Filtrar por género
Gwleidydda

- 222 - Ysgol David Hughes: Eton Cymru?
Owain Clarke, y gohebydd iechyd sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yr wythnos hon i drafod y rhestrau aros sy'n wynebu'r llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd.
Mae'r ddau hefyd yn trafod penodiad dau arweinydd newydd i Reform yng Nghymru.
Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 23 Sep 2026 - 221 - Richard yn Rong am Reform
Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod y trafferthion mae plaid Reform wedi'u hwynebu yn y Senedd yr wythnos hon.
Mae cyn-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, hefyd yn ymuno i drafod y goblygiadau o dderbyn aelod sydd wedi croesi'r llawr.
Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 16 Sep 2026 - 220 - Reform - Cai Parry-Jones
Cai Parry-Jones o blaid Reform UK sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod ei argraffiadau cyntaf o fod yn Aelod o'r Senedd.
Mae’r ddau yn holi Cai am gynhadledd Reform a'r ymchwiliadau i ariannu'r blaid ar hyn o bryd.
Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 09 Sep 2026 - 219 - Penyberth
Dyma rifyn arbennig o Gwleidydda gyda Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn nodi 90 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Yn y bennod yma fe drafodir arwyddocâd y tân a’r effaith ar genedlaetholdeb heddiw, a hynny yng nghmwni Dafydd Iwan, Ian Gwyn Hughes, ŵyr Lewis Valentine, y cyn farnwr Nic Parry a’r hanesydd Mari Wiliam.
Mon, 07 Sep 2026 - 218 - Dau Brif Weinidog - Mis Mêl ar Ben?
Bethan Rhys Roberts a'r gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr sy'n trafod dechrau'r tymor gwleidyddol newydd. Mae'r ddwy yn dadansoddi sesiwn PMQs cyntaf y Prif Weinidog Andy Burnham cyn troi at gynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru. Ydy'r cyfnod mis mêl ar ben i'r ddau Brif Weinidog newydd? Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 02 Sep 2026 - 217 - Cloch ClactonFri, 14 Aug 2026
- 216 - Y Prif Weinidog yn Y Babell Lên
Bethan Rhys Roberts sy'n holi'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn Y Babell Lên ar faes Eisteddfod y Garreg Las.
Mewn sgwrs wedi ei recordio'n fyw o flaen gynulleidfa, mae'r Prif Weinidog yn trafod heriau ei swydd newydd, ei brofiad o lywodraethu, a'i weledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Mae'r gynulleidfa yn cael cyfle i holi cwestiynau. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Fri, 07 Aug 2026 - 215 - Amser a ddengys
Des Clifford, cyn-bennaeth Swyddfa Prif Weinidog Cymru, sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod y gwahaniaethau rhwng dyddiau cynnar y Prif Weinidogion Rhun ap Iorwerth ac Andy Burnham.
Mae'r tri hefyd yn trafod strategaeth y ddau arweinydd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn drwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk.
Wed, 29 Jul 2026 - 214 - Crafu'r Cregyn Llong
Cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod diwrnodau cyntaf seithfed Prif Weinidog y DU mewn degawd, Andy Burnham. Mae'r tri hefyd yn trafod penodiad Stephen Kinnock fel Ysgrifennydd Cymru ac yn holi beth mae ei benodiad yn ei olygu i ddatganoli. Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 22 Jul 2026 - 213 - Gwynfor a'r Gyllideb
Wedi sesiwn holi olaf Keir Starmer fel Prif Weinidog, mae Vaughan a Richard yn trafod ei gyfnod wrth y llyw. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi methiant Llywodraeth Cymru i basio ei chyllideb atodol a'r tensiynau rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru. A 60 mlynedd wedi ethol Gwynfor Evans mae ei gyn-asiant, Peter Hughes-Griffiths yn edrych yn ôl ar lwyddiant y cyfnod a'r hyn yr oedd yn ei olygu i Blaid Cymru.
Wed, 15 Jul 2026 - 212 - Dadansoddi gyda Drakeford
Cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sy'n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon.
Mae'r tri yn trafod be all dyfodol y blaid Lafur bod o dan arweinyddiaeth Andy Burnham, ymddiswyddiad Nigel Farage fel Aelod Seneddol a'r galw dros system bleidleisio newydd. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 08 Jul 2026 - 211 - Fformiwla Burnham?
Bethan Rhys Roberts, Richard Wyn Jones ac Elliw Gwawr sy'n craffu ar fformiwla Barnett yr wythnos hon.
Mae'r tri yn trafod pa mor deg yw'r fformiwla i Gymru a pa mor debygol yw Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig o newid y drefn.
Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 01 Jul 2026 - 210 - Meseia heb fandad?
Bethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod pam penderfynodd Keir Starmer i ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur.
Mae'r tri yn trafod be all Andy Burnham fel Prif Weinidog olygu i ddatganoli.
Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 24 Jun 2026 - 209 - Yr YmddiswyddiadMon, 22 Jun 2026
- 208 - Buddugoliaeth i Burnham
Buddugoliaeth Andy Burnham yn is-etholiad Makerfield sy'n destun trafod i Vaughan a Richard.
Mae’r ddau yn dadansoddi beth mae hyn yn golygu i'r Prif Weinidog, Kier Starmerm ac yn ateb eich cwestiynau chi.
Cofiwch fod modd cysylltu trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Fri, 19 Jun 2026 - 207 - Cip ar y Cyfansoddiad
Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithlonrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod ei swydd newydd. Mae’r ddau hefyd yn dadansoddi is-etholiad Makerfield yr wythnos nesa'. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 10 Jun 2026 - 206 - Pedwar Prif Weinidog
Pedwar Prif Weinidog Gyda bron pedair wythnos ers etholiad y Senedd mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o effaith 'nath yr ymgyrch cael ar y bleidlais derfynol. Mae'r tri hefyd yn trafod sesiwn holi gyntaf y Prif Weinidog. Mae'r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 03 Jun 2026 - 205 - Blair iawn
Vaughan a Richard sy'n trafod sylwadau diweddar Syr Tony Blair am sefyllfa Llywodraeth Lafur Prydain. Pa effaith fydd achos cyn brif weithredwr yr SNP Peter Murrell yn ei gael yn yr Alban? Ac mae gan Richard atebion i'ch cwestiynau chi.
