewn modd rhyfeddol o ffraeth hefyd. * * * Alis Wen In this episode we discuss a remarkably interesting female poet –Alis ferch Gruffudd or ‘Alis Wen’, who composed poetry in the sixteenth century. Men were the professional poets in the period, but Alis learned the poetic art and composed a number of verses using one of the old strict metres, the englyn unodl union. It’s very likely that her father, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan, was her bardic teacher, and we see that her unique relationship with her father is given attention in some of her poems. Here is a rare female poetic voice from the period which manifests a Welsh woman’s honest feelings about love, marriage and society’s expectations. Although Welsh society in the period was oppressively patriarchal, we see Alis protesting and expressing a desire to follow her own heart instead of submitting to those expectations. In addition to expressing her opinion and her feelings in a forthright manner, she also does that in a wonderfully witty way. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: - Gwen Saunders Jones, Alis ferch Gruffudd a’r Traddodiad Barddol Benywaidd (2015). - Cathryn Charnell-White(gol.), Beirdd Ceridwen: Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (2005). - Katie Gramich a Catherine Brennan (goln.), Welsh Women’s Poetry 1460-2001: An Anthology (2003).
Thu, 11 Apr 2024 - 40min - 38 - Pennod 37 - Hen Chwedlau Cymraeg a Phropaganda’r Tuduriaid: Elis Gruffydd (Rhan 2)
Pennod 37 (cyfres 2, pennod 4) Wedi trafod natur ac arwyddocâd cronicl mawr Elis Gruffydd yn y bennod ddiwethaf, edrychwn y tro hwn ar nifer o straeon a gynhwyswyd yn y gwaith sydd o ddiddordeb neilltuol. Mae’n bosibl edrych ar y straeon hyn fel chwedlau gwerin Cymraeg nas cofnodwyd mewn unman arall – hanesion a glywodd Elis ar lafar pan oedd yn blentyn yn sir y Fflint a/neu straeon a welodd mewn llawysgrifau Cymraeg sydd bellach wedi diflannu. Diolch i Elis mae gennym y fersiwn cynharach sydd goroesi o ddwy stori gysylltiedig sy’n darlunio hanes y bardd arallfydol Taliesin, naratifau llawn hwyl sydd hefyd yn dweud llawer am y modd y canfyddai’r Cymry rym barddoniaeth. Sylwn hefyd ar chwedl sy’n darlunio’r Brenin Arthur fel merchetwr hunanol eiddigeddus. Ac yntau’n filwr ffyddlon ym myddin Harri VIII, cofnododd Elis nifer o chwedlau’n ymwneud â ‘hanes’ y Tuduriaid hefyd, gan gynnwys un sy’n dyrchafu Harri VII fel ‘y mab darogan’ ar draul Owain Glyndŵr, stori gariad sy’n egluro tarddiad y teulu, ac un am y brudiwr o fardd Rhobin Ddu a broffwydodd am enedigaeth Harri Tudur. * * Old Welsh Legends and Tudor Propaganda: Elis Gruffydd ( Part 2) Having discussed the nature and significance of Elis Gruffydd’s long chronicle in the last episode, we look this time at a number of stories of special interest which were included in the work. It’s possible to look at these narratives as Welsh folktales which were note recorded anywhere else – stories which Elis Gruffydd heard recited orally when he was a child in Flintshire and/or tales which he saw in Welsh manuscripts which have since disappeared. Thanks to Elis Gruffydd we have the earliest version of two connected tales presenting the history of the otherworldly poet Taliesin, narratives full of fun which also say a great deal about the way in which the Welsh perceived the power of poetry. We also mention a tale which depicts King Arthur as a selfish and jealous womanizer. A loyal soldier in the army of Henry VIII, Elis recorded a number of tales having to do with the ‘history’ of the Tudors as well, including one which elevates Henry VII as y mab darogan (the prophesied savior of the Welsh) above Owain Glyndŵr, a love story which explains the origins of the family, and one about the prophet bard Rhobin Ddu who foresaw the birth of Henry Tudor. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: - Patrick K. Ford (gol.), Ystoria Taliesin (1992) - Jerry Hunter, ‘Taliesin at the Court of Henry VIII: Aspects of the writings of Elis Gruffydd’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (2003). - Jerry Hunter, ‘Poets, Angels and Devilish Spirits: Elis Gruffydd’s Meditations on Idolatry,’ yn Joseph F. Nagy a Leslie Ellen Jones (goln.), Heroic Poets and Poetic Heroes in Celtic Tradition (Dulyn, 2005).
Thu, 28 Mar 2024 - 35min - 37 - Pennod 36 - Elis Gruffydd (Rhan 1)
Pennod 36 - (cyfres 2, pennod 3) Dyma gyflwyniad i awdur Cymraeg rhyfeddol, Elis Gruffydd, Cymro o sir y Fflint a fu’n filwr ym myddin Harri VIII ac yn aelod o warchodlu Calais. Yno ar y cyfandir yr ysgrifennodd ei gronicl hirfaith, hanes y byd o’r Creu Beiblaidd hyd at ddechrau’r 1550au, y testun naratifol hwyaf a ysgrifennwyd erioed yn yr iaith Gymraeg. A’i fywyd yn rhychwantu hanner cyntaf oes y Tuduriaid, mae’n bosibl disgrifio Elis Gruffydd gyda gwrthddywediad ymddangosiadol a dweud ei fod yn awdur cwbl unigryw a oedd yn gwbl nodweddiadol o’i oes. Gwelir yn ei waith ysgrifenedig y pontio rhwng yr hen oes a’r newydd, wrth iddo fynd ati’n uchelgeisiol i gofnodi cymaint o wybodaeth trwy gyfrwng ei famiaith. Gan fod Elis yn sôn am ei fywyd ei hun yn ystod rhan olaf ei groncil, a ellir dweud mai hwn yw’r hunangofiant cyntaf yn yr iaith Gymraeg? Holwn hefyd pam nad oes rhagor o Gymry heddiw sy’n gwybod am yr awdur Cymraeg diddorol hwn a’i waith rhyfeddol? Ai oherwydd y ffaith ei fod yn Gymro a oedd yn deyrngar iawn i’r Frenhiniaeth Seisnig a’i byddin? * * Elis Gruffydd (Part 1) This is an introduction to a remarkable Welsh author, Elis Gruffydd, a Welshman from Flintshire who served as a soldier in Henry VIII’s army and who was a member of the garrison of Calais. It was there on the continent that he wrote is long chronicle, a history of the world from the Biblical Creation to the start of the 1550s, the longest narrative text ever written in the Welsh language. His life spanned the first half of the age of the Tudors, and it’s possible to describe Elis Gruffydd with an apparent contradiction and say that he was a completely unique author who was completely characteristic of his age. One can see the bridging between the old age and the new in his written work, as he went at it ambitiously to record so much knowledge in his native language. Given the fact that Elis discusses his own life in the last part of his chronicle, can it be said that this is the first autobiography in the Welsh language? We also ask why more Welsh people today don’t know about this interesting Welsh writer and his remarkable work? Is it because he was a Welshman who was very loyal to the English monarchy and its army? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: - Thomas Jones, `A Welsh Chronicler in Tudor England’, Cylchgrawn Hanes Cymru 1 (1960) - Prys Morgan, ‘Elis Gruffydd of Gronant - Tudor chronicler extraordinary’, Journal of the Flintshire Historical Society, 25 (1971-2) - Ceridwen Lloyd-Morgan, ‘Elis Gruffydd a Thraddodiad Cymraeg Calais a Chlwyd’, Cof Cenedl 11 (1996) - Jerry Hunter, Soffestri’r Saeson: Hanesyddiaeth a Hunaniaeth yn Oes y Tuduriaid (2000). - Jerry Hunter, ‘Taliesin at the Court of Henry VIII: Aspects of the writings of Elis Gruffydd’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (2003) - Jerry Hunter, ‘Poets, Angels and Devilish Spirits: Elis Gruffydd’s Meditations on Idolatry,’ yn Joseph F. Nagy a Leslie Ellen Jones (goln.), Heroic Poets and Poetic Heroes in Celtic Tradition (Dulyn, 2005).