Cofiwch fod modd i chi gysylltu â'r criw gyda'ch ymateb chi i'r canlyniad trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 27 May 2026 - 204 - Wythnos Mêl?Wed, 20 May 2026
- 203 - Andy-bendod
Mewn pennod brys o'r pod mae Vaughan a Richard yn ôl i drafod y diweddara o ran sefyllfa wleidyddol yn San Steffan. Mae'r ddau hefyd yn trafod cabinet newydd Lywodraeth Cymru a beth all y newidiadau golygu. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Fri, 15 May 2026 - 202 - Amser i Lywodraethu
Ar ôl canlyniad hanesyddol Etholiad y Senedd wythnos dwetha' mae Vaughan a Richard yn trafod goblygiadau'r canlyniad. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi'r heriau fydd yn wynebu'r Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 13 May 2026 - 201 - Canlyniad Hanesyddol
Mae Vaughan, Bethan a Richard yn cael cwmni y cyn-Brif Weinidog Llafur Carwyn Jones a'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones i ddadansoddi canlyniad hanesyddol yr etholiad. Cofiwch bod modd i chi gysylltu a'r criw gyda'ch ymateb chi i'r canlyniad trwy ebostio gwleidydda@bbc.co.uk
Fri, 08 May 2026 - 200 - Cyfri'r Oriau
Gydag oriau yn unig cyn etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan a Richard yn trafod tactegau'r pleidiau i sicrhau bod eu cefnogwyr yn mynd ati i bleidleisio. Mae'r tri yn asesu sut fath o ymgyrch sydd wedi bod a beth allwn ni ei ddisgwyl ddydd Gwener ar ddiwrnod y cyfri. Mae'r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Tue, 05 May 2026 - 199 - Cofio'r Cyfri
Ar ôl cyflwyno deg etholiad cyffredinol, saith etholiad Cynulliad a Senedd, a phedwar refferendwm, etholiad y Senedd ar ddydd Gwener fydd yr etholiad olaf gyda Dewi Llwyd yn y gadair fawr. Mewn pennod arbennig gyda Vaughan Roderick mae'r ddau yn trafod atgofion o ddyddiau Margaret Thatcher hyd at gyfnod Syr Keir Starmer ac Eluned Morgan.
Sat, 02 May 2026 - 198 - Yr Wythnos Olaf
Gydag ychydig ddyddiau tan etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan, Elliw a Richard yn trafod y diweddara' wrth i ni baratoi ar gyfer y bleidlais. Mae'r pedwar yn edrych nol ar y dadleuon teledu, trafod yr arolwg barn diweddara’ ac yn dadansoddi sut all y nifer sy'n mynd ati i bleidleisio effeithio ar y canlyniad wythnos nesaf. Mae'r panel hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk.
Wed, 29 Apr 2026 - 197 - Dadansoddi'r DadlauThu, 23 Apr 2026
- 196 - Dadleuon a Dadansoddi
Elliw Gwawr, Yr Athro Richard Wyn Jones a Betsan Powys sy'n trafod y diweddaraf yn yr ymgyrch etholiadol. Gyda nifer o ddadleuon teledu wedi bod a mwy ar y gorwel, faint o wahaniaeth mae nhw'n ei gael? Mae'r tri hefyd yn dadansoddi'r arolygon barn diweddaraf. Mae Elliw, Richard a Betsan hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 22 Apr 2026 - 195 - Ymgyrch Dawel?
Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch ar gyfer etholiad Senedd Cymru hyd yma, gan edrych yn benodol ar faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn ateb cwestiynau'r gwrandawyr.
Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 15 Apr 2026 - 194 - Newid Byd
Mae Vaughan yn ôl ac yn ymuno â Bethan a Richard i drafod sefyllfa'r Dwyrain Canol a sut mae digwyddiadau yno am newid ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru? Mae'r tri yn trafod cyhoeddi maniffesto'r Blaid Werdd ar gyfer Etholiad y Senedd fis nesa'. Ac mae Etholiad Senedd Yr Alban hefyd yn cael sylw'r tri. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 08 Apr 2026 - 193 - Fetio cyn Fotio
Ar ôl i nifer o ymgeiswyr dynnu eu henwau yn ôl, mae Bethan a Richard yn trafod y fetio mae'r pleidiau'n gorfod ei wneud cyn Etholiad y Senedd. Fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol bleidiau, mae Aelod o'r Senedd Llafur Alun Davies yn trafod gobeithion y blaid yn yr etholiad. Ac mae Bethan a Richard yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 01 Apr 2026 - 192 - Ta Ta Criw '21
Gyda thymor y chweched Senedd yn dod i ben - mae Bethan a Richard yn trafod y newidiadau sydd wedi bod i'r pleidiau dros y pum mlynedd diwethaf a sut mae gwleidyddiaeth Cymru wedi newid.
Mae Richard yn trafod yr arolwg barn diweddaraf ar etholiad y Senedd ym mis Mai a chawn glywed am gysylltiad Byrllysg y Senedd a maes awyr Heathrow.
Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 25 Mar 2026 - 191 - Y Llywydd - Degawd yn y GadairMon, 23 Mar 2026
- 190 - Tu ôl i'r Llen - Y Paratoi at Lywodraethu
Gyda 50 diwrnod tan etholiad Senedd Cymru, mae cyn bennaeth staff y Prif Weinidog yng nghyfnod Mark Drakeford, Des Clifford sy'n ymuno â Bethan a Richard i drafod y paratoadau sy'n digwydd o fewn y gwasanaeth sifil i'r posibilrwydd o lywodraeth newydd. Mae'r tri hefyd yn trafod sylwadau gan gyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw nad oes angen rôl Ysgrifennydd Cymru. A chofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk.
Wed, 18 Mar 2026 - 189 - Stunts a Datganoli
Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod tensiynau o fewn y blaid Lafur ar ôl i nodyn gan Syr Keir Starmer rhybuddio aelodau ei gabinet rhag dangos gormod o barch i'r llywodraethau datganoledig. Fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol bleidiau, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds yn trafod gobeithion y blaid yn etholiad Senedd Cymru. Ac ar ôl lansiad maniffesto etholiad Reform UK beth mae'r ddogfen yn ei ddweud wrthym ni am y blaid? Mae Bethan a Richard hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 11 Mar 2026 - 188 - Ras y Maniffestos
Gyda'r Ceidwadwyr a Reform UK yn lansio eu maniffestos yr wythnos hon mae Vaughan a Richard yn trafod eu pwysigrwydd. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau hefyd i drafod cynllun 100 niwrnod cynta' Plaid Cymru pe baen nhw mewn llywodraeth ar ôl Etholiad y Senedd ym mis Mai. Ac mae Vaughan a Richard hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 04 Mar 2026 - 187 - Golau Gwyrdd i'r GwyrddionFri, 27 Feb 2026
- 186 - Sgandalau Gwleidyddol
Wrth i sgandal Peter Mandelson parhau i ddominyddu’r agenda gwleidyddol, mae Vaughan a Richard yn trafod sgandalau gwleidyddol dros y blynyddoedd. Mae'r ddau hefyd yn trafod ymgyrch y pleidiau yn yr isetholiad yn Gorton a Denton. Ac os oes gyda chi unrhyw gwestiwn i'r ddau cofiwch fod modd cysylltu trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 25 Feb 2026 - 185 - Nôl ar y cledrau?
Ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Prydain y byddan nhw'n ariannu cynlluniau i wella isadeiledd rheilffyrdd Cymru gyda buddsoddiad o £14 biliwn o bunnau, mae Vaughan a Richard yn trafod y wleidyddiaeth tu ôl i'r datganiad.
Mae'r cynhyrchydd teledu, Steffan Morgan yn ymuno â'r ddau hefyd i drafod ei raglen fydd ar S4C, Reform UK - Tu ôl i'r llenni, sy'n dilyn y blaid yn ardal Llanelli a Chaerfyrddin. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 18 Feb 2026 - 184 - Wythnos Ryfeddol
Ar ôl wythnos dymhestlog yn Downing Street, mae aelod Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod y pwysau sydd wedi bod ar Keir Starmer a'r feirniadaeth bod Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan heb fynegi safbwynt clir am ei ddyfodol.
Mae'r tri yn trafod y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth a gobeithion Llafur ar gyfer Etholiad y Senedd.
Wed, 11 Feb 2026 - 183 - Dewis Dan-nisgwyl?Thu, 05 Feb 2026
- 182 - Anawsterau’r Arglwydd
Ar ôl i'r heddlu ddechrau ymchwiliad troseddol i honiadau bod Peter Mandelson wedi rhannu gwybodaeth sensitif â Jeffrey Epstein pan oedd e'n weinidog cabinet, mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o niwed mae'r sgandal wedi neud i arweinyddiaeth y Prif Weinidog Keir Starmer. Mae'r tri hefyd yn trafod y diweddara' yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn ateb eich cwestiynau. Cofiwch bod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 04 Feb 2026 - 181 - Blocio Burnham
Ar ôl i Faer Manceinion, Andy Burnham gael ei atal rhag sefyll yn yr isetholiad ar gyfer San Steffan mae Vaughan a Richard yn trafod beth all hynny olygu i'r Prif Weinidog, Keir Starmer. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi’r tensiynau o fewn Llafur Cymru ar ôl i'r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood fynnu na fydd Senedd Cymru yn cael pŵer ar blismona. Mae modd i chi gysylltu gyda chwestiynau hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 28 Jan 2026 - 180 - Croesi'r Llawr?
Ar ôl i ddau aelod mainc flaen y Ceidwadwyr gael eu taflu allan o'r blaid yn San Steffan a Bae Caerdydd, mae Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn trafod arwyddocâd hynny i'r Torïaid a Reform. Hefyd fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol pleidiau, mae Gareth Hughes o'r blaid Werdd yn trafod gobeithion y blaid yn etholiad Senedd Cymru wedi arolwg barn calonogol iddi hi yn ddiweddar. Cofiwch fod modd cysylltu gyda unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 21 Jan 2026 - 179 - Prif Weinidog Nesaf Cymru?Wed, 14 Jan 2026
- 178 - "Her fwyaf Llafur yng Nghymru ers 1983"
Aelod Llafur Blaenau Gwent o'r Senedd, Alun Davies sy'n westai ar y podlediad yr wythnos hon, ac wrth edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru eleni mae'n dweud bod y Blaid Lafur yn wynebu’r her etholiadol fwyaf yng Nghymru ers 1983. Mae Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn trafod ei sylwadau ac yn dadansoddi gobeithion y blaid ar gyfer mis Mai. Mae modd i chi gysylltu gyda chwestiynau hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 07 Jan 2026 - 177 - Ta Ta 2025, Helo 2026
Wrth i 2025 ddod i ben, mae Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn edrych yn ôl ar y flwyddyn wleidyddol ac yn edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru 2026. Mae'r ddau yn cael cwmni cyn olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, gohebydd Seneddol San Steffan BBC Cymru, Catrin Haf Jones a gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Dan Davies. Ymhlith y pynciau dan sylw; buddugoliaeth Plaid Cymru yn is-etholiad Caerffili, yr heriau sy'n wynebu'r blaid Lafur a pha fath o ymgyrch allwn ni ei ddisgwyl cyn i Gymru bleidleisio ar y seithfed o Fai.