Thu, 14 Mar 2024 - 58min - 36 - Pennod 35 -Gwydnwch Hen Draddodiad
Pennod 35 (cyfres 2, pennod 2) Roedd y bennod ddiwethaf yn amlinellu’r newidiadau mawr a ddaeth yn ystod oes y Tuduriaid. Mae’r bennod hon yn ystyried effaith rhai o’r newidiadau hyn ar y traddodiad barddol Cymraeg. Ond er gwaethaf yr holl drawsffurfiadau, gwelwn wrth graffu ar ychydig o ganu mawl o ddechrau’r cyfnod fod nifer o agweddau hynafol ar y traddodiad yn parhau wrth i’r traddodiad hwnnw esblygu ac amsugno elfennau newydd. Yn sicr, cyfuniad o’r hen a’r newydd yw’r hyn sy’n gwneud y cyfnod hwn yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mor ddiddorol. Er bod pob rhan o Gymru wedi’i hail-lunio ar ffurf siroedd Seisnig yn ystod teyrnasiad Harri VIII, nodwn fod y gyfundrefn farddol Gymraeg yn parhau i feddwl am ddaearyddiaeth y wlad mewn dull Cymreig hynafol. Ac er gwaethaf awgrym rhai haneswyr Protestannaidd a awgrymai fod mynachdai Cymru’n sefydliadau pydredig erbyn iddynt gael eu diddymu gan Harri VIII, gwelwn fod rhai ohonynt wedi parhau’n ganolfannau diwylliannol a chrefyddol bywiog hyd at y diwedd. // The Persistence of an Old Tradition The last episode outlined the big changes which came during the ag of the Tudors. This episode considers the way in which these changes effected the Welsh bardic tradition. But despite of the transformations, we see while examining some praise poetry from the early part of the perioed that ancient aspects of the tradition continue while that tradition evolves and absorbs new elements. Indeed, a combination of the old and the new is what makes this period in the history of Welsh literature so interesting. Although every part of Wales was redrawn in the form of English shires during Henry VIII’s reign, we note that the Welsh bardic order continued to think of the country’s geography in ancient Welsh terms as well. And while some Protestant historians suggested that the monasteries of Wales were rotten institutions by the time that Henry VIII disestablished them, we see that some of them continued to be vibrant cultural and religious centres right up to the end. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (1926), cyfrol I a chyfrol II A. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Siôn Ceri (1996)
Thu, 29 Feb 2024 - 34min - 35 - Pennod 34 - Cyfnod Newydd?
Dyma bennod gyntaf ail gyfres ‘Yr Hen Iaith’! Dechreuwn drafod llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg trwy ystyried y datblygiadau hynny sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr Oesau Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Un o’r pethau sydd mor ddiddorol am y cyfnod hwn yw’r modd y gwelwn feirdd ac awduron Cymraeg yn ymaddasu ac yn ymateb wrth i gymdeithas newid yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Ni ellir gwadu bod datblygiadau gwleidyddol, technolegol, crefyddol ac addysgiadol wedi cyfuno i drawsffurfio cymdeithas Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Ond pwysleisiwn hefyd fod llenyddiaeth Gymraeg yn datblygu yn ei ffordd unigryw ei hun a bod cryfder traddodiad yn ein galluogi i weld y ‘cyfnodoli’ hwn mewn golau holl wahanol! * * * A New Period? This is the first episode in the second series of ‘Yr Hen Iaith’! We begin discussing the Welsh literature of the sixteenth century by considering those developments which allow use to differentiate between the Middle Ages and the Early Modern Period. One of the things which is so interesting about this period is seeing how Welsh poets and writers adapted and reacted as society changed during the first half of the sixteenth century. It can’t be denied that political, technological, religious and educational developments combined to transform society in Wales during this period. Yet we also stress that Welsh literature develops in its own unique way and note that the strength o Welsh tradition allows us to see this ‘periodization’ in a completely different light? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad.
Thu, 15 Feb 2024 - 40min - 34 - Pennod 33 -Cyflwyno’r Ail Gyfres
Dyma edrych ymlaen at yr ail gyfres a fydd yn canolbwyntio ar lenyddiaeth y cyfnod modern cyntaf, gan ddechrau gyda’r trawsffurfiadau heriol a ddaeth yn oes y Tuduriaid. Introducing our second series Here’s looking forward to the second series, which will concentrate on literature of the early modern period, starting with challenging transformations that came in the Tudor period.
Thu, 01 Feb 2024 - 03min - 33 - Pennod 32 - Diwedd yr Oesau Canol
Dyma ni’n cloi’r gyfres gyntaf a chlywed bod llênbaras Richard Wyn Jones wedi lleihau erbyn. Hefyd, er ein bod ni wedi gorffen trafod yr Oesau Canol, mae Jerry Hunter yn pwysleisio bod hanes llenyddiaeth Gymraeg yn unigryw ac wedi datblygu mewn modd unigryw. / The End of the Middle Ages Here we reach the end of our first series and hear that Richard Wyn Jones's llên-barrassment has reduced a bit. Also, although we have finished discussing the Middle Ages, Jerry Hunter emphasizes that the history of Welsh literature is unique and has developed in a unique way. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad.