Mon, 29 Dec 2025 - 176 - Ding Dong 'Dolig
Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod tensiynau mewnol o fewn y blaid Lafur ac arolwg barn newydd sy'n awgrymu bod Plaid Cymru yn dal i ennill tir wrth i ni agosáu at Etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesa'. Mae'r ddau hefyd yn trafod aelodaeth pleidiau gyda Reform yn honni mae hi yw'r blaid sydd a'r nifer fwyaf o aelodau ar draws Prydain. Cofiwch fod modd i chi gysylltu gyda unrhyw gwestiwn trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 17 Dec 2025 - 175 - Golau Gwyrdd i Gyllideb y Llywodraeth
Ar ôl i Blaid Cymru dod i gytundeb gyda Llywodraeth Llafur Cymru ar y gyllideb mae Vaughan a Richard yn dadansoddi beth gall y goblygiadau fod i Rhun ap Iorwerth a'i blaid. Mae'r ddau hefyd yn trafod llythyr gan nifer o Aelodau Llafur y Senedd ym Mae Caerdydd at y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer yn cyhuddo ei lywodraeth o beidio parchu datganoli. Ac ar ôl cwestiynau dros y penodau dwetha' am annibynwyr yn sefyll yn etholiadau'r Senedd mae Vaughan a Richard yn edrych nôl ar eraill sydd wedi bod yn ymgeiswyr yn y gorffennol. Mae modd i chi gysylltu gyda chwestiynau hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 10 Dec 2025 - 174 - Rhagolygon Ceidwadol
Gyda llai na chwe mis i fynd tan etholiad Senedd Cymru, mae Vaughan a Richard yn pwyso a mesur gobeithion Y Ceidwadwyr Cymreig yng ngwyneb twf y gefnogaeth i Reform. Mae Paul Davies, aelod Preseli Sir Benfro a chyn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd hefyd yn rhoi dadansoddiad o'r heriau sy'n wynebu ei blaid dros y misoedd nesaf. Mae Vaughan a Richard hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Mae modd i chi gysylltu hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 03 Dec 2025 - 173 - Cyllideb risg uchel?
Ar ôl i'r Canghellor, Rachel Reeves, gyhoeddi ei chyllideb mae Vaughan a Richard yn trafod ei chynlluniau yng nghwmni Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Catrin Haf Jones gohebydd Seneddol, BBC Cymru. Mae'r pedwar yn dadansoddi'r goblygiadau gwleidyddol a beth fydd yn ei olygu i Lywodraeth Cymru.
Wed, 26 Nov 2025 - 172 - For Caerffili, Read Copenhagen
Wrth i'r Llywodraeth Lafur yn Llundain gyflwyno newidiadau i'r system fewnfudo sy'n seiliedig i raddau helaeth ar y drefn yn Nenmarc, Vaughan Roderick, yr Athro Richard Wyn Jones a chyn-gyfarwyddwr cyfathrebu rhif 10 gyda Boris Johnson, Guto Harri sy'n trafod pa wersi sydd i'w dysgu o'r profiad yn y wlad honno. Hefyd, beth mae mewnfudo yn ei olygu i wleidyddiaeth yn y cyd-destun Cymreig? Mae Vaughan a Richard hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Mae modd i chi gysylltu hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 19 Nov 2025 - 171 - Streeting i aros yn ffyddlon?
Ar ôl i rai o gefnogwyr Syr Keir Starmer ddweud wrth y BBC bod Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Wes Streeting am herio'r prif weinidog mae Vaughan a Richard yn ceisio dirnad beth yn union sy'n mynd ymlaen yn rhengoedd y blaid Lafur. Mae cyn olygydd gwleidyddol BBC Cymru Betsan Powys yn ymuno â'r ddau i ddadansoddi’r cyfan. Mae'r cyn newyddiadurwr, ac ymgeisydd y blaid Werdd yn isetholiad Caerffili, Gareth Hughes yn trafod dylanwad arweinydd newydd y blaid Zack Polanski ac yn trafod gobeithio'n y blaid ar gyfer etholiad y Senedd blwyddyn nesaf. Cofiwch fod modd i chi gysylltu â gofyn cwestiwn i Vaughan a Richard trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 12 Nov 2025 - 170 - Y Gyllideb, Fformiwla Barnett a 'Nonsens' Gwleidyddol
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r gyllideb ddrafft mae Vaughan a Richard yn dadansoddi sut y gall hi gael ei phasio. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr, yn ymuno â'r ddau i drafod, chwe mis cyn etholiad y Senedd, ac yn holi pam bod cymaint o'r pleidiau dal heb gyhoeddi eu hymgeiswyr. Mae Vaughan, Richard ac Elliw hefyd yn ateb cwestiynau gan wrandawyr. Cofiwch fod modd i chi gysylltu hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk.
Wed, 05 Nov 2025 - 169 - Plaid a Reform - Rheoli Disgwyliadau
Mae Bethan Rhys Roberts yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod canlyniad isetholiad Caerffili. Mae'r tri yn dadansoddi ymgyrch Reform UK ac yn trafod os oedd y canlyniad yn fethiant i'r blaid. Mae Cai Parry Jones o Reform UK yn ymuno i drafod y canlyniad gan edrych tuag at etholiad y Senedd blwyddyn nesa'. Mae Vaughan, Richard a Bethan hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd i chi gysylltu trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 29 Oct 2025 - 168 - Plaid yn Cipio CaerffiliFri, 24 Oct 2025
- 167 - D'Hud a D'Lledrith D'Hondt
Gydag etholiad y Senedd ychydig dros chwe mis i ffwrdd mae Vaughan a Richard yn trafod sut fydd y system bleidleisio newydd, fformiwla D'Hondt, yn gweithio. Mae Richard yn dadansoddi beth fydd y canran o bledleisiau tebygol fydd ei angen ar y pleidiau i ennill sedd yn y bae. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch bod modd i chi gysylltu hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk
Wed, 22 Oct 2025 - 166 - Cynhadledd Plaid Cymru a Thactegau Ymgyrchu'r Pleidiau
Cyn ddirprwy Brif Weinidog Cymru a chyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon. Mae'r tri yn dadansoddi cynhadledd y blaid a'r awyrgylch ymhlith aelodau gydag etholiad y Senedd flwyddyn nesa' ar y gorwel, a sut all deinameg y pleidiau edrych yn y Bae yn 2026. A chydag is-etholiad Caerffili yn agosáu mae'r tri yn trafod sut mae tactegau ymgyrchu'r pleidiau wedi newid, a sut mae'r pleidiau yn ffocysu ar etholwyr.
Wed, 15 Oct 2025 - 165 - Cynhadledd y Ceidwadwyr a'r Bedyddwyr Albanaidd (ETO)
Arweinyddiaeth arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, sy'n mynd â phrif sylw Vaughan a Richard yr wythnos hon ar ôl ei haraith yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol. Mae'r Cynghorydd Aled Thomas yn ymuno a'r ddau wedi iddo fod yn y gynhadledd ym Manceinion. A beth yw'r cysylltiad rhwng Llanllyfni a'r Bedyddwyr Albanaidd?
Wed, 08 Oct 2025 - 164 - Cynhadledd Llafur a'r Bedyddwyr Albanaidd
Ar ôl i gynhadledd y Blaid Lafur ddod i ben yn Lerpwl, mae cyn Brif Ysgrifennydd Cymru, Alun Michael, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod araith Keir Starmer. A fydd e'n llwyddo i ysbrydoli ei blaid? Ac mae Richard yn sôn am ei obsesiwn diweddaraf, sef y Bedyddwyr Albanaidd, a dylanwad gwleidyddol sylweddol yr enwad yng Nghymru!
Wed, 01 Oct 2025 - 163 - Ai Jeremy Miles fydd yr olaf?
Ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, gyhoeddi na fydd yn ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd flwyddyn nesaf, mae cyn-olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, yn ymuno â Vaughan a Richard i drafod yr effaith ar y blaid.
Gyda llai na mis i fynd tan isetholiad Caerffili mae'r tri yn dadansoddi'r ymgyrch hyd yma ac yn trafod y data sydd gan y pleidiau ar gyfer etholiadau.
Wed, 24 Sep 2025 - 162 - Ble nesaf i'r blaid Lafur?
Ar ôl cyfweliad Owain Williams gyda Vaughan yn y bennod ddiwethaf mae Richard yn trafod ei oblygiadau i'r blaid Lafur a'r tensiynau sydd yn y blaid ymhlith y carfanau gwahanol. Mae Richard a Vaughan hefyd yn dadansoddi'r arolwg barn diweddara' gan ITV a Phrifysgol Caerdydd ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai.
Wed, 17 Sep 2025 - 161 - Dewis Ymgeiswyr Llafur - Cyfweliad Owain Williams
Gydag etholiad y Senedd yn prysur agosáu mae'r pleidiau wedi bod yn mynd ati i ddewis eu hymgeiswyr ar gyfer yr etholiad ym mis Mai y flwyddyn nesa'. Mi oedd Owain Williams yn gobeithio bod ar restr y blaid Lafur yn etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf ond fe fethodd. Mewn cyfweliad arbennig gyda'n golygydd materion Cymreig Vaughan Roderick - mae'n sôn am broses y blaid o fynd ati i ddewis ymgeiswyr.
Sun, 14 Sep 2025 - 160 - Problemau Llafur yn Pentyrru ac Is-etholiad Caerffili
Gyda'r tymor gwleidyddol newydd yn San Steffan wedi dechrau mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod effaith ad-drefnu cabinet Keir Starmer ar y blaid Lafur. Ar ôl marwolaeth drasig Hefin David yn 47 oed - mae'r tri yn trafod yr isetholiad yng Nghaerffili. Gyda Richard yn ei ddisgrifio fel is etholiad 'gwirioneddol hanesyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru'. Ac mae Vaughan yn sôn am y newid technolegol a ddefnyddiwyd am y tro cynta' yng ngwleidyddiaeth Prydain yn is etholiad Caerffili yn 1968.
Wed, 10 Sep 2025 - 159 - Canrif o Blaid Cymru
Wedi ei recordio yn fyw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Vaughan a Richard yn edrych nôl ar gan mlynedd ers sefydlu Plaid Cymru. Mae'r ddau yn trafod gweledigaeth y sylfaenwyr, a sut mae’r blaid wedi datblygu dros y degawdau.
Roedd sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa hefyd ynglŷn ag etholiad y Senedd flwyddyn nesa', a sut mae gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain yn newid yn sgîl dyfodiad Reform UK.
Mon, 11 Aug 2025 - 158 - Y Prif Weinidog o dan bwysau
Flwyddyn ers i'r fenyw gyntaf ddod yn Brif Weinidog Cymru mae Vaughan yn holi Eluned Morgan am ei phrofiad o arwain y llywodraeth dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hi'n dweud bod yn rhaid i'r blaid Lafur ganolbwyntio ar flaenoriaethau'r etholwyr nid "nonsens gwleidyddol mewnol". Mae Yr Athro Richard Wyn Jones yn dadansoddi'r heriau sy'n ei hwynebu cyn Etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' ac yn trafod dyfodol y blaid Lafur yng Nghymru. Dros y misoedd nesaf mi fydd Vaughan yn cyfweld arweinwyr a ffigyrau amlwg o'r pleidiau eraill.