Thu, 18 Jan 2024 - 05min - 32 - Pennod 31 - Yr Eisteddfodau Cynharaf ac Addysg y Beirdd
Dyma bennod fyw arbennig a recordiwyd ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a pha beth gwell i’w drafod ar y maes ym Moduan na hanes yr eisteddfodau cynharaf?! A yw’n bosib gweld ‘Gwledd Arbenning’ a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176 fel yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd? Ac wrth drafod eisteddfod a gynhaliwyd tua chanol y 15fed ganrif, rydym ni’n archwilio’r cysylltiad rhwng yr eisteddfodau cynnar hyn a’r modd yr oedd dysg y beirdd yn cael ei thraddodi, ei diogelu a’i rheoli. Beth yw arwyddocâd y ‘gramadegau barddol’ sydd wedi goroesi mewn llawysgrifau, a beth yw hanes y term rhyfedd hwnnw, ‘dwned’, sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio testun o’r fath weithiau? Gyda golwg ar gyfres nesaf y podlediad – a fydd yn craffu ar lenyddiaeth Gymraeg yr 16fed ganrif – trafodwn yr eisteddfodau a gynhaliwyd yng Nghaerwys yn yn ystod y ganrif honno a’r ddogfen ddiddorol honno a gysylltir ag Eisteddfod gyntaf Caerwys, ‘Statud Gruffudd ap Cynan.’ Nodwn ei bod yn bosib weld yr holl reoleiddio hwn mewn dwy ffordd hollol wahanol – fel arwydd o gryfder, yn cadarnhau statws a phwysigrwydd yr hen gyfundrefn farddol Gymraeg, neu fel arwydd o wendid, gan fod ffynonellau nawdd yn crebachu yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Ac beth fyddai beirdd Cymraeg yr 21fed ganrif yn meddwl am y modd y mae’r ‘Statud’ yn gwahardd beirdd rhag mynychu tafarndai?! * * * The Earliest Eisteddfodau and Bardic Education Here’s a special live episode recorded in the Literature tent of the Llŷn and Eifionydd National Eisteddfod, and what better subject to discuss on the Maes in Boduan than the earliest eisteddfodau? Is it possible to see the ‘Special Feast’ held by Lord Rhys in Cardigan in 1176 as the first eisteddfod ever recorded? And while discussing an eisteddfod held about the middle of the 15th century we consider the connection between these early eisteddfodau and the way in which bardic learning was transmitted, safeguarded and controlled. What is the significance of the ‘bardic grammars’ which have survived in manuscripts, and what is the history of that strange term, dwned, used sometimes to describe these kinds of texts? With an eye to the next series of the podcast – which will examine Welsh literature from the 16th century – we discuss the eisteddfodau held in Caerwys during that century and that interesting document, ‘The Statue of Gruffudd ap Cynan’, which is connected with the Caerwys Eisteddfodau. We note that it’s possible to see all of this regulation in two very different ways – as an indication of strength, confirming the status and importance of the old Welsh bardic order, or as a sign of weakness, as sources of patronage were diminishing during the age of the Tudors. And what would 21st-century Welsh poets think about the way in which the ‘Statute’ prohibits bards from frequenting taverns?! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (1968). - G. J. Williams ac E. J. Jones (goln.), Gramadegau’r Penceirddiaid (1934).
Thu, 04 Jan 2024 - 31min - 31 - Pennod 30 - ‘Gwledd hyd y gogledd o gig’: Y Cywyddau Brud
Ar wahân i bennod arbennig a recordiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac a gaiff ei darlledu nesaf, hon yw pennod olaf cyfres gyntaf Yr Hen Iaith. Rydym ni’n gorffen trafod llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a daw llawer o themâu’r gyfres ynghyd wrth i ni ystyried cywyddau brud yn gysylltiedig â ‘Rhyfel y Rhos’. Ystyr ‘brud’ yw proffwydodliaeth, a chawn gyfle i egluro bod gan yr hen Gymry ddull arbennig o weld cysylltiadau rhwng hanes, presennol a dyfodol y genedl Gymreig. Rhyfel rhwng teulu Lancaster a theulu York am goron Loegr ydoedd, a ddaeth i ben yn 1485 gyda buddugoliaeth y Cymro Harri Tudur a aeth yn Harri VII. Ond, er eu bod yn cefnogi ymgeiswyr go iawn am y goron, roedd y beirdd proffwydol hyn yn aml yn darlunio’r rhyfel mewn dull hynafol a dwfn fel ymrafael rhwng y Cymry a’u hen elynion y Saeson. Craffwn yn benodol o waith Dafydd Llwyd o Fathafarn, gan ystyried nifer o gywyddau sy’n dangos y modd y defnyddiodd draddodiadau hynafol i drafod gwleidyddiaeth gyfoes gan oedi dipyn ynghylch cerdd isaol o waedlyd, ei ymddiddan â’r Gigfran. Dyma gyfle i archwilio cysyniadau mawr, gan gynnwys ‘proto-genedlaetholdeb cyn-fodern’ a pharhâd traddodiad * ‘A Feast of Flesh all the way to the North’: Prophetic Poetry from the War(s) of the Roses Not counting a special episode recorded in the National Eisteddfod which will be broadcast next, this is the last episode in the first series of Yr Hen Iaith. We finish discussing literature from the Middle Ages and many themes from the series come together as we consider prophetic poems in the cywyddau form connected with the ‘Wars of the Roses’. The word for prophecy used in this context is brud, and we explain that Welsh in previous times had a special way of seeing connections between the history, the present and the future of the Welsh nation. They were wars between the families of York and Lancaster for the crown of England, and the struggles ended in 1485 with the victory that made Harri Tudur yn Henry VII. But, while they supported real contestants in the struggle, these prophetic poets often depicted the wards in a deeply archaic way as a conflict between the Welsh and their old enemies, the English. We look at some poetry by Dafydd Llwyd of Mathafarn, considering a number of cywyddau which show how he used ancient traditions to treat contemporary politics, lingering for a while over a wondrously bloody poem, his dialogue with the Raven. Here's an opportunity to examine some big concepts, including ‘pre-modern proto-nationalism’ and the continuation of tradition. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: http://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - W. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn (1964). - Gruffydd Aled Williams, ‘The Bardic Road to Bosworth: A Welsh View of Henry Tudor’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1986). - Jerry Hunter, Soffestri’r Saeson: Hanesyddiaeth a Hunaniaeth yn Oes y Tuduriaid (2000). - Aled Llion Jones, Darogan: Prophecy, Lament and Absent Heroes in Medieval Welsh Literature (2013).
Thu, 21 Dec 2023 - 43min - 30 - Pennod 29 - Gwin, Arch a Diwedd Oes: Guto’r Glyn
Trafodwn un o feirdd Cymraeg pwsicaf y 15fed ganrif yn y bennod hon. Cafodd Guto’r Glyn oes hir, ac yntau wed’i eni ychydig o flynddoedd ar ôl diwedd gwrthryfel Glyndŵr ac wedi marw rai blynyddoedd ar ôl i Harri Tudur gipio coron Lloegr yn 1485. Roedd yn filwr proffesiynol ar adegau hefyd, ac agweddau ar ei waith yn dangos mor gyfarwydd ydoedd â rhyfela’r oes. Yn arbenigo ar y cywydd mawl, mae dros gant o’i gerddi wedi goroesi, ac mae’r corff mawr hwn o farddoniaeth yn ffynhonnell bwysig iawn er mwyn deall y traddodiad barddol ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Er na chanodd am serch a natur fel llawer o’r cywyddwyr eraill, roedd ei ganu mawl yn amrywio’n fawr ac yn gallu bod yn ddyfeisgar iawn. Disgrifia un o’i gerddi frwydr rhwng y beirdd a gwin yn llys eu noddwr, wrth iddyn nhw fynd ati am y gorau i wagio seleri’r uchelwr. Trafodwn ei farwnad ddwy i fardd arall, Llywelyn ab y Moel, a chywydd a ganodd Guto ddiwedd ei oes, cerdd ryfeddol sy’n dangos y bardd fel hen ŵr yn aflonyddu ar y mynaich a oedd yn gofalu amdano. * Wine, a Coffin and the End of Life In this episode we discuss one of the most important Welsh poets of the 15th century. Guto’r Glyn had a long life, being born a few years after the end of Owain Glyndŵr’s rebellion and dying some years after Henry Tudor won the crown of England. Guto was a professional soldier at times as well, and aspects of his work show how familiar he was with warfare of the age. Specializing in praise poetry cast in the cywydd metre, more than one hundred of his poems have survived, and this large body of work is an important source for understanding the bardic tradition in the later Middle Ages. Although he didn’t compose about love and nature as did many of the other cywydd poets, his praise poetry varies greatly and can be extremely inventive. One of his poems describes a battle between the bards and the wine of their patron, as they attempt to empty his cellars. We also discuss his powerful elegy to another poet, Llywelyn ab y Moel, and a cywydd which Guto sung towards the end of his life, a remarkable poem which portrays the bard as an old man troubling the monks caring for him. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Guto’r Glyn.net: http://www.gutorglyn.net/gutorglyn/index/ - Saunders Lewis, ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, yn Ysgrifau Beirniadol IX (1976)
Thu, 07 Dec 2023 - 39min - 29 - Pennod 28 - ‘Bawddyn!’: Ymrysonau’r Cywyddwyr
Er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth o waith ‘Beirdd yr Uchelwyr’ neu’r Cywyddwyr, edrychwn yn y bennod hon ar rai o’u hymrysonau. Wrth ystyried cywyddau yr oedd beirdd yn eu cyfnewid, rydym ni’n archwilio cysylltiadau posib rhwng y farddoniaeth hon a chyd-destunau cymdeithasol coll. Mae’n debyg bod beirdd yn ymrysona am wahanol resymau yn y cyfnod – er mwyn cystadlu am nawdd, er mwyn sefydlu neu gadarnhau enw da, er mwyn trafod agweddau ar eu crefft (a dadlau yn eu cylch!), ac er mwyn hwyl neu adloniant – ond mae’n rhaid i ni ddefnyddio’n dychymyg (ac ychydig o theory anthropolegol!) er mwyn deall y berthynas rhwng y cerddi rhyfeddol hyn a’r cyd-destun(au) a roes fod iddynt. Trafodwn gwestiwn hynod ddiddorol arall hefyd: pam bod bardd yn galw enwau mor hyll ar ei wrthwynebydd, a hynny mewn trafodaeth am bynciau dyrchafedig fel ffynhonnell yr awen a phriod waith y bardd? / ‘Shit-man!’: Bardic Debates of the Cywyddwyr In order to deepen our understanding of the work of ‘The Poets of the Uchelwyr’ or the Cywyddwyr, we look at their ymrysonau or bardic debates in this episode. While considering poems exchanged by bards, we examine possible connections between this poetry and lost social contexts. It’s likely that bards engaged in an ymryson for various reasons during the period in question – in order to compete for patronage, in order to establish or confirm one’s reputation, in order to discuss aspects of their art (and argue about them!), and for the sake of fun or entertainment – but we must use our imagination (and some anthropological theory!) in order to understand the relationship between this amazing poems and the context(s) which gave birth to them. We also discuss another very interesting question: why does a poet call his opponent such nasty names, and do so in a discussion about refined topics such as the source of poetic inspiration and the proper function of a poet? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith neu YouTube: https://www.youtube.com/@yrheniaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - https://dafyddapgwilym.net/cym/3win.php - Dylan Foster Evans (ed.), Gwaith Rhys Goch Eryri (2007) - Ann Matonis, ‘Barddoneg a Rhai Ymrysonau Barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar’, Ysgrifau Beirniadol 12 (1982). - Morgan Davies, “ ‘Aed i’r coed i dorri cof’: Dafydd ap Gwilym and the Metapoetics of Carpentry”, Cambridge Medieval Celtic Studies 30 (Gaeaf, 1995). - Jerry Hunter, “Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar yr ‘Ysbarddiad Barddol’)”, Dwned 3 (1997) a Bleddyn Huws ac A. Cynfael Lake (goln.), Genres y Cywydd (2016).
Thu, 23 Nov 2023 - 37min - 28 - Pennod 27 - Llais Cymraes: Gwerful Mechain
Mae’n hen bryd i ni ganolbwyntio ar lenyddiaeth gan Gymraes. Gan ein bod wedi dechrau trafod cyfnod y cywydd, rydym ni’n neidio ymlaen ryw ganrif ac ychydig o oes Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon er mwyn ystyried gwaith Gwerful Mechain, bardd benywaidd a oedd yn byw ac yn cyfansoddi yn ystod ail hanner y 15fed ganrif. Mae hefyd yn fodd i ni ystyried y modd y mae ‘canonau’ llenyddol Cymraeg – megis y gyfrol ddylanwadol honno, Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg – wedi anwybyddu gwaith gan feirdd benywaidd fel Gwerful Mechain. Nodwn hefyd fod Gwerful wedi’i chofio gan rai fel ‘bardd masweddus’ yn bennaf – ysbrydebu anffodus - gan fod ei barddoniaeth yn mynd i’r afael â rhychwant o themâu, gan gynnwys crefydd. Edrychwn yn weddol fanwl ar ei chywydd gorchestol i’r Iesu yn ei ddioddefaint. Cawn gyfle i ystyried barddoniaeth o fath gwahanol iawn ganddi, gwaith sy’n trafod rhyw o safbwynt y fenyw ac yn dychanu canu serch y beirdd gwrywaidd. * * * It’s about time that we concentrate on literature by a Welsh woman. Since we have started discussing the period of the cywydd, we leap forward from the time of Dafydd ap Gwilym a century and more in order to consider the work of Gwerful Mechain, a female poet who lived and composed during the second half of the 15th century. It is also a means of considering how Welsh literary ‘canon’s – like that influential volume, The Oxford Book of Welsh Verse – have ignored the work of female poets like Gwerful Mechain. We also note that Gwerful is remembered chiefly by some as an ‘indecent poet’ – an unfortunate stereotyping - because her work treats a range of themes, including religion. We look in some detail at her masterful cywydd describing the passion of Jesus. We have an opportunity to consider some very different poetry as well, work which discusses sex from a woman’s point of view and satirizes the love poetry of the male bards. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Gwaith Gwerful Mechain ac eraill, gol. N. A. Howells (2001) - Welsh Womens’ Poetry 1450-2001, goln. Katie Gramich a Catherine Brennan (2003).