Wed, 06 Aug 2025 - 157 - Reform yn y Senedd a Phlaid Newydd CorbynFri, 25 Jul 2025
- 156 - Adroddiad Diwedd Tymor
Gyda thymor y Senedd yn y Bae yn dod i ben mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod sut mae'r pleidiau wedi gwneud dros y misoedd dwetha'. Mae'n union flwyddyn ers i Vaughan Gething ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru - faint o gysgod mae ei gyfnod wrth y llyw yn parhau i gael ar wleidyddiaeth Cymru ac ar y blaid Lafur? A gydag adroddiadau bod Jeremy Corbyn yn ystyried creu plaid newydd - faint o effaith fyddai hynny'n ei gael ar etholiad y Senedd y flwyddyn nesa'?
Wed, 16 Jul 2025 - 155 - Blwyddyn o boen i Starmer?
Mae'r Aelod o’r Senedd Llafur, Alun Davies yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod blwyddyn o Lywodraeth Syr Keir Starmer mewn grym yn San Steffan. Ar ôl i 49 Aelod Seneddol Llafur bleidleisio yn erbyn mesur i ddiwygio'r system les - faint o hygrededd sydd gan y Prif Weinidog bellach? Mae Alun hefyd yn sôn wrth Vaughan am yr heriau sy'n wynebu'r blaid yng Nghymru a beth sydd angen digwydd er mwyn i Lafur lwyddo yn Etholiad y Senedd 2026.
Wed, 02 Jul 2025 - 154 - Mwyafrif mawr lot fwy o broblem na mwyafrif bach?
Gyda dros 120 o Aelodau Seneddol Llafur yn cefnogi ymgais i atal cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri rhai budd-daliadau anabledd a salwch mae Vaughan a Richard yn trafod y rhwyg yn y blaid a'r her ma hwn yn achos i'r Prif Weinidog Keir Starmer. Mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr hefyd yn ymuno a'r ddau i ddadansoddi'r tensiynau o fewn y blaid ac mae'r tri yn trafod sut ma' Llafur a Reform yn mynd ati i ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd blwyddyn nesa'.
Wed, 25 Jun 2025 - 153 - Yn fyw o Tafwyl
Mewn pod wedi ei recordio'n fyw o ŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd, mae Vaughan a Richard yn trafod os yw Llywodraeth Cymru ar eu hennill wedi adolygiad gwariant y Canghellor, Rachel Reeves. Mae'r ddau hefyd yn trafod sut mae gwleidyddiaeth wedi newid yn ein dinasoedd. A chyfle i'r gynulleidfa holi cwestiynau i Vaughan a Richard.
Mon, 16 Jun 2025 - 152 - Arian, Arian, Arian - ond faint i Gymru?
Gyda'r Canghellor Rachel Reeves wedi cyhoeddi ei hadolygiad gwariant i adrannau Llywodraeth y DU - faint o arian newydd sydd i Gymru? Mae gohebydd gwleidyddol y BBC Elliw Gwawr, cyn olygydd gwleidyddol y BBC Betsan Powys a'r cyn Aelod Seneddol, Jonathan Edwards yn dadansoddi'r cyfan gyda Vaughan. Ac a oes gormod o bŵer gan y pleidiau wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer Etholiad y Senedd y flwyddyn nesa'?
Wed, 11 Jun 2025 - 151 - Ffrae o fewn Reform UK, sioc i Lafur, a siom i’r SNP
Ar ddiwedd wythnos gythryblus arall yn y byd gwleidyddol, Kate Crockett sy’n holi Llyr Powell o Reform UK yn dilyn ymddiswyddiad Zia Yusuf fel cadeirydd y blaid.
Ac mae ‘na sioc wleidyddol draw yn yr Alban, wedi i Lafur gipio sedd gan yr SNP mewn isetholiad. Mae’r athro Richard Wyn Jones yn trafod beth all hynny ei olygu i obeithion Llafur Cymru yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
Fri, 06 Jun 2025 - 150 - Yr ifanc am bleidleisio?
Fel rhan o'u taith dros yr haf mae Vaughan a Richard wedi bod i Eisteddfod yr Urdd i ddadansoddi perthynas pobl ifanc â gwleidyddiaeth. Mae dau aelod o'r Senedd Ieuenctid, Maisie a Ffion yn ymuno â'r ddau i drafod cyflwyno'r bleidlais i bobl ifanc 16 oed a throsodd a'r pynciau sydd o bwys i'r to ifanc.
Fri, 30 May 2025 - 149 - Brexit yn ôl ar y fwydlen?
Ar ôl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi cytundeb newydd â'r Undeb Ewropeaidd - ydy'r bartneriaeth ag Ewrop yn ôl ar yr agenda gwleidyddol? Mae Vaughan a Richard yn trafod y polau piniwn diweddara' ac yn ymateb i'r arolwg barn Cymreig arwyddocaol gafodd ei gyhoeddi bythefnos yn ôl. A pham ymddiheurodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer i Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts?
Wed, 21 May 2025 - 148 - Ffordd goch Gymreig?
Wythnos enfawr o wleidyddiaeth yng Nghymru gydag araith gan Brif Weinidog, Eluned Morgan yn ceisio ymbellhau rhag Keir Starmer a'i lywodraeth. Fe ddaw hwn ar ôl i bôl piniwn newydd roi'r Blaid Lafur yn drydedd ar gyfer etholiadau'r Senedd a Phlaid Cymru yn gyntaf - mae Richard yn dadansoddi'r cyfan. Yn y stiwdio gyda Vaughan, mae gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr a Desmond Clifford - cyn Prif Ysgrifennydd Preifat i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones a Mark Drakeford yn trafod goblygiadau'r pôl piniwn gyda blwyddyn i fynd cyn etholiad y Senedd.