Thu, 09 Nov 2023 - 30min - 27 - Pennod 26 - Dychan, Hiwmor a Grym Celf: Dafydd ap Gwilym (rhan 3)
Dywed Richard Wyn Jones rywbeth yn y bennod hon sydd, er ei fod yn sylw ffwrdd-a-hi, efallai’n dweud mwy am afiaith y farddoniaeth hon na holl draethu’i gyd-gyflwynydd. Dywed y byddai wedi astudio’r Gymraeg yn y brifysgol yn hytrach na Gwleidyddiaeth Ryngwladol, o bosib, pe bai wedi cael darllen y cerddi hyn yr ysgol! Dyna ddigon i awgrymu bod y cerddi dychanol doniol hyn gan Ddafydd ap Gwilym yn eang iawn eu hapêl. Edrychwn ar hunan-ddychan Dafydd yn y cywyddau ‘Trafferth mewn Tafarn’ a ‘Merched Llanbadarn’. Trafodwn hefyd y gerdd a gafodd ei sensro am flynyddoedd lawer, sef ‘Cywydd y Gal’. Ac ystyriwn ei ymddiddan â’r ‘Brawd Llwyd’, cerdd ryfeddol sy’n cyflwyno fersiwn syfrdanol o fodern o Gristnogaeth ac sy’n amddiffyn yr union fath o ganu serch a gysylltir â Dafydd ap Gwilym. Mae hefyd yn gerdd sy’n tystio i’r ffaith bod celf o safon uchel yn gallu dylanwadu ar ymddygiad pobl. * * * Satire, Humor and the Power of Art (Dafydd ap Gwilym part 3) Richard Wyn Jones says something in this episode which, although it’s an off-the-cuff remark, perhaps says more about this poetry’s zest than all of his co-presenter’s discussion. He says that, if he had read these poems in school, he might’ve studied Welsh at university instead of International Politics! That’s enough to suggest that these humorous satirical poems by Dafydd ap Gwilym have a very wide appeal. We look at Dafydd’s self-satire in the cywyddau ‘Trouble in a Tavern’ and ‘Women of Llanbadarn’. We also discuss the poem which was censored for many years, ‘The Cywydd of the Penis’. And we consider his dialogue with the ‘Grey Friar’, an amazing poem which presents a surprisingly modern version of Christianity and which defends the exact type of love poetry connected with Dafydd ap Gwilym. It is also a poem which testifies as to the power of high-quality art to influence people’s behaviour. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Dafydd ap Gwilym.net: https://dafyddapgwilym.net/index_cym.php - Morgan Davies, ‘Dafydd ap Gwilym and the friars: the poetics of antimendicancy’, Studia Celtica xxix (1995). - Huw M. Edwards, Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues (1996).
Thu, 26 Oct 2023 - 39min - 26 - Pennod 25 - Caru yn y Coed: Dafydd ap Gwilym (rhan 2)
Rydym ni’n parhau i drafod ffresni rhyfeddol barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, gan bwysleisio bod newydd-deb ei gyfansoddiadau wedi’i greu gyda deunydd crai traddodiadol i ryw raddau. Ystyriwn ychydig o ganu serch Dafydd, gan ddechrau â’r cywydd ‘Morfudd fel yr Haul’, cyn craffu ar y modd y mae dwy thema fawr, serch a natur, wedi’u plethu ynghyd yn ei waith. Trafodwn yr ‘oed yn y coed’, a’r bardd yn cyfarfod â’i gariad ym myd natur yn bell o hualau cymdeithas (ac yn bell o ‘eiddig’ ar adegau, pan fydd ei gariad yn wraig briod!). Er nad ydym yn ateb y cwestiwn astrus hwn, rydym yn ei godi o leiaf: a oedd y cariadon sy’n ganolbwynt i gynifer o gywyddau Dafydd yn ferched go iawn? Cewch glywed am y llatai hefyd, y negesydd serch y mae’r bardd yn ei gomisynu. Love in the Woods: Dafydd ap Gwilym (2) We continue to discuss the amazing freshness of Dafydd ap Gwilym’s poetry in this episode, emphasizing that the newness of his compositions is created out of traditional material to a certain extent. We consider some of Dafydd’s love poetry, beginning with ‘Morfudd like the sun’, before examining the way in which two themes, love and nature, are woved together in his work. We talk about the ‘tryst in the woods’ (oed yn y coed), with the poet meeting his lover in the world of nature far from the confines of society (and far from eiddig, ‘the jealous one’, when his lover happens to be a married woman!). Although we don’t answer this difficult question, we at least ask it: were the lovers so central to so many of Dafydd’s poems real women? You’ll also here about the llatai, the love messenger the poet commissions. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Thomas Parry, Gwaith Dafydd ap Gwilym - Dafydd ap Gwilym.net: https://dafyddapgwilym.net/index_cym.php - Huw Meirion Edwards, Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues
Thu, 12 Oct 2023 - 41min - 25 - Pennod 24 - Meddwi’n Niwbwrch: Dafydd ap Gwilym (rhan 1)
Dechreuwn drafod bardd Cymraeg enwocaf yr Oesau Canol y bennod hon – Dafydd ap Gwilym. Nid yw hanes ei fywyd yn gwbl sicr, ond tybir iddo gael ei eni tua 1315 a marw o gwmpas y flwyddyn 1350 – o bosibl oherwydd y Pla Du. Ond mae’n sicr bod oes a gwaith Dafydd yn cydfynd â dechrau oes y cywydddwyr – a chewch beth o hanes y cywydd yn y bennod hon hefyd felly. Mae gwaith Dafydd ap Gwilym yn arwyddo cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mewn sawl ffordd, ac mae’n bosib awgrymu mai fo oedd ‘y dyn iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn’, yn fardd talentog a beiddgar ar adeg pan oedd cymdeithas yn newid a phosibliadau barddol yn ymagor o’r herwydd. Mae’n cael ei gofio’n bennaf heddiw am ei ganu search a natur (pwnc ein pennod nesaf!). Mae canrifoedd o Gymry wedi dotio at ei ffresni, ei newydd-deb, ei hiwmor a’i feiddgarwch ond nodwn ei fod hefyd yn fardd traddodiadol ar un wedd, yn canu mawl ac yn cyfansoddi cerddi crefyddol dwys yn ogystal â’r gwaith hwyliog a ffraeth a gysylltir â’i enw heddiw. Craffwn ar un o’i gywyddau, sef cân o fawl i dref Niwbwrch. Awgryma’r gerdd hon fod Dafydd yn claddu medd yn y dref – yn wir, ‘mynwent medd Môn’ oedd Niwrbwrch yn ei eiriau’i hun! – ac mae’r cywydd hwyliog hwn hefyd yn sôn am yfed gwin, cwrw a methyglyn (medd wedi’i drwytho â pherleisiau). Drinking in Niwbwrch: Dafydd ap Gwilym (part 1) We start discussing the most famous Welsh poet of the Middle Ages in this episode – Dafydd ap Gwilym. The details of his life are not certain, but it is thought that he was born about the year 1315 and died about 1350, perhaps because of the Black Death. But it is certain that Dafydd’s life and work are part and parcel of the beginning of the age of the cywyddwyr – and thus you’ll also get some of the history of the cywydd metre in this episode. Dafydd ap Gwilym’s work signifies a new period in the history of Welsh literature in several ways, and it’s possible to suggest that he was ‘the right man yn the right place at the right time’, a talented and adventurous poet at a time when society was changing and poetic possibilities were opening up as a result. He is remembered today mostly for his love and nature poetry (the subject of our next episode!). Centuries of Welsh people have taken to his freshness, ingenuity, his humour and his boldness, but we note that he was also a traditional poet in some ways, composing praise poetry and serious religious verse as well as the light and witty work which is connected with his name today. We look in detail at one of his poems, a song of praise to the town of Niwbwrch in Anglesey. This poem suggests that Dafydd ‘buried’ a lot of mead there – indeed, it was ‘Angelsey’s graveyard of mead’ according to his own words! – and this light-hearted cywydd also mentions drinking wine, beer and methgelyn (mead flavoured with herbs). Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Thomas Parry, Gwaith Dafydd ap Gwilym - Dafydd ap Gwilym.net: https://dafyddapgwilym.net/index_cym.php - Huw Meirion Edwards, Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues
Thu, 28 Sep 2023 - 41min - 24 - Pennod 23 - Seintiau a Phechaduriaid
Er ein bod ni wedi crybwyll y ffaith bod cymdeithas y Gymru ganoloesol yn drywadl Gristnogol, ac er ein bod wedi nodi agweddau creffyddol ar rai testunau llenyddol wrth fynd heibio, yn y bennod hon rydym ni’n canolbwyntio ar lenyddiaeth Gristnogol – ac yn bennaf, gwahanol draddodiadau’n ymwneud â’r seintiau Cymreig. Nodwn fod y Cymry yn weddol unigryw yn eu hoffter o lunio ‘bonedd’ neu ‘achau’ seintiau (amlygiad canoloesol o’r awydd Cymreig oesol i holi i bwy mae rhywun yn perthyn, efallai!). Trafodwn draddodiad llenyddol storïol poblogaidd hefyd, ‘Bucheddau Seintiau’, cofiannau neu fywgraffiadau. Edrychwn ar Fuchedd Dewi a thrafod rôl llenyddiaeth yn y datblygiad a wnaeth ef yn nawddsant Cymru. Cewch glywed hanes cyffrous am forwyn o’r enwi Gwenfrewi wrth iddi arddel ‘strategaeth risg-uchel’ (chwedl Richard Wyn Jones) er mwyn ceisio dianc rhag y brenin cas, Caradog, a hanes y ffynnon sy’n dwyn enw’r santes honno. Cawn gyfle i ystyried canu mawl i’r seintiau, gan graffu ar un awdl sy’n dyrchafu Dewi uwchlaw holl seintiau eraill y byd. * * * Saints and Sinners Although we have mentioned the fact that the society of medieval Wales was thoroughly Christian, and although we have noted some religious aspects of some literary texts in passing, in this episode we concentrate on Christian literature – specifically, various traditions having to do with the Welsh saints. We note that the Welsh were fairly unique in their love of creating genealogies for the saints (a medieval manifestation of that ageless Welsh desire to ask to whom somebody is related, perhaps!). We discuss a popular narrative tradition as well, ‘Saints’ Lives’, biographies or the histories of their lives. We loo at the Life of St. David and discuss the role of literature in the development which made him the patron saint of Wales. You’ll hear the exciting story about a maiden named Gwenfrewi as she adopts a ‘high-risk strategy’ (according to Richard Wyn Jones) in order to try to escape from the nasty king, Caradog, and the history of the well which bears that saint’s name. We also consider the praise poetry to saints, and examine one awdl which elevates St. David above all of the other saints of the world. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - D. Simon Evans (gol.), Buchedd Dewi gyda Rhagymadrodd a Nodiadau (Caerdydd, 2005 [adargraffiad] ) - Patrick Sims-Williams (gol.), Buchedd Beuno: The Middle Welsh Life of St Beuno (Dulyn, 2018). - Gwefan prosiect ymchwil ‘Seintiau’: https://saints.wales/cartref/
Thu, 14 Sep 2023 - 44min - 23 - Pennod 22 - Calon Oer dan Fron o Fraw
Cawn drafod un o gerddi enwocaf yr iaith yn y bennod hon, cerdd sy’n gysylltiedig ag un o drobwyntiau mwyaf yn hanes Cymru. Wrth i ni ddadansoddi Marwnad Llywelyn, ystyriwn y modd y gall llenyddiaeth fod yn danwydd i ddychymyg cenedl, a’r dychymyg hwnnw’n allweddol i allu cenedl i oroesi ar ôl iddi gael ei goresgyn. Trafodwn yr hyn a wyddys am fywyd y dyn a gyfansoddodd y gerdd eiconig hon hefyd, sef Gruffydd ab yr Ynad Coch. Awgryma’r dystiolaeth mai bardd crefyddol ydoedd yn anad dim, ac a yw hynny’n fodd i ni gyd-destunoli llawer o ddelweddaeth y farwnad? A yw’n mynd yn rhy bell i ddweud bod Gruffydd yn cymharu Llywelyn â nab llai na Iesu Grist ei hun? Ac a yw gwedd ar hanes y bardd hwn – ffaith hanesyddol sy’n syfrdanol o wahanol i’r modd y mae llawer o Gymry yn canfod y berthynas rhwng Gruffydd a Llywelyn – hefyd yn fodd i egluro angerdd anghyffredin y gerdd bwerus hon? * * * In this episode we get to discuss one of the language’s most famous poems, a poem connected with one of the biggest turning points in the history of Wales. As we analyse Llywelyn’s Marwnad (‘Elegy’), we consider the way in which literature can be fuel for a nation’s imagination, that imagination being essential for a nation’s ability to survive after being conquered. We also discuss what is known about the life of the man who composed this iconic poem, namely Gruffydd ab yr Ynad Coch. Evidence suggests that he was a religious poet above all else, and is this a way for us to contextualize a great deal of the elegy’s imagery? Is it going too far to say that Gruffydd compares Llywelyn with none other than Jesu Christ himself? And is a part of this poet’s history – a historical fact which is shockingly different from the way in which many Welsh people perceive the relationship between Gruffydd an Llywelyn – also a way of explain this powerful poem’s extraordinary passion? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach / further reading: - Rhian M. Andrews (gol.), Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Caerdydd, 1996)
Thu, 31 Aug 2023 - 33min - 22 - Pennod 21 - Dyrchafu, Caru ac Ymladd: Barddoniaeth yn gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu
Rydym ni’n parhau i drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar farddoniaeth sy’n gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu. Wedi’i enwi’n ‘gyfaill y pod’ gennym yn barod, mae’n rhaid cyfrif Owain Gwynedd (c.1100-1170) ymysg y tywysogion pwysicaf. Yn wir, ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ ac ef hefyd oedd Brenin Gwynedd yn ei ddydd. Edrychwn ar waith Cynddelw Brydydd Mawr yn ‘dyrchafu’ neu’n ‘arwyrain’ Owain Gwynedd ac edrychwn hefyd ar farddoniaeth sy’n canolbwyntio ar rôl a hunaniaeth y bardd ei hun. Dychmygwn fod un ohonynt, Gwalchmai ap Meilyr Brydydd, yn strytio’n frolgar fel rapiwr ar lwyfan, a thrafod barddoniaeth gan fab Owain Gwynedd, Hywel, a’i ddiwedd alaethus ef. * * Lifting Up, Loving and Fighting: Poetry connected with Owain Gwynedd and his family We continue to discuss the Poets of the Princes in this episode, focusing on poetry connection with Owain Gwynedd and his family. Already named ‘a friend of the pod’ by us, Owain Gwynedd (c.1100-1170) must be counted as one of the most important of the princes. Indeed, he was the first to use the title ‘Prince of Wales’ and he was also King of Gwynedd in his day. We look at work by Cynddelw Brydydd Mawr (or ‘Cynddelw the Great Poet’) ‘lifting up’ or ‘elevating’ Owain Gwynedd and we also look at poetry which concentrates on the role and identity of the poet himself. We imagine one of them, Gwalchmai ap Meilyr, strutting boastfully like a rapper on stage, and we discuss poetry by Owain Gwynedd’s son, Hywel, and consider his tragic ending. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: https://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach/ Further Reading: - R. R. Davies, The Age of Conquest [:] Wales 1063-1425 (Rhydychen, 1987). - Nerys Ann Jones and Ann Parry Owen (goln..), Cyfres Beirdd y Tywysogion[:] Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr II (Caerdydd, 1995).
Thu, 17 Aug 2023 - 55min - 21 - Pennod 20 - Canu Gwleidyddol: Beirdd y Tywysogion
Dechreuwn drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon gan agor cil y drws ar gorff sylweddol o farddoniaeth Gymraeg hynod gain sydd hefyd yn hynod bwysig o safbwynt astudio hanes Cymru. Cawn gyfle i ystyried arwyddocâd Llawysgrif Hendregadredd (y llawysgrif sydd wedi diogelu’r rhan fwyaf o’r cerddi hyn), gwaith rhyfeddol o ddiddorol gan ei fod yn ffrwyth ymdrech i gofnodi barddoniaeth oes y Tywysogion yn fuan iawn ar ôl i’r cyfnod hwnnw yn hanes Cymru ddod i ben. Edrychwn ar waith y cyntaf o Feirdd y Tywysogion, Meilyr Brydydd, a’r arweinydd yr oedd yn canu mawl iddo, Gruffudd ap Cynan. Dyma gyfle i egluro termau ychydig hefyd (a oes gwahaniaeth rhwng ‘y Gogynfeirdd’ a ‘Beirdd y Tywysogion’, er enghraifft?). // Political Poetry: The Poets of the Princes We begin discussing the Poets of the Princes in this episode, opening the door to a considerable body of incredibly artful verse which is incredibly important when it comes to studying Welsh history. We will consider the significance of the Hendregadredd Manuscript (the manuscript which has preserved most of these poems), a wonderfully interesting work which because it is the result of an effort to record the poetry of the age of the Princes shortly after that period in the history of Wales came to an end. We look at the work of the first of the Poets of the Princes, Meilyr Brydydd, and the leader for whom he composed praise, Gruffudd ap Cynan. Here's an opportunity to clarify terminology a little as well (for example, is there a difference between the ‘Gogyfeirdd’, or ‘Rather Early Poets’, and ‘the Poets of the Princes’?) Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen Pellach / Further Reading: - Daniel Huws, ‘The Hendregadredd Manuscript’, yn Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff & Aberystwyth, 2000), 193-226. - J.E. Caerwyn Williams a Peredur I. Lynch (goln.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
Thu, 03 Aug 2023 - 50min - 20 - Pennod 19 - ‘Iarlles y Ffynnon’, nid ‘Owain’
Yn y bennod hon trafodwn yr olaf o’r ‘chwedlau brodorol’ wrth i ni graffu ar saernïaeth gelfydd ‘Iarlles y Ffynnon’. Nodwn y duedd i ddefnyddio enw prif gymeriad gwrywaidd y chwedl hon, ‘Owain’, fel teitl gan fynnu mai’r teitl a geir yn Llyfr Coch Hergest sy’n gywir, ‘Iarlles y Ffynnon’. Ynghyd â Gwenhwyfar a’r forwyn Luned, mae’r Iarlles yn un o driawd o gymeriadau benywaidd cryf a byw a geir yn y stori hon. Y hi sy’n rheoli yn ei theyrnas, er bod y marchog du yn gwarchod y ffynnon hudolus sy’n fynedfa iddi. Ymysg y pethau sy’n gwneud y darn hwn o lenyddiaeth ganoloeosol mor wych yw’r modd y mae’n cynrychioli ymddiddan a’r ymwneud rhwng cymeriad, pob un â’i bersonoliaeth wahanol. A pham bod Arthur yn cysgu ar ‘deml o frwyn’ (fel eryr yn ei nyth, yn ôl Richard Wyn Jones)? The Lady of the Fountain, not ‘Owain’ In this episode we discuss the last of the ‘native tales’ as we examine the artful construction of ‘The Lady of the Fountain’. We note the tendency to use the main male character’s name, ‘Owain’, for the title, and insist that it is the title found in the Red Book of Hergest which is correct – ‘The Lady of the Fountain’. Along with Gwenhwyfar and the maiden Luned, the Lady is one of a triad of strong and life-like female characters found in this story. It is she who rules in her realm, even though the black knight guards the magical fountain which is its entrance. Among the things which make this piece of medieval literature so great is the way in which it represents conversation and the interplay between characters, each one with her or his own unique personality. And why does Arthur sleep on ‘a mound of rushes’ (like an eagle in his nest, according to Richard Wyn Jones)? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: / Further Reading: - Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980) - Ceridwen Lloyd-Morgan a Erich Poppe (goln.), Arthur in the Celtic Languages (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2019)
Fri, 21 Jul 2023 - 54min - 19 - Pennod 18 - Marchocffordd Peredur
Trafodwn y chwedl ‘Historia Peredur fab Efrog’ yn y bennod hon gan awgrymu’i bod yn disgrifio perthynas Peredur a’i fam mewn modd hynod ddynol a thyner. Mae gwrthgyferbyniad amlwg rhwng bydolwg gwrywaidd treisgar tad Peredur a doethineb ei fam. Ond er i’w fam geisio’i fagu mewn byd benywaidd yn bell o unrhyw sôn am arfau a rhyfel, ac er iddi ddweud wrtho mai ‘angylion’ yw’r marchogion a wêl un diwrnod, mae’r hogyn ifanc yn mynnu dilyn y dynion arfog ar y ‘farchocffordd’ a dysgu bod yn farchog ei hun. Dyma destun canoloesol sy’n cwestiynu’r union ymddygiad ‘macho’ y mae’n ei ddyrchafu. Peredur’s Marchocffordd In this episode we discuss ‘Historia Peredur fab Efrog’ and suggest that it describes the relationship between Peredur and his mother in a remarkably human and tender fashion. There is an obvious contrast between the violent male worldview of Peredur’s father and the wisdom of his mother. However, while his mother tries to raise him in a femine world far from any mention of weapons and warfare, and although she tells him that the knights he sees one day are ‘angles’, the young lad insists on following the armed men on the marchocffordd – meaning the ‘bridle path’ or ‘horse path’ but also in our reading of the text, ‘the way of a knight’ – and learn to be a knight himself. This is a medieval text which questions the same macho behaviour it appears to promote. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: / Further Reading: - Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980) - Ceridwen Lloyd-Morgan a Erich Poppe (goln.), Arthur in the Celtic Languages (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2019)