Wed, 07 May 2025 - 147 - Y Tir CanolWed, 30 Apr 2025
- 146 - Y Tir CanolWed, 30 Apr 2025
- 145 - Crefydd a Gwleidyddiaeth yng Nghymru
A hithau'n Basg, mae'r cyn ymgeisydd Llafur, Y Parchedig D Ben Rees yn ymuno a Richard a Vaughan i drafod y berthynas rhwng crefydd a gwleidyddiaeth dros y canrifoedd a gofyn beth yw'r berthynas erbyn hyn? Mae Vaughan a Richard hefyd yn dadansoddi pwysigrwydd etholiadau lleol Lloegr mis nesa' a beth fydd goblygiadau'r canlyniadau.
Wed, 16 Apr 2025 - 144 - Crefydd a Gwleidyddiaeth yng Nghymru
A hithau'n Basg, mae'r cyn ymgeisydd Llafur, Y Parchedig D Ben Rees yn ymuno a Richard a Vaughan i drafod y berthynas rhwng crefydd a gwleidyddiaeth dros y canrifoedd a gofyn beth yw'r berthynas erbyn hyn? Mae Vaughan a Richard hefyd yn dadansoddi pwysigrwydd etholiadau lleol Lloegr mis nesa' a beth fydd goblygiadau'r canlyniadau.
Wed, 16 Apr 2025 - 143 - Datganiad Gwanwyn y CanghellorWed, 26 Mar 2025
- 142 - Cyllideb Cymru a Phwy fydd Ymgeiswyr y Pleidiau?Wed, 05 Mar 2025
- 141 - Diwygiad ar Droed?
Gyda'r arolygon barn yn awgrymu y bydd Reform yn mwynhau llwyddiant yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesa' mae Elliw Gwawr yn ymuno â Vaughan a Richard i drafod sut all ei apêl newid gwleidyddiaeth Cymru.
Mae'r tri hefyd yn trafod pam fod 10 Aelod o'r grŵp Llafur yn y Bae ddim am sefyll yn etholiad 2026; faint o broblem fydd hynny i'r blaid?
Wed, 19 Feb 2025 - 140 - Ail ddaergryn ar droed?
Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod gobeithion Plaid Cymru yn Etholiad Senedd 2026. A fydd y blaid yn medru ail-adrodd y llwyddiant a welwyd yn etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999 y flwyddyn nesaf?
Mae'r Arglwydd Wigley hefyd yn esbonio pam mai arweinydd y Blaid, Rhun ap Iorwerth fydd Prif Weinidog Cymru ar ôl yr etholiad nesa'.
Wed, 29 Jan 2025 - 139 - Llafur Caled
Mae Vaughan a Richard nôl gyda rhifyn cyntaf o'r flwyddyn gan droi eu sylw at y Blaid Lafur. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau i drafod rhybudd un o gyn-weinidogion Llywodraeth Cymru, Lee Waters bod ei blaid mewn perygl o dderbyn "cic" yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.
Mae'r cyn Aelod Seneddol, Llafur Jon Owen Jones hefyd ar y pod i drafod y berthynas rhwng Llafur San Steffan a Llafur Cymru. Oes angen i Eluned Morgan dorri cwys ei hun ac ymbellhau oddi wrth Keir Starmer?
Wed, 15 Jan 2025 - 138 - Golwg ar y Flwyddyn Wleidyddol
Yn ymuno â Vaughan a Richard ym mhennod ola'r flwyddyn mae'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, aelod Ceidwadol dros Dde Orllewin yn Senedd Cymru, Tom Giffard a Nerys Evans o gwmni materion cyhoeddus Deryn sydd hefyd yn gyn aelod Cynulliad Plaid Cymru.
Digwyddiadau y flwyddyn a fu ym Mae Caerdydd fydd dan sylw gan gynnwys ymddiswyddiad Vaughan Gething, etholiad cyffredinol 2024 ac mae'r pump hefyd yn ceisio gan ddarogan beth fydd ar yr agenda gwleidyddol yn y misoedd i ddod.
Wed, 18 Dec 2024 - 137 - Ta Ta RT
Ar ôl i Andrew RT Davies ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r heriau i'r blaid ac yn gofyn pwy sy'n debygol o'i olynu. Mae Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol Golwg 360 yn y Senedd yn ymuno i drafod sut all Llywodraeth Cymru pasio ei gyllideb wythnos nesa'. Ac ar ôl i arolwg barn newydd osod Plaid Cymru ar y blaen am y tro cyntaf ers 2010, Llafur a Reform yn gydradd ail a'r Ceidwadwyr yn bedwerydd. Beth all hyn olygu i'r pleidiau?
Wed, 04 Dec 2024 - 136 - Pwy ydyn ni? A sut mae'n effeithio ar ein pleidlais?
Sut mae ein hunaniaeth yn effeithio ar y ffordd 'da ni'n mynd ati i bleidleisio? Dyna sy'n cael sylw Vaughan a Richard yn y bennod ddiweddara. Mae'r ddau yn trafod sut mae patrymau pleidleisio wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf.
Hefyd, trafod llyfr Richard sy'n astudio meddylfryd gwleidyddol Plaid Cymru o 1925 i 1997.
Wed, 27 Nov 2024 - 135 - Trump yn y Tŷ Gwyn ac effaith y gyllideb ar Gymru
Bethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod buddugoliaeth Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol yn America. Wythnos wedi'r gyllideb mae Guto Ifan hefyd yn ymuno i drafod goblygiadau cyhoeddiad Rachel Reeves ar Gymru. Ac ar ôl i Kemi Badenoch gael ei hethol yn arweinydd newydd y Ceidwadwyr, mae'r ddau yn trafod yr heriau i'r blaid ar lefel Brydeinig ac yma yng Nghymru.
Wed, 06 Nov 2024 - 134 - Cyfraniad Alex Salmond a 100 diwrnod cyntaf Llafur
Ar ôl marwolaeth cyn Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond, mae Vaughan a Richard yn trafod ei farc ar wleidyddiaeth Prydain. Mae'r ddau hefyd yn trafod 100 diwrnod cyntaf Keir Starmer yn Downing Street ac yn edrych ymlaen at y ras i fod yn arweinydd y blaid Geidwadol rhwng Kemi Badenoch a Robert Jenrick.