Thu, 13 Jul 2023 - 39min - 18 - Pennod 17 - Breuddwyd Rhyfeddol Rhonabwy
Yn y bennod hon, trafodwn chwedl gwbl ryfeddol sy’n llunio fersiwn unigryw o fyd arwrol Arthur er mwyn tynnu sylw at ddiffygion gwleidyddol y byd go iawn. Y Gymru ganoloesol yw’r byd go iawn hwnnw, ac mae ymrafael rhwng tywysog a’i frawd yn bygwth heddwch y deyrnas. Mae’r negesydd Rhonabwy yn ceisio’i orau i helpu ond mae’n syrthio i gysgu – mewn tŷ sy’n ysglyfaethus o fudr! – a thrwy gyfrwng ei freuddwyd mae’n teithio o’r presennol i’r gorffennol Arthuraidd. Mae’n rhaid i’r arweinydd chwedlonol ei hun ddysgu gwersi am ryfel a heddwch hefyd, ac mae’n gwneud hynny wrth chwarae gwyddbwyll. Ond nid ‘chess’ oedd gwyddbwyll i’r Cymry canoloesol, a nid yw’r stori hon yn debyg i unrhyw stori arall chwaith! Cewch atebion i gwestiynau annisgwyl hefyd, fel pam bod y dyn bychan hwnnw o’r presennol, Rhonabwy, yn gwneud i Arthur grio? // Rhonabwy’s Amazing Dream In this episode, we discuss a completely amazing tale which constructs a unique version of Arthur’s heroic world in order to highlight the political faults of the real world. Medieval Wales is that real world, and a struggle between a prince and his brother is threatening the peace of the realm. The messenger Rhonabwy tries his best to help but he falls asleep – in a house which is disgustingly filthy! – and by means of his dream he travels from the present back to the Arthurian past. The heroic leader himself must learn lessons about war and peace as well, and he does that while playing gwyddbwyll – not ‘chess’, as modern Welsh speakers would have it, but a different kind of war game played by medieval Welsh people. And this story is not like any other story either! You’ll also get answers to some unexpected questions, such as who does that little man from the present, Rhonabwy, make Arthur cry? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: / Further Reading: - Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980) - Ceridwen Lloyd-Morgan a Erich Poppe (goln.), Arthur in the Celtic Languages (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2019)
Thu, 06 Jul 2023 - 40min - 17 - Pennod 16 - Geraint a’i shorts sidan
Trafodwn y chwedl ‘Ystoria Geraint fab Erbin’ yn y bennod hon gan ystyried ei pherthynas â cherdd storïol y bardd Ffrangeg Chrétien de Troyes. A yw’n bosibl mai trosiad o’r testun Ffrangeg yw’r chwedl Gymraeg, mewn gwirionedd? A yw’n iawn cynnwys ‘Geraint’ ymysg y ‘chwedlau brodorol’? Awgrymwn fod awdur Cymraeg wedi cymryd stori Chrétien a’i gwisgo mewn gwisg Gymreig. Wedi’r cwbl, mae toreth o enwau Cymraeg yma, nifer ohonynt â gwreiddiau dwfn iawn yn chwedloniaeth draddodiadol Cymru, gan gynnwys Geraint ei hun. Ceir golwg hynod ddiddorol ar dde-ddwyrain Cymru hefyd, gan gynnwys Caerdyf, sef Caerdydd. A sôn am wisg, mae’r disgrifiad o ddillad Geraint pan mae’n ymddangos gyntaf yn y sori yn wych. Yn ogystal â’r holl farwedd, dewrder, sifalri ac anturiaeth, mae’r chwedl hon yn cynnig trafodaeth feirniadol ynglŷn â’r union fyd Arthuraidd y mae’n ei ddyrchafu. // Geraint and his satin shorts In this episode we discuss the tale ‘Ystoria Geraint fab Erbin’ (the ‘Story’ or ‘History’ of Geraint so of Erbin) and consider its relationship with a narrative poem by the French poet Chrétien de Troyes. Is it possible that this Welsh tale is actually a translation of the French text? Is it really right to include ‘Geraint’ among the ‘native tales’? We suggest that a Welsh author took Chrétien’s story and dressed in Welsh clothes. After all, there are lots of Welsh names here, many of them with very deep roots in traditional Welsh narrative, including Geraint. It also presents a very interesting look at south-east Wales, including Caerdyf or Cardiff. And, talking about clothes, the description of Geraint’s outfit when he first appears is brilliant. In addition to all of the greatness, bravery, chivalry and adventur, this tale offers a critical discussion of the very Arthurian world it celebrates. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad. Darllen pellach: / Further Reading: Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980) Ceridwen Lloyd-Morgan a Erich Poppe (goln.), Arthur in the Celtic Languages (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2019)
Thu, 29 Jun 2023 - 50min
Podcasts similares a Yr Hen Iaith
El Partidazo de COPE COPE
Herrera en COPE COPE
La Linterna COPE
Dante Gebel Live Dante Gebel
Panda Show - Sin Picante El Panda Zambrano
Es la Mañana de Federico esRadio
La noche de Cuesta esRadio
Hondelatte Raconte Europe 1
Au Coeur du Crime Europe1
Affaires sensibles France Inter
LEGEND Guillaume Pley
El colegio invisible OndaCero
La Rosa de los Vientos OndaCero
Les grands dossiers de l'Histoire par Franck Ferrand Radio Classique
Espacio en blanco Radio Nacional
Entrez dans l'Histoire RTL
Le grand récit RTL
Les Grosses Têtes RTL
Les histoires incroyables de Pierre Bellemare RTL
L'Heure Du Crime RTL
El Larguero SER Podcast
SER Historia SER Podcast
Un Libro Una Hora SER Podcast
HISTORIAS DE LA HISTORIA VIVA RADIO