Tue, 15 Oct 2024 - 133 - Tymor Newydd yn Dechrau
Gyda'r tymor seneddol newydd wedi dechrau mae Vaughan a Richard yn trafod yr hyn fydd ar yr agenda ym Mae Caerdydd a San Steffan. Maen nhw hefyd yn dadansoddi penodiadau Eluned Morgan i'w chabinet ar hyn mae'r penodiadau yn golygu i'r grŵp Llafur yn y Bae. Ac a hithau'n ddeng mlynedd ers refferendwm annibyniaeth yr Alban mae cyflwynydd Newyddion S4C, Bethan Rhys Roberts, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i rannu ei hatgofion hi o'r cyfnod ac i drafod dyfodol yr SNP.
Wed, 18 Sep 2024 - 132 - O Faes yr Eisteddfod
Wedi'i recordio ar faes yr Eisteddfod, mae Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr heriau sy'n wynebu Prif Weinidog newydd Cymru, Eluned Morgan. Mae'r ddau yn dadansoddi etholiad y Senedd yn 2026, a sut fydd y system bleidleisio newydd yn gweithio. Ac i gloi mae ychydig o gwestiynau gan y gynulleidfa i'r ddau.
Wed, 07 Aug 2024 - 131 - Eluned Morgan yn arweinydd y Blaid Lafur yng NghymruWed, 24 Jul 2024
- 130 - Ymddiswyddiad Vaughan Gething
Ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd fel Prif Weinidog Cymru, Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones sy’n trafod y ffactorau wnaeth arwain at ei benderfyniad. Mae’r ddau yn dadansoddi'r hyn mae’n golygu i’r Blaid Lafur a’r heriau fydd yn wynebu grŵp y blaid yn y Senedd gan ystyried pwy sy’n debygol o sefyll os oes ras i’w olynu.
Wed, 17 Jul 2024 - 129 - 10 Gorffennaf: Dadansoddi canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol
Ar ôl i'r blaid Lafur ennill buddugoliaeth hanesyddol yn yr etholiad cyffredinol mae Vaughan a Richard yn dadansoddi’r canlyniadau yng Nghymru gan drafod ymgyrch y pleidau gan edrych ymlaen hefyd at etholiadau'r Senedd yn 2026. Mae’r ddau hefyd yn rhannu eu hargraffiadau o ddyddiau cynnar llywodraeth Keir Starmer ac yn ystyried dyfodol y Blaid Geidwadol.
Wed, 10 Jul 2024 - 128 - 02 Gorffennaf: Dyfodol y Ceidwadwyr, a'r etholiad yn yr Alban
Yn y podlediad olaf cyn yr etholiad cyffredinol, cyn ymgynghorydd Boris Johnson, Guto Harri sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Ymgyrch y Ceidwadwyr a dyfodol y blaid yw rhai o’r pynciau o dan sylw. Mae golwg penodol hefyd yn cael ei rhoi i’r etholiad yn yr Alban ac argraffiadau'r ymgyrch dros y pum wythnos diwethaf.
Tue, 02 Jul 2024 - 127 - 26 Mehefin: Y sgandal gamblo, a'i effaith ar yr ymgyrchWed, 26 Jun 2024
- 126 - 19 Mehefin: Maniffestos Y Blaid Lafur a Phlaid Cymru
Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod maniffestos y Blaid Lafur a Phlaid Cymru gan ystyried perthynas Llafur Cymru a'r blaid yn eangach ar lefel Brydeinig. Yn ymuno gyda'r ddau mae Owen John cyn ymgynghorydd arbennig i gyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i drafod tactegau Llafur yn yr ymgyrch hyd yma. Hefyd mae'r ddau yn dadansoddi yr ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr dros yr wythnos diwethaf, tactegau ymgyrchu'r Democratiaid Rhyddfrydol ac arwyddocad Reform UK yn lansio ei 'chytundeb' gyda'r bobl ym Merthyr Tudful.. Cyfle hefyd i roi sylw penodol i etholaethau'r Canolbarth a'r Gorllewin.
Wed, 19 Jun 2024 - 125 - 12 Mehefin: Etholaethau'r GogleddWed, 12 Jun 2024
- 124 - Llond Bol o BledleisioThu, 25 Mar 2021
- 123 - Brexit yn BerwiFri, 18 Dec 2020
Podcasts similares a Gwleidydda
El Partidazo de COPE COPE
Herrera en COPE COPE
La Linterna COPE
Dante Gebel Live Dante Gebel
Es la Mañana de Federico esRadio
La noche de Cuesta esRadio
La Trinchera de Llamas esRadio
Hondelatte Raconte Europe 1
Affaires sensibles France Inter
LEGEND Guillaume Pley
El colegio invisible OndaCero
La Rosa de los Vientos OndaCero
Les grands dossiers de l'Histoire par Franck Ferrand Radio Classique
Espacio en blanco Radio Nacional
Enquêtes criminelles RTL
Entrez dans l'Histoire RTL
Le grand récit RTL
Les Grosses Têtes RTL
L'Heure Du Crime RTL
Parlons-nous RTL
El Larguero SER Podcast
SER Historia SER Podcast
Todo Concostrina SER Podcast
Un Libro Una Hora SER Podcast
The Rest Is Politics Goalhanger
The Rest Is Politics: US Goalhanger
Americast BBC News
The News Agents - USA Global
The Rest Is Politics: Leading Goalhanger
The Trawl Jemma Forte & Marina Purkiss
Deadline: White House Nicolle Wallace, MS NOW
TRUMP100 Sky News
The Beat with Ari Melber Ari Melber, MS NOW
The State of It The Times
DUDEK o polityce prof. Antoni Dudek i Super Exspress
The spiked podcast The spiked podcast